Ni fu erioed fwy o angen am ecosystem arloesi gydlynol ac effeithiol.

Amdanom ni

Mae Hwb RIC Caerdydd a’r Fro yn rhan o rwydwaith arloesi cenedlaethol cydgysylltiedig a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Cawn ein cynnal gan y Bwrdd Iechyd ac rydym yn rhan o Sefydliad Calon y Ddraig. Rydym yn gweithio fel galluogwr rhaglen drawsnewid y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (RPB) ac yn ategu’r Gronfa Integredig Ranbarthol (RIF) gan ganolbwyntio ar seilwaith a gweithgarwch arloesi sy’n helpu i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal.

Beth rydyn ni’n ei wneud

Mae ein pwyslais ar fewnforio ac allforio arfer da, rhannu dysgu a phrofiad a llywio’r broses o fabwysiadu a lledaenu gweithgarwch a fydd yn sicrhau gwerth uwch i ddarparwyr gwasanaethau, cleifion a dinasyddion fel ei gilydd.

Ein gwaith

Mae’r hwb wedi nodi themâu cyffredin sy’n rhychwantu gwahanol rannau o’n system iechyd a gofal cymdeithasol a grwpiau boblogaeth. Rydym wedi coladu gweithgarwch arloesi rhanbarthol a chenedlaethol sy’n mynd i’r afael â’r themâu hyn er mwyn cefnogi’r broses o rannu dysgu a dathlu arfer da.

Ein Rhwydwaith

Yn ogystal, mae cydweithio agosach â chyrff cenedlaethol fel Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Gwelliant Cymru, Canolfan Ragoriaeth Menter Ymchwil Busnesau Bach, Rhaglen Enghreifftiol Comisiwn Bevan a Thechnoleg Iechyd Cymru yn hanfodol er mwyn: cyrchu arbenigedd a rennir a swyddogaethau cyffredin megis sganio’r gorwel a gwerthuso technoleg; a chyflwyno Cymru fel un system gydlynol sy’n ddeniadol i bartneriaid arloesi a gwella allanol, gan gynnwys diwydiant a chyllidwyr strategol.

Nod Rhwydwaith Hwb RIC yw:

Cyfrannu at ecosystem arloesi gydlynol a all ddangos astudiaethau achos â thystiolaeth.

Gwella canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau drwy nodi a hyrwyddo gweithgarwch arloesi a gwella gwerth uchel, er enghraifft drwy atal, diagnosis cynharach, ymyrraeth fwy cywir, a mynd i’r afael ag amrywiadau a dyblygu diangen yn y system.

Cefnogi’r gwaith o ledaenu a mabwysiadu dulliau arloesi cyfredol a hyrwyddir o fewn GIG Cymru a gofal cymdeithasol.

SuppoCefnogi’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu syniadau newydd yn ehangach ar draws Byrddau Iechyd neu Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol.

Gosod ein Hagenda

Mae’r Hwb yn cyd-fynd â ‘Cymru Iachach’ a Cymru’n arloesi: Creu Cymru gryfach, decach a gwyrddach fel y polisïau trosfwaol. Blaenoriaethau Gweinidogol y Rhaglen yw’r rhai a gadarnhawyd yn Fframwaith Cynllunio GIG Cymru 2022-2025 ac, fel elfen allweddol o’r Rhaglen, bydd y Rhwydwaith yn cyfrannu’n allweddol at ei nodau a’i dargedau arloesi ehangach.

Sut rydym yn gweithio

Mae gan y Rhwydwaith gylch gwaith diffiniedig ar gyfer cydgysylltu gweithgarwch a nodi dulliau arloesi sy’n gweithio ac yn darparu gwell ansawdd a gwerth, o gymharu â’r sefyllfa bresennol. Mae’r Hwb yn cefnogi arloesi yn unol â’r Egwyddorion Dylunio a ganlyn gan Cymru Iachach:

Gwerth Uwch

Cyflawni gwell canlyniadau a phrofiad gwell i bobl am gost is; gofal a thriniaeth sydd wedi’u cynllunio i gyflawni’r ‘hyn sy’n bwysig’ ac sy’n cael eu darparu gan y person iawn ar yr adeg iawn; llai o amrywiad a dim niwed.

Seiliedig ar Dystiolaeth

Defnyddio ymchwil a gwybodaeth i ddeall beth sy’n gweithio; dysgu oddi wrth eraill a gydag eraill; defnyddio dulliau arloesi a gwella i ddatblygu a gwerthuso gwell offer a ffyrdd o weithio.

