Beth yw Arloesi?
Weithiau gall arloesi ymddangos fel term brawychus ac anhygyrch, ond ar ei symlaf, mae arloesi yn golygu creu a gweithredu syniadau, dulliau, cynhyrchion a ffyrdd newydd o weithio. Gall unrhyw un arloesi!
Lledaenu Arfer Da
Technoleg Glyfar
Gwnaeth yr Hwb gefnogi Innovate Trust a Chyngor Bro Morgannwg mewn cynllun peilot a oedd yn canolbwyntio ar ddull gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ochr yn ochr â dull arloesol o ddefnyddio technoleg glyfar mewn llety byw â chymorth.
Mae’r gwaith hwn wedi darparu sylfaen a man cychwyn ar gyfer cefnogi oedolion ag anableddau ac anghenion cymhleth, sy’n pontio o’r ysgol neu’r coleg i’r gymuned, i symud i Dŷ Clyfar ar denantiaeth tymor byr lle byddant yn cael eu hasesu a’u cefnogi i ddefnyddio technoleg brif ffrwd er budd ac i helpu i hybu annibyniaeth yn eu bywydau bob dydd.
“Rydym yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth a roddir i ni fel sefydliad sy’n gweithio i hybu cyfleoedd i bobl ag anableddau gael eu cynnwys yn ddigidol yn well a chael mwy o fudd o ddefnyddio technolegau prif ffrwd a’u manteision.”
Ashley Bale – Innovate Trust – Rheolwr Arloesi Digidol
Canllawiau Hwb RIC
Pan fyddwch chi’n meddwl am arloesi efallai y bydd nifer o bethau’n dod i’ch meddwl, fel technoleg, sci-fi a Steve Jobs. Efallai eich bod yn meddwl bod arloesi’n cael ei wneud gan arbenigwyr, entrepreneuriaid a gwyddonwyr. Ond ar ei symlaf, arloesi yw creu a gweithredu syniadau, dulliau, cynhyrchion neu ffyrdd newydd o weithio.
Cylchlythyrau
Arloesi a’r Dyfodol
Yn y cylchlythyr hwn, mae’r Hwb yn ateb y cwestiwn ‘Beth yw arloesi?’ ac yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am dechnoleg glyfar a sut y gellir ei defnyddio yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’r Hwb wedi dwyn ynghyd adnoddau, asedau rhanbarthol ac enghreifftiau o arloesi lleol i’ch helpu i ddatblygu eich syniadau arloesol.
Adroddiadau
Y Ganolfan Technoleg Iechyd (HTC)
Mae adroddiad y Ganolfan Technoleg Iechyd yn crynhoi’r dirwedd ymchwil, arloesi a gwella iechyd a gofal cymdeithasol ledled Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae’n darparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer blaenoriaethau’r dyfodol ac mae’n cynnwys cyfoeth o wybodaeth am asedau yn y rhanbarth y gellir eu defnyddio wrth ymdrechu i arloesi.
Adroddiad Llawn
Crynodeb
Crynodeb Hwb RIC
Ein Prif Flaenoriaethau
DECHRAU’N DDA
STARTING WELL
Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.
HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL
Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt.
BYW’N DDA
LIVING WELL
Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf.