Canllawiau Hwb RIC

Weithiau gall arloesi a mabwysiadu syniadau newydd ymddangos yn frawychus am fod llawer o ffactorau gwahanol i’w hystyried. Mae’r gyfres hon yn edrych ar y ffactorau hynny i’w cyflwyno ac yn rhoi man cychwyn i chi ar gyfer deall sut i nodi a goresgyn problemau.   

Efallai y bydd gan eich sefydliad staff arbenigol a all eich helpu, boed hynny gydag arloesi neu gydag elfennau penodol, megis llywodraethu gwybodaeth a rheoli perfformiad. Yn ogystal, efallai y bydd yr Hwb RIC yn gallu cynnig cefnogaeth.  

The articlMae’r erthyglau yn seiliedig ar ein profiad o weithio gyda chydweithwyr mewn nifer o sefydliadau ac rydym yn croesawu eich awgrymiadau ar gyfer erthyglau ychwanegol.

Pan fyddwch chi’n meddwl am arloesi efallai y bydd nifer o bethau’n dod i’ch meddwl, fel technoleg, sci-fi a Steve Jobs. Efallai eich bod yn meddwl bod arloesi’n cael ei wneud gan arbenigwyr, entrepreneuriaid a gwyddonwyr. Ond ar ei symlaf, arloesi yw creu a gweithredu syniadau, dulliau, cynhyrchion neu ffyrdd newydd o weithio.

Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun i wneud yr economi gylchol yng Nghymru yn realiti yn y strategaeth Mwy nag Ailgylchu. Ond beth yn union yw’r economi gylchol, beth yw’r manteision a’r galluogwyr, a beth yw’r heriau y gallem eu hwynebu wrth symud i’r ffordd hon o weithio?

Mae rhoi gwerth wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau yn golygu bod angen inni ailfeddwl sut y caiff gwasanaethau eu darparu, gan ychwanegu gwerth ar bob cam. Mae’r Dull Seiliedig ar Werth yn ffordd systematig o ystyried a defnyddio adnoddau i roi canlyniadau gwell i bob person.

Gall cynnwys pobl sydd â phrofiad bywyd gael effaith gadarnhaol ar y gwaith a wnawn a gall lywio newidiadau i wasanaethau a’r ffordd yr ydym yn gweithio. I wneud hynny’n ystyrlon, mae’n bwysig deall beth sy’n gweithio’n dda, beth allai’r heriau a’r rhwystrau fod a sut i’w goresgyn. Mae’r Hwb wedi creu canllaw i roi lle i chi ddechrau.

Gan ddefnyddio adnoddau a llenyddiaeth sy’n bodoli eisoes, mae’r Hwb wedi llunio canllaw hawdd i helpu i egluro’r heriau, rhwystrau a galluogwyr cyffredin sy’n gysylltiedig â chyflogi pobl â phrofiad bywyd. 

Dull gwahanol o gomisiynu sy’n canolbwyntio ar weithio ar y cyd i gyflawni canlyniadau y cytunwyd arnynt.
Mae gennych gynnig yr hoffech ei ddatblygu; pe gofynnid i chi sut y bydd yn gweithio mewn cyd-destun strategol, sut fyddech chi’n ateb?
Mae treialu yn rhan annatod o brofi dulliau arloesi a dangos sut y gellir addasu syniadau i amodau lleol fel rhan o broses lledaeniad a graddfa effeithiol. Ond beth sy’n gwneud cynllun peilot llwyddiannus?

Mae cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a sefydliadol yn cefnogi arloesi effeithiol a diogel. 

Mae casglu a dadansoddi data yn chwarae rhan hanfodol o ran deall y broses o ddarparu gwasanaethau a dangos yr effaith y mae eich gwaith yn ei chael. Mae harneisio’r data yn helpu i adrodd y stori ar gyfer eich datblygiadau arloesol. 

Innovating often creates or Mae arloesi’n aml yn creu neu’n gwneud defnydd o eiddo deallusol. Bydd deall y broses greu a defnyddio, a’r diogelwch megis hawlfraint a phatentau, yn cefnogi arloesi a mabwysiadu effeithiol.

Ein Prif Flaenoriaethau

DECHRAU’N DDA
STARTING WELL

Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.

HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL

Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt. 

BYW’N DDA
LIVING WELL

Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf. 

Skip to content