Graddadwy

Sicrhau bod arfer da yn cynyddu o lefel leol i lefel ranbarthol a chenedlaethol, ac allan i dimau a sefydliadau eraill.

Trawsnewidiol

Sicrhau bod ffyrdd newydd o weithio yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy, eu bod yn newid ac yn disodli dulliau gweithredu presennol, yn hytrach nag ychwanegu haen gwasanaeth parhaol ychwanegol at yr hyn a wnawn yn awr.

Lledaenu Arfer Da/ Astudiaethau Achos

Mae adrodd straeon yn rhan enfawr o’r hyn rydym yn ei wneud i rannu dulliau arloesi gwych. Nod ein straeon yw tynnu sylw at brosiectau a yrrir gan dystiolaeth sy’n ymwneud â ffyrdd newydd o weithio sy’n fforddiadwy ac yn gynaliadwy ac sy’n bwriadu disodli dulliau hen ffasiwn presennol. Rydym yn adrodd straeon y rhai sydd wrth galon ein gwasanaethau fel y gellir lledaenu, cynyddu a mabwysiadu gwasanaethau tebyg ar draws Caerdydd a’r Fro, Cymru a thu hwnt. Nid yw eraill yn cefnogi’r hyn rydych chi’n ei wneud – maen nhw’n cefnogi pam rydych chi’n ei wneud.

Gwasanaeth Lles Meddygol Amddiffyn – Cefnogi’r Rheng Flaen

Bu’r Hwb RIC yn sgwrsio â Mike Davies sydd â’r rôl hynod werth chweil o gysylltu pobl â chymorth yn y gymuned yng Nghymru.

Mae’n defnyddio presgripsiynu cymdeithasol i ddarparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn drwy ddatgloi atebion i wella lles, cefnogi adferiad cynaliadwy, pontio i’r cartref a chaniatáu i gleifion barhau i fyw eu bywydau yn y ffordd y dymunant. Nid yn unig y mae’r rôl hon yn gwella profiad y claf ond mae hefyd yn lleihau nifer y diwrnodau gwely yn yr ysbyty, aildderbyniadau diangen ac yn rhyddhau clinigwyr i wneud gwaith clinigol. Darllen erthygl lawn.

Gweithiodd yr Hwb gydag Enfys, tîm seicoleg a therapi galwedigaethol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal, wedi’u mabwysiadu, ac ar ffiniau gofal, i adrodd profiad bywyd un ferch ifanc yn cael ei magu mewn lleoliad maethu trawshiliol.

Mae’r ffilm galonogol hon yn sôn am yr heriau y mae hi wedi’u hwynebu yn hanesyddol ac yn arddangos sut y gellir goresgyn yr heriau hynny.

Mae Enfys bellach yn defnyddio profiadau Tinesha fel arf dysgu i lywio gwasanaethau ac arferion y dyfodol a deall sut y gellir cefnogi ein pobl ifanc yn y dyfodol.

Gwnaeth yr Hwb gefnogi Innovate Trust a Chyngor Bro Morgannwg mewn cynllun peilot a oedd yn canolbwyntio ar ddull gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ochr yn ochr â dull arloesol o ddefnyddio technoleg glyfar mewn llety byw â chymorth.

Mae’r gwaith hwn wedi darparu sylfaen a man cychwyn ar gyfer cefnogi oedolion ag anableddau ac anghenion cymhleth, sy’n pontio o’r ysgol neu’r coleg i’r gymuned, i symud i Dŷ Clyfar ar denantiaeth tymor byr lle byddant yn cael eu hasesu a’u cefnogi i ddefnyddio technoleg brif ffrwd er budd ac i helpu i hybu annibyniaeth yn eu bywydau bob dydd.

Cynhyrchodd yr Hwb y ffilm hon i adrodd stori Stacey a Joanna, dau berson ysbrydoledig ag anabledd dysgu, a oedd yn cael eu cyflogi gan wasanaethau anabledd dysgu. Mae’n amlygu’r manteision y gall cyflogi pobl â phrofiad bywyd eu cael i’r unigolion a gyflogir a’r gwasanaethau y maent yn cael eu cyflogi iddynt.

Mae cynhyrchu a lledaenu’r ffilm hon wedi sicrhau cyllid a diogelwch yn y dyfodol i’r unigolion a’u swyddi ac mae wedi cynyddu awydd ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol am rolau tebyg i helpu i lunio ein gwasanaethau yn y dyfodol.

Gweler ein canllaw isod i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio a sut i ddatblygu rolau profiad bywyd.

Mae Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro wedi ymuno â Phrosiect ‘Making Well’ y Fathom Trust i archwilio beth yw manteision Presgripsiynu Gwyrdd i iechyd a lles pobl.

Fel rhan o’u buddsoddiad mewn presgripsiynu cymdeithasol, mae Clwstwr Meddygon Teulu De-orllewin Caerdydd wedi ymuno â parkrunUK a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol i ddechrau eu menter parkrun Practice eu hun i annog pobl i fod yn fwy egnïol a chymryd rheolaeth o’u lles. Mae wedi’i rannu ledled Cymru a’r DU a hefyd wedi’i rannu â Chynllun Cenedlaethol Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Llywodraeth Cymru.

Mae Tyfu’n Dda yn brosiect garddio cymunedol a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Chlwstwr Meddygon Teulu De-orllewin Caerdydd. Mae cydweithrediad gweithwyr gofal iechyd proffesiynol lleol a gwirfoddolwyr yn helpu i gynnwys pobl â phroblemau iechyd er mwyn iddynt wella a ffynnu trwy dyfu cymunedol therapiwtig.

Bu’r Hwb yn gweithio gyda’r prosiect presgripsiynu cymdeithasol arloesol i gasglu rhai o’r straeon unigol am bobl yn elwa ar y gwasanaeth er mwyn lledaenu’r manteision sydd ganddo i iechyd a lles.

Mae arddegwyr o bob cwr o Dde Cymru wedi dechrau ar her ffitrwydd wythnos o hyd i hybu’u llesiant a’u hiechyd meddwl yn ystod pandemig COVID-19. Gweld mwy Arddegwyr yn cymryd cam ymlaen dros iechyd meddwl – CAVRPB

Mae’r Prosiect Ocsid Nitrus wedi arwain at leihad enfawr yn y defnydd o ocsid nitrus yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi rhagweld arbedion o 1.15m litr y flwyddyn – sy’n cyfateb i 679 tunnell o CO2.

Bu’r Hwb yn gweithio gyda’r tîm ar ôl y peilot i arddangos eu stori fel y gellir ei lledaenu a’i mabwysiadu ledled Cymru a thu hwnt.

Arloesi Lleol

Mae llawer o ddatblygiadau arloesol diddorol a chyffrous yn cael eu rhoi ar waith ledled Caerdydd a’r Fro. Mae’r gyfres hon yn edrych ar enghreifftiau o bob rhan o’r ardal leol sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth o ddulliau sy’n cael eu defnyddio i wella bywydau, iechyd a lles. 

Eisiau creu canolbwynt bwyd hunangynhaliol sy’n cael ei yrru gan y gymuned yn eich ardal? Edrychwch ar y datblygiad arloesol ac ysbrydoledig hwn o Fro Morgannwg. Ddarllen mwy.

Gwenwyno damweiniol gan gyffuriau yw prif achos marwolaeth y gellir ei hatal ymhlith pobl sy’n defnyddio opioidau yn y Deyrnas Unedig. Edrychwyd ar ddatrysiad arloesol Bwrdd Cynllunio Ardal Caerdydd a’r Fro. Ddarllen mwy.

Datrysiad TG parod i chwyldroi’r broses o gael caniatâd claf . Ddarllen mwy.

Canllawiau Hwb RIC

Er mwyn cefnogi diwylliant lle mae arloesi yn ganolog i ddarparu gwasanaethau, mae’r Hwb wedi cynhyrchu amrywiaeth o ganllawiau arloesi y gellir eu defnyddio i helpu i ddarparu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar eich gwasanaeth i arloesi yn eich maes gwasanaeth.

Mae rhoi gwerth wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau yn golygu bod angen inni ailfeddwl sut y caiff gwasanaethau eu darparu, gan ychwanegu gwerth ar bob cam. Mae’r Dull Seiliedig ar Werth yn ffordd systematig o ystyried a defnyddio adnoddau i roi canlyniadau gwell i bob person. Darllen mwy. 

Gall cynnwys pobl sydd â phrofiad bywyd gael effaith gadarnhaol ar y gwaith a wnawn a gall lywio newidiadau i wasanaethau a’r ffordd yr ydym yn gweithio. I wneud hynny’n ystyrlon, mae’n bwysig deall beth sy’n gweithio’n dda, beth allai’r heriau a’r rhwystrau fod a sut i’w goresgyn. Mae’r Hwb wedi creu canllaw i roi lle i chi ddechrau. Darllen mwy.

Gan ddefnyddio adnoddau a llenyddiaeth sy’n bodoli eisoes, mae’r Hwb wedi llunio canllaw hawdd i helpu i egluro’r heriau, rhwystrau a galluogwyr cyffredin sy’n gysylltiedig â chyflogi pobl â phrofiad bywyd. Darllen mwy.

