Cylchlythyr Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Presgripsiynu Cymdeithasol

Y Newyddion Diweddaraf am Bresgipsiynu Cymdeithasol 

Cydnabyddir bod presgripsiynu cymdeithasol yn ffactor allweddol i sicrhau system iechyd a gofal cymdeithasol cynaliadwy sy’n gofalu am les y boblogaeth yng Nghymru.

 Mae ymchwil yn dangos bod tua 1 o bob 5 claf yn cysylltu â’u meddyg teulu ynghylch yr hyn sy’n broblem gymdeithasol yn bennaf*

 Gall presgripsiynu cymdeithasol arwain at leihad o 15% yn nifer yr ymwelwyr â meddygfeydd i 28%**

Rydym wedi bod yn gweithio ar nifer o brosiectau sy’n gysylltiedig â phresgripsiynu cymdeithasol, megis archwilio ffyrdd y gall helpu gydag iechyd corfforol, iechyd meddwl ac ynysigrwydd cymdeithasol, ac edrych ar sut y gallwn werthuso presgripsiynu cymdeithasol fel y gellir ei ddefnyddio yn y ffordd orau posibl. 

Canfu astudiaeth dulliau cymysg fod cleifion a ddefnyddiodd wasanaethau presgripsiynu cymdeithasol yn gwneud llai o ddefnydd o wasanaethau gofal sylfaenol – gyda gostyngiad o 25% mewn apwyntiadau***

Canfu gwerthusiad o wasanaeth presgripsiynu cymdeithasol a ddarperir gan y Groes Goch Brydeinig fod 72% o gyfranogwyr wedi dweud eu bod yn teimlo’n llai unig ar ôl derbyn cymorth****

Fframwaith Gwerthuso Presgripsynu Cymdeithasol

 

Mae’r Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol wedi cydweithio ag Ysgol Ymchwil Presgripsiynu Cymdeithasol Cymru (WSSPR) er mwyn datblygu fframwaith gwerthuso ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol. Bydd y fframwaith yn caniatáu i ddarparwyr presgripsiynu cymdeithasol lleol fesur a dangos sut mae eu gwasanaethau’n gweithredu a sicrhau canlyniadau i’r rhai sy’n eu defnyddio. Drwy dynnu sylw at arfer gorau a chyfleoedd, bydd hyn yn ein helpu i ddeall presgripsiynu cymdeithasol yn ein rhanbarth yn well ac i lywio datblygiadau yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol. 

Cam cyntaf y gwaith hwn yw datblygu’r fframwaith drwy ymgysylltu â phobl sy’n ymwneud â phresgripsiynu cymdeithasol o safbwyntiau amrywiol i nodi a chytuno ar ba ddata ddylai fod yn rhan o’r fframwaith. 

Mae’r cam hwn yn hanfodol oherwydd nad oes set ddata sylfaenol craidd ar gyfer gwerthuso presgripsiynu cymdeithasol ar hyn o bryd. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd i ddarparwyr a chomisiynwyr sy’n ceisio gwerthuso eu gwasanaethau.

Ar ôl i’r fframwaith gael ei ddatblygu, bydd WSSPR yn gweithio gyda darparwyr i’w ymgorffori’n ymarferol. 

 

Cymryd rhan

___________________

Rhanbarthol 

Fel rhan o ddatblygiad y fframwaith, rydym yn gofyn i bobl sy’n ymwneud â phresgripsiynu cymdeithasol mewn ffyrdd amrywiol i gymryd rhan mewn astudiaeth fer ar-lein i nodi pa ddata sy’n bwysig i’w gasglu. Anfonwch e-bost at [email protected] am fwy o wybodaeth

__________________

 

Cenedlaethol 

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori â rhanddeiliaid ledled Cymru i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o’r iaith a ddefnyddir i ddisgrifio presgripsiynu cymdeithasol ac i nodi camau sy’n ymgorffori’r model drwy fframwaith cenedlaethol. Cliciwch yma os hoffech gymryd rhan.

 

Grym Adrodd Straeon

Mae adrodd straeon yn rhan enfawr o’r hyn rydyn ni’n ei wneud i rannu arfer gorau. Rydym yn adrodd straeon y rhai sydd wrth wraidd ein gwasanaethau fel y gellir mabwysiadu gwasanaethau tebyg ar draws ein rhanbarth a thu hwnt. Gwnewch baned o de a gwyliwch y fideos isod!

Fel rhan o’n gwaith gyda Chlwstwr Meddygon Teulu De-orllewin Cymru, clywsom gan drigolion lleol am yr effaith gadarnhaol y mae presgripsiynu cymdeithasol yn ei chael ar eu bywydau.

Gwyliwch y ffilm hon i weld sut mae’r prosiect garddio cymunedol Tyfu’n Dda wedi helpu pobl yn gorfforol, yn feddyliol ac yn gymdeithasol.

https://www.youtube.com/watch?v=Ae4UChaOdYg
https://www.youtube.com/watch?v=zSZUwvIsBMg

Gwyliwch hyn i weld pam y creodd clwstwr o feddygon teulu eu parkrun eu hunain ym Mharc Trelái yn Nhrelái. 

Drwy ymuno â parkrun a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol fel rhan o’r fenter ‘parkrun Practice’ ehangach, maent yn llwyddo i annog staff practis, cleifion a gofalwyr i fod yn fwy egnïol a chymryd rheolaeth o’u lles.

Gwnaethom ymuno â Phrosiect ‘Making Well’ y Fathom Trust ym Mhowys i archwilio beth yw manteision Presgripsiynu Gwyrdd i iechyd a lles pobl.

Ar ddiwedd y rhaglen beilot, dywedodd y cyfranogwyr bod eu lles cyffredinol wedi gwella a’u bod yn cael llai o apwyntiadau meddyg teulu o’i gymharu ag o’r blaen.

Gobeithir y bydd y prosiect a’i egwyddorion yn cael eu hehangu a’u mabwysiadu mewn ardaloedd eraill ar draws Cymru.

https://youtu.be/iZeNJEWRBDY

Cliciwch yma i weld mwy o’n gwaith!

* Torjesen, I (2016) Social prescribing could help alleviate pressure on GPs, British Medical Journal 352; 1436

** https://www.southwales.ac.uk/news/news-2020/social-prescribing-alternative-approach-reduce-reliance-nhs-and-social-care-services-wales/?msclkid=a636370ed13b11ec8eb6a7ff10eb9ec7

***  Kellezi, B., Wakefield, J.R.H., Stevenson, C., McNamara, N., Mair, E. , Bowe, M., , Wilson, I. and Halder, M.M. (2019) The social cure of social prescribing: a mixed-methods study on the benefits of social connectedness on quality and effectiveness of care provision. BMJ Open 2019;9:e033137. doi:10.1136/ bmjopen-2019-033137

**** Foster, A., Thompson, J., Holding, E., Ariss, S., Mukuria, C., Jacques, R., Akparido, R. and Haywood, A. (2020) Impact of social prescribing to address loneliness: A mixed methods evaluation of a national social prescribingprogramme Health and Social Care in the Community 29(5):1439-1449.

Skip to content