Ffrydiau Ariannu Partneriaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau sut y bydd cyllid y BPRh yn cael ei ddarparu o 2022-27.
Darperir hyn drwy’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ac mae’n cynnwys y canlynol: 

Cronfa Ymgorffori 

Cefnogi prosiectau sy’n bodoli eisoes sydd wedi cael eu profi a’u gwerthuso fel rhai sy’n gweithio’n dda ac yn bwysig wrth gefnogi’r gwaith o gyflawni ein modelau gofal integredig sy’n dod i’r amlwg.

Cronfa Cyflymu  

Mae hon yn gronfa ychwanegol sydd ar gael i BPRhau drwy fisoedd y gaeaf i helpu i ryddhau cleifion o’r ysbyty. Mae rhyddhau cleifion ag anghenion iechyd a gofal cymhleth yn gofyn am gydgysylltu o’r sectorau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Trydydd Sector felly roedd prosiectau’r BPRh yn hanfodol i gyflawni hyn.

Y Gronfa Genedlaethol wedi’i neilltuo  

Wedi’i ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau gweinidogol megis y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig, pobl â dementia a gofalwyr di-dâl.

Cronfa Seilwaith

Cefnogi’r BPRh i gyflawni ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)

Bydd y Cronfeydd Ymgorffori a Chyflymu yn cael eu hariannu’n gyfatebol gan bartneriaid.  Bydd y cyllid pum mlynedd newydd hwn yn galluogi ein rhaglenni i gynllunio eu gwaith yn y tymor hwy a chynyddu ffyrdd y gallwn weithio gyda’n gilydd.  Bydd ffocws hefyd ar gryfhau’r cymorth ar gyfer gwerth cymdeithasol a gofalwyr di-dâl.

Mae’r BPRh wedi cytuno ar y rhaglenni gwaith y bydd y Gronfa yn cael eu defnyddio i gefnogi’r gwaith o gyflawni: 


  1. Model Lles Integredig – lles emosiynol ac iechyd meddwl (NEST)  
  2. Model Gofal Integredig – Anghenion iechyd ac anabledd cymhleth 

  1. Cyflwyno’r strategaeth anableddau dysgu
  2. Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (blaenoriaeth genedlaethol)  
  3. Gofalwyr (blaenoriaeth genedlaethol)  

  1. Rhaglen @Hafan  
  2. Dementia (blaenoriaeth genedlaethol)  

Ein Prif Flaenoriaethau

DECHRAU’N DDA
STARTING WELL

Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.

HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL

Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt. 

BYW’N DDA
LIVING WELL

Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf. 

Astudiaethau Achos

Skip to content