Dull gwahanol o gomisiynu sy’n canolbwyntio ar weithio ar y cyd i gyflawni canlyniadau y cytunwyd arnynt. Darllen mwy.

Mae gennych gynnig yr hoffech ei ddatblygu; pe gofynnid i chi sut y bydd yn gweithio mewn cyd-destun strategol, sut fyddech chi’n ateb? Darllen mwy.

Mae treialu yn rhan annatod o brofi dulliau arloesi a dangos sut y gellir addasu syniadau i amodau lleol fel rhan o broses lledaeniad a graddfa effeithiol. Ond beth sy’n gwneud cynllun peilot llwyddiannus? Darllen mwy.

Mae cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a sefydliadol yn cefnogi arloesi effeithiol a diogel. Darllen mwy.

Mae casglu a dadansoddi data yn chwarae rhan hanfodol o ran deall y broses o ddarparu gwasanaethau a dangos yr effaith y mae eich gwaith yn ei chael. Mae harneisio’r data yn helpu i adrodd y stori ar gyfer eich datblygiadau arloesol.  
Darllen mwy.

Mae arloesi’n aml yn creu neu’n gwneud defnydd o eiddo deallusol. Bydd deall y broses greu a defnyddio, a’r diogelwch megis hawlfraint a phatentau, yn cefnogi arloesi a mabwysiadu effeithiol. Darllen mwy.

Pan fyddwch chi’n meddwl am arloesi efallai y bydd nifer o bethau’n dod i’ch meddwl, fel technoleg, sci-fi a Steve Jobs. Efallai eich bod yn meddwl bod arloesi’n cael ei wneud gan arbenigwyr, entrepreneuriaid a gwyddonwyr. Ond ar ei symlaf, arloesi yw creu a gweithredu syniadau, dulliau, cynhyrchion neu ffyrdd newydd o weithio. Darllen mwy.

Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun i wneud yr economi gylchol yng Nghymru yn realiti yn y strategaeth Mwy nag Ailgylchu. Ond beth yn union yw’r economi gylchol, beth yw’r manteision a’r galluogwyr, a beth yw’r heriau y gallem eu hwynebu wrth symud i’r ffordd hon o weithio? Darllen mwy.

Newsletters

Mae’r hwb wedi nodi themâu cyffredin sy’n rhychwantu gwahanol rannau o’n system iechyd a gofal cymdeithasol a grwpiau boblogaeth. Rydym wedi coladu gweithgarwch arloesi rhanbarthol a chenedlaethol sy’n mynd i’r afael â’r themâu hyn er mwyn cefnogi’r broses o rannu dysgu a dathlu arfer da.

Pe bai’r sector iechyd a gofal byd-eang yn wlad, hi fyddai’r bumed allyrrydd carbon mwyaf (C02e), sy’n amlygu’r angen dybryd i ddatblygu ffyrdd mwy cynaliadwy o weithio ar draws y sector!

Mae’r Hwb wedi casglu nifer o enghreifftiau o arfer da, canllaw i’r economi gylchol, diweddariad ar bresgripsiynu cymdeithasol a gwybodaeth am raglen Lleihau Gwastraff Gyda’n Gilydd Comisiwn Bevan, i gyflymu’r broses o fabwysiadu atebion a ffyrdd o weithio cynaliadwy. Darllen mwy.

Social prescribing has been recognised Cydnabyddir bod presgripsiynu cymdeithasol yn ffactor allweddol i sicrhau system iechyd a gofal cymdeithasol cynaliadwy sy’n gofalu am les y boblogaeth yng Nghymru. Darllen mwy.

Mae’r Hwb wedi dwyn ynghyd adnoddau, asedau rhanbarthol ac enghreifftiau o arloesi lleol i’ch helpu i ddatblygu eich syniadau arloesol. Darllenwch y Cylchlythyr

Yn y cylchlythyr hwn, mae’r Hwb yn rhannu arfer gorau o ran sut mae gwasanaethau yn ein rhanbarth wedi defnyddio profiad bywyd fel ased o amrywiaeth o safbwyntiau ac yn darparu gwybodaeth bellach i helpu i gynnwys profiad bywyd mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Darllenwch ein Cylchlythyr “Profiad Bywyd”.

Yn y cylchlythyr hwn, mae’r Hwb yn ateb y cwestiwn ‘Beth yw arloesi?’ ac yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am dechnoleg glyfar a sut y gellir ei defnyddio yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol. Darllen mwy

Yn y cylchlythyr hwn, rydym wedi casglu peth o’r gwaith gwych sy’n digwydd yn y rhanbarth a thu hwnt i symud tuag at system iechyd a gofal cymdeithasol fwy cyfartal a chynhwysol. Darllen mwy.

