Cynaliadwyedd

Pe bai’r sector iechyd a gofal byd-eang yn wlad, hi fyddai’r bumed allyrrydd carbon mwyaf (C02e), sy’n amlygu’r angen dybryd i ddatblygu ffyrdd mwy cynaliadwy o weithio ar draws y sector!

Lledaenu Arfer Da

Gwneud Gofal Iechyd yn Fwy Cynaliadwy

Oeddech chi’n gwybod bod gan ocsid nitrus fwy na 265 gwaith y potensial cynhesu byd-eang na CO2?

Mae’r Prosiect Ocsid Nitrus wedi arwain at leihad enfawr yn y defnydd o ocsid nitrus yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi rhagweld arbedion o 1.15m litr y flwyddyn – sy’n cyfateb i 679 tunnell o CO2.

Bu’r Hwb yn gweithio gyda’r tîm ar ôl y peilot i arddangos eu stori fel y gellir ei lledaenu a’i mabwysiadu ledled Cymru a thu hwnt.

Canllawiau Hwb RIC

Economi Gylchol

Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun i wneud yr economi gylchol yng Nghymru yn realiti yn y strategaeth Mwy nag Ailgylchu. Ond beth yn union yw’r economi gylchol, beth yw’r manteision a’r galluogwyr, a beth yw’r heriau y gallem eu hwynebu wrth symud i’r ffordd hon o weithio?

Cylchlythyrau

Mae’r Hwb wedi casglu nifer o enghreifftiau o arfer da, canllaw i’r economi gylchol, diweddariad ar bresgripsiynu cymdeithasol a gwybodaeth am raglen Lleihau Gwastraff Gyda’n Gilydd Comisiwn Bevan, i gyflymu’r broses o fabwysiadu atebion a ffyrdd o weithio cynaliadwy.

Ein Prif Flaenoriaethau

DECHRAU’N DDA
STARTING WELL

Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.

HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL

Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt. 

BYW’N DDA
LIVING WELL

Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf. 

Skip to content