Helpu Teuluoedd i Gael y Cymorth Cywir yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg

Mae amrywiaeth o wybodaeth, cyngor a chymorth ar gael i deuluoedd ledled Caerdydd a Bro Morgannwg i’w helpu i ymdopi â heriau bob dydd, hybu eu llesiant a dod o hyd i’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.

Boed yn gyngor ar ofal plant, bywyd teuluol, llesiant emosiynol neu wasanaethau lleol, gall gwybod ble i droi wneud gwahaniaeth mawr.

Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd a Chwmpawd Teulu’r Fro yn helpu teuluoedd ledled y rhanbarth i gael y wybodaeth, y cyngor a’r cymorth cywir ar yr adeg gywir.

Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd

Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni, plant, pobl ifanc a theuluoedd.

Nod y gwasanaeth yw sicrhau bod teuluoedd yn cael y wybodaeth, y cyngor a’r cymorth cywir ar yr adeg gywir, gan eu helpu i ddod o hyd i’r gwasanaethau sydd ar gael.

I gael gwybodaeth a chymorth yng Nghaerdydd:

Gweler posteri gwybodaeth Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd isod.

Cwmpawd Teulu’r Fro – Cefnogi Teuluoedd ym Mro Morgannwg

Mae Cwmpawd Teulu’r Fro yn cynnig un pwynt cyswllt i deuluoedd ym Mro Morgannwg, gan ei gwneud yn haws cael gwybodaeth, cyngor a chymorth.

Mae’r gwasanaeth yn dwyn ynghyd y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, gwasanaethau Cymorth Cynnar, gan gynnwys y Llinell Gyngor Cymorth Cynnar, y Tîm o Amgylch y Teulu a’r Gwasanaeth Rhianta, ynghyd â Thîm Derbyn y Gwasanaethau Plant.

Drwy un rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a gwefan, gall teuluoedd gael cymorth gyda’r canlynol:

  • Gofal plant, gweithgareddau cynhwysol a gwasanaethau i blant a phobl ifanc
  • Bywyd cartref a theuluol
  • Llesiant emosiynol ac iechyd meddwl
  • Cyngor ac arweiniad ar gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel

Y nod yw sicrhau bod teuluoedd yn cael y wybodaeth a’r cymorth cywir ar yr adeg gywir, o’r cyswllt cyntaf.

I gael gwybodaeth a chymorth ym Mro Morgannwg:

Gweler posteri a thaflenni gwybodaeth Cwmpawd Teulu’r Fro isod.

Cydweithio i Gefnogi Teuluoedd

Mae sicrhau bod teuluoedd yn gallu cael gwybodaeth glir, amserol a chymorth priodol yn rhan bwysig o wella llesiant ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro yn dod â sefydliadau iechyd, gofal cymdeithasol, llywodraeth leol a’r trydydd sector ynghyd i hyrwyddo dulliau cydgysylltiedig sy’n diwallu anghenion cymunedau lleol.

Drwy godi ymwybyddiaeth o wasanaethau fel Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd a Chwmpawd Teulu’r Fro, gallwn helpu mwy o deuluoedd i gael y wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnynt, pan fydd eu hangen.

Rhannwch yr adnoddau hyn â theuluoedd, ffrindiau, cydweithwyr a rhwydweithiau cymunedol i helpu i godi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael ledled ein rhanbarth.

Skip to content