Adroddiadau Blynyddol

Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at beth o’r gwaith a gyflawnwyd gan y Mae’r Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbartholl er ymdrechu arloesi in Nghaerdydd a’r Fro yn 2022/23. 

RIC Hwb Adroddiadau a Gomisiynwyd

Presgripsiynu Cymdeithasol

Mae presgripsiynu cymdeithasol yn syniad sy’n datblygu yng Nghymru ac mae angen tystiolaeth bellach i ddeall yn well a gwneud y gorau o’r gwasanaethau a gynigir. Gwnaeth yr Hwb gomisiynu Ysgol Presgripsiynu Cymdeithasol Cymru (WSSPR) i gynhyrchu adolygiad cwmpasu o brofiad y claf o bresgripsiynu cymdeithasol, sy’n rhoi cysyniad o brofiad, rhwystrau a chanlyniadau pregripsiynu cymdeithasol. Yn ogystal, mae’r adolygiad yn ystyried y ffyrdd mwyaf llwyddiannus o weithredu gwasanaethau a’r rhwystrau i fynediad, y mecanweithiau atgyfeirio a’r derminoleg a ddefnyddir. Mae’r adolygiad yn rhoi llawer o fewnwelediadau a fydd yn hanfodol ar gyfer datblygu cynnig presgripsiynu cymdeithasol ar sail tystiolaeth yng Nghaerdydd a’r Fro ac ar lefel genedlaethol.

Health Technology Centre Report

Gwnaeth yr Hwb gomisiynu Canolfan Technoleg Iechyd Cymru i grynhoi tirwedd ymchwil, arloesi a gwella (RII) iechyd a gofal cymdeithasol  ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae’r adroddiad yn darparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer blaenoriaethau’r dyfodol ac mae’n cynnwys cyfoeth o wybodaeth am asedau yn y rhanbarth y gellir ei defnyddio yn yr ymdrech i arloesi.

Kings Fund

Cefnogodd ac ariannodd yr Hwb ddatblygiad dau adroddiad yn edrych ar ddulliau integreiddiol ac ataliol. Mae’r dulliau hyn yn allweddol i gynaliadwyedd a datblygiad y system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac mae adroddiadau’r King’s Fund yn darparu gwersi allweddol ar gyfer cyfeiriad teithio Caerdydd a Bro Morgannwg yn y dyfodol.

Pwy ydym ni

Catherine Peel

Uwch Reolwr Rhaglen Gwella Gwasanaethau / Arweinydd Hwb RIC

Rwy’n angerddol iawn am arloesi a newid diwylliant ein system iechyd a gofal cymdeithasol er gwell er mwyn creu dyfodol cynaliadwy.Mae’n bwysig ein bod yn gwrando ar y bobl sydd wrth wraidd ein system. Mae gan bawb stori a thrwy rannu ein straeon y gallwn ni i gyd eu dysgu.

Dylan John

Rheolwr Prosiect

Rwy’n mwynhau cyfrannu at newid ein system iechyd a gofal cymdeithasol er gwell, fel bod pobl yn profi canlyniadau gwell ac yn cael y gefnogaeth gywir ar yr adeg iawn yn y lle iawn.Rwy’n arbennig o angerddol am hyrwyddo llais pobl sydd â phrofiad o lygad y ffynnon a’r gwerth y gallant ei gael wrth lunio gwasanaethau yn y dyfodol.

Mark Briggs

Cyfarwyddwr Cynorthwyol Arloesi

Rwyf bob amser wedi bod yn chwilfrydig ac wedi treulio’r rhan fwyaf o fy mhlentyndod yn gwneud pethau ac nid yn rhy syndod bod hyn wedi dod i ben wrth ddilyn gyrfa mewn gwyddorau bywyd Ymchwil a Datblygu.Ar ôl ymuno â’r sector cyhoeddus nawr, rwy’n gobeithio cael effaith uniongyrchol fwy gweladwy a helpu i gefnogi newidiadau sylweddol, graddol ddoeth mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Os hoffech ddarganfod mwy am ein gwaith/cysylltu â ni/ymuno â’n rhwydwaith presgripsiynu cymdeithasol

The RIC Hub works to support the RPB’s Starting Well, Living Well and Ageing Well partnerships’ work programmes.

Ein Prif Flaenoriaethau

DECHRAU’N DDA
STARTING WELL

Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.

HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL

Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt. 

BYW’N DDA
LIVING WELL

Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf. 

Skip to content