Y BPRh yn Ymuno â Wonderfest Platfform

Roedd tîm Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) Caerdydd a’r Fro yn falch iawn o gymryd rhan yn Wonderfest 2026, gŵyl flynyddol a drefnir gan Platfform sy’n dod â phobl ifanc, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ynghyd i archwilio lles emosiynol, iechyd meddwl a’r cymorth sydd bwysicaf iddynt.

Cynhaliwyd yr ŵyl yng Ngerddi’r Rheilffordd yn y Sblot yn ystod mis Awst, gyda rhaglen lawn o weithgareddau, gweithdai a chyfleoedd i gael sgyrsiau ystyrlon, gan ganolbwyntio ar rannu profiadau, meithrin cysylltiadau a hybu lles cadarnhaol.

Fel rhan o raglen Dechrau’n Dda y BPRh, bu’r tîm yn ymgysylltu â’r rhai a oedd yn bresennol er mwyn deall yn well eu profiadau, eu blaenoriaethau a’u syniadau ar gyfer gwella’r cymorth sydd ar gael i fabanod, plant, pobl ifanc a theuluoedd ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.

Drwy weithgareddau rhyngweithiol, gan gynnwys wal graffiti, gwahoddwyd cyfranogwyr i rannu eu barn am yr hyn sydd bwysicaf yn ystod 1,000 Diwrnod Cyntaf bywyd plentyn, yn ogystal ag archwilio sut beth yw cymorth da ar gyfer lles emosiynol ac iechyd meddwl, a sut mae’n teimlo i’r rhai sy’n ei dderbyn.

Rhoddodd y sgyrsiau hyn fewnwelediad gwerthfawr i brofiadau a safbwyntiau pobl leol, gan helpu i lywio gwaith parhaus partneriaeth Dechrau’n Dda.

Mae gwrando ar brofiadau bywyd pobl wrth wraidd gwaith y BPRh. Drwy gydweithio â sefydliadau fel Platfform, gall y bartneriaeth sicrhau bod lleisiau pobl ifanc a theuluoedd yn helpu i lunio blaenoriaethau, dylanwadu ar gynlluniau ar gyfer y dyfodol a chefnogi datblygiad gwasanaethau sy’n adlewyrchu’r hyn sydd bwysicaf i gymunedau.

Mae’r BPRh yn edrych ymlaen at adeiladu ar y sgyrsiau hyn a pharhau i weithio ochr yn ochr â Platfform a phartneriaid eraill i greu rhagor o gyfleoedd ar gyfer ymgysylltu ystyrlon.

Rhagor o Wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am Wonderfest a gwaith Platfform yn cefnogi pobl ifanc, ewch i:

Platfform4YP – Gan bobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc

Platfform – Dros iechyd meddwl a newid cymdeithasol

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Platfform:

E-bost: [email protected]
Ffôn: 01656 647722

Skip to content