Cardiff & Vale Regional Partnership Board is thrilled to announce an exciting collaboration between the Emergency Department at Cardiff & Vale University Health Board and Welsh Ambulance Services Trust (WAST) to enhance seamless unscheduled care for people living with dementia.
This partnership aims to map the patient journey from a 999 call through to emergency admission, addressing key challenges such as handover delays, overstimulation, and the complexity of the care process. By working together, we are committed to co-producing solutions with the community, improving physical environments, and ensuring smoother handovers between staff to minimize distress and confusion for both patients and carers.
Anticipated Benefits:
- People’s voices will directly shape services
- Enhanced communication and handovers, prioritizing patient well-being
- Improvements in care environments to reduce agitation and distress
- Better staff training for more compassionate and skilled care
- Use of data to drive progress and set benchmarks
This is just the beginning—watch this space for further updates as we continue this journey to transform dementia care. Together, we are building a system that truly puts people at the heart of the process. #DementiaCare #PartnershipInAction #BetterCare
Trawsnewid Gofal Dementia: Ymdrech ar y Cyd
Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro yn falch iawn o gyhoeddi cydweithrediad cyffrous rhwng Adran Achosion Brys Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) i wella gofal di-dor heb ei drefnu i bobl sy’n byw gyda dementia.
Nod y bartneriaeth hon yw mapio taith y claf o’r alwad 999 i’r derbyniad brys, gan fynd i’r afael â heriau allweddol megis oedi wrth drosglwyddo, gor-symbylu, a chymhlethdod y broses ofal. Drwy gydweithio, rydym wedi ymrwymo i gydgynhyrchu atebion gyda’r gymuned, gwella amgylcheddau ffisegol, a sicrhau trosglwyddiadau mwy didrafferth rhwng staff er mwyn lleihau gofid a dryswch i gleifion a gofalwyr.
Manteision a Ragwelir:
- Lleisiau pobl yn llywio gwasanaethau yn uniongyrchol
- Cyfathrebu a throsglwyddo gwell rhwng staff, gan flaenoriaethu lles cleifion
- Gwelliannau mewn amgylcheddau gofal i leihau cynnwrf a gofid
- Hyfforddiant gwell i staff er mwyn sicrhau gofal mwy tosturiol a medrus
- Defnyddio data i ysgogi cynnydd a gosod meincnodau
Dim ond y dechrau yw hyn — cadwch lygad am ddiweddariadau pellach wrth i ni barhau â’r daith hon i drawsnewid gofal dementia. Gyda’n gilydd, rydym yn adeiladu system sydd wir yn rhoi pobl wrth wraidd y broses.
#GofalDementia #PartneriaethArWaith #GofalGwell