Datblygu System Gofal Cymunedol Integredig ledled Caerdydd a’r Fro

Yn ei gyfarfod ar 8 Medi 2026, cynhaliodd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) Caerdydd a’r Fro sesiwn fanwl i archwilio’r cynnydd sy’n cael ei wneud tuag at ddatblygu System Gofal Cymunedol Integredig (ICCS) ledled y rhanbarth.

Roedd y sesiwn yn canolbwyntio ar dri datblygiad allweddol sy’n dangos sut mae partneriaid yn cydweithio i ddarparu gofal a chymorth mwy cydgysylltiedig sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o fewn cymunedau lleol.

Roedd y cyflwyniadau’n canolbwyntio ar:

  • Llys y Goetre, Llaneirwg – cynllun Tai â Gofal Cyngor Caerdydd sydd newydd agor, sy’n cefnogi pobl i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cymuned.
  • Datblygiad Campws y Barri – archwilio cyfleoedd i ddod â gwasanaethau ynghyd a chryfhau gofal a chymorth integredig ym Mro Morgannwg.
  • Timau Cymdogaeth Integredig – datblygu dulliau mwy cydgysylltiedig o ddarparu iechyd a gofal ar lefel leol, gan ddod â gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau ynghyd i ddiwallu anghenion unigolion a chymunedau.

Amlygodd y cyflwyniadau, a roddwyd gan Louise Bassett, Jason Bennett a Dr Chris Bryant, sut mae’r datblygiadau hyn yn cynnig cyfleoedd sy’n ategu ei gilydd i gryfhau gweithio mewn partneriaeth a chreu dull mwy cydgysylltiedig o ddarparu gofal ledled Caerdydd a’r Fro.

Sbardunodd y sesiwn drafodaethau gwerthfawr ymhlith aelodau’r Bwrdd, gan archwilio sut y gall y mentrau hyn gyfrannu at weledigaeth gyffredin ar gyfer gofal cymunedol integredig.

Bydd y safbwyntiau a’r trafodaethau hyn yn helpu i lywio datblygiad parhaus y System Gofal Cymunedol Integredig, gan gefnogi’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau mwy cydgysylltiedig, hygyrch sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n ymateb i anghenion pobl a chymunedau ledled y rhanbarth.

Skip to content