Dechrau’n Dda

Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi. Mae’n cwmpasu dau faes allweddol:

  • emPOWER: Iechyd a lles emosiynol
  • Plant gydag anghenion ac anableddau cymhleth

Rydym yn edrych ar ffyrdd y gall gwasanaethau gydweithio i gefnogi plant a sicrhau y gall eu gwaith barhau mewn cyfnod o argyfwng. Pan fydd y sector iechyd, gofal, addysg a’r trydydd sector yn gweithio gyda’i gilydd, rydym wedi gweld y gallant ddarparu pecyn sy’n diwallu anghenion y plentyn orau a gall helpu i atal sefyllfa heriol rhag gwaethygu

Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf

Ein blaenoriaethau yw:

Gweithredu’r dull ysgol gyfan lle mae gan bawb ran i’w chwarae o ran cefnogi iechyd a lles plant a phobl ifanc

Creu fframwaith rhanbarthol sy’n nodi safon ar gyfer darparu gwasanaethau y gellir eu teilwra a’u defnyddio’n lleol

Sicrhau bod ymagwedd gydgysylltiedig tuag at iechyd meddwl a lles emosiynol

Creu adnoddau rhanbarthol ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth

Gwella cymorth i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol

Dolenni defnyddiol

BYDD PARTNERIAID YN GWEITHIO GYDA’I GILYDD I FYND I’R AFAEL Â BLAENORIAETHAU A RENNIR I WELLA IECHYD A LLES PLANT A PHOBL IFANC, ER ENGHRAIFFT O RAN IECHYD MEDDWL AC EMOSIYNOL.

Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf

Ein Prif Flaenoriaethau

DECHRAU’N DDA
STARTING WELL

Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.

HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL

Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt. 

BYW’N DDA
LIVING WELL

Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf. 

Astudiaethau Achos

Skip to content