Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol gynnal Asesiad o Anghenion y Boblogaeth (PNA) ar y cyd. Mae gofal a chymorth yn ymwneud â phobl sy’n hysbys i’r gwasanaethau cymdeithasol a’r rhai sy’n cael cymorth drwy wasanaethau ataliol.
Yr hyn y mae’r Cod yn ei gwneud yn ofynnol i chi ei wneud:
Asesu’r canlynol ar y cyd â’ch partneriaid yn y byrddau iechyd lleol:
- Pobl sydd ag anghenion gofal a chymorth;
- Gofalwyr di-dâl sydd ag anghenion cymorth;
- I ba raddau nad yw’r anghenion gofal a chymorth hynny’n cael eu diwallu (gan yr awdurdod, y Bwrdd neu fel arall);
- Yr ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen i ddiwallu anghenion gofal a chymorth;
- Yr ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau ataliol; a
- Y camau sydd eu hangen i ddarparu’r ystod a lefel y gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae dyletswydd statudol ar fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol i sefydlu cyd-bwyllgor i gynnal yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth ac enwebu asiantaeth arweiniol i gydlynu’r gwaith. Mae ariannu a darparu adnoddