Croeso

Mae’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) yn cynnwys Cyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, tai, y trydydd sector a’r sector annibynnol a chynrychiolwyr gofalwyr

Ein nod yw gwella iechyd a lles y boblogaeth a gwella’r ffordd y caiff gwasanaethau iechyd a gofal eu darparu drwy sicrhau bod pobl yn cael y cymorth cywir, ar yr adeg iawn, yn y lle iawn. 

Adroddiad Blynyddol 2022-23

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro yn falch o allu rhannu ein gwaith yn 2022-23.

Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at beth o’r
gwaith a gyflawnwyd gan y Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol er mwyn gwella bywydau’r bobl
sy’n byw yng Nghaerdydd a’r Fro.

Ein Prif Flaenoriaethau yw: 

Gwneud y defnydd gorau o adnoddau drwy ddarparu systemau sy’n cydweithio’n gyflym ac yn effeithlon. 

Cael cymorth brys i bobl pan fydd ei angen arnynt 

Cefnogi pobl i fyw gartref cyhyd ag y bo modd 

Atal niwed y gellir ei osgoi  

Sicrhau bod pobl yn gallu darganfod yn hawdd beth sydd ar gael yn eu cymuned fel eu bod yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt ac yn gwneud y pethau y maent yn eu mwynhau 

Arbed amser pobl drwy leihau amseroedd aros a rhannu gwybodaeth fel mai dim ond unwaith y mae’n rhaid iddynt ddweud wrthym 

Sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, yn enwedig yn eu 1000 diwrnod cyntaf, y gwyddom y gall osod cyfeiriad gweddill eu bywydau. 

Astudiaethau Achos a Straeon Dinasyddion

Rhan allweddol o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yw sicrhau y gofynnir i bobl beth sy’n bwysig iddynt.

Tanysgrifiwch i gael y newyddion a’r newyddion diweddaraf gan BPRh Caerdydd a’r Fro 

Cadw mewn cysylltiad 

Os hoffech glywed mwy am waith y BPRh drwy gylchlythyrau neu ddiweddariadau rheolaidd ar ddigwyddiadau a gweithgareddau ymgysylltu sydd i ddod, rhowch eich manylion cyswllt. 

Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu at ddibenion anfon manylion am waith y BPRh atoch ac ni fydd yn cael ei rhannu ag unrhyw drydydd parti. I gael rhagor o fanylion ynghylch sut rydyn ni’n prosesu data personol, gweler ein  Polisi Preifatrwydd.

Skip to content