
Mae’r 1,000 Diwrnod Cyntaf yn cael eu cydnabod yn fyd-eang fel cyfnod hollbwysig yn natblygiad unigolyn. Mae “cael pethau’n iawn” yn ystod y 1,000 diwrnod cyntaf yn dylanwadu ar iechyd corfforol hirdymor, twf yr ymennydd a galluoedd gwybyddol, ac yn llywio llesiant plentyn yn y dyfodol, ei system imiwnedd a’i botensial addysgol. Gyda miliwn o gysylltiadau niwral yn ffurfio bob eiliad, mae ymennydd plentyn yn datblygu’n gyflymach yn ystod y cyfnod hwn nag ar unrhyw adeg arall yn ei fywyd.
Mae maeth a gofal da yn helpu i atal cyflyrau iechyd cronig yn ddiweddarach mewn bywyd, megis gordewdra, diabetes a chlefydau cardiofasgwlaidd. Maent hefyd yn lleihau’r risg o ddiffygion twf na ellir eu gwrthdroi, yn helpu i dorri cylchoedd tlodi ac anfantais, ac am bob £1 a fuddsoddir yn ystod y cyfnod hwn, gellir sicrhau hyd at £200 o fuddion hirdymor.
Er gwaethaf yr holl dystiolaeth, ac ymdrechion parhaus pobl a sefydliadau ar draws gwahanol sectorau, mae canlyniadau iechyd plant yn y DU ymhlith y gwaethaf yn Ewrop. Y 1,000 Diwrnod Cyntaf yw’r nod arweiniol ar gyfer ein gwaith Dechrau’n Dda. Er mwyn dechrau troi’r cysyniad hwn yn gyfeiriad clir a rennir, cynhaliwyd gweithdy rhanbarthol tua diwedd mis Medi. Daeth dros 50 o weithwyr proffesiynol brwdfrydig ynghyd i gydweithio tuag at ffocws cyffredin a fydd yn helpu i gydlynu camau gweithredu a phenderfyniadau, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fabanod a theuluoedd.
Mae cadw’n heini a symud yn rheolaidd yn bwysig mewn cymaint o ffyrdd, ac fel rhan o’r diwrnod, cymerodd pawb ran yn QuickChange – Keeping Me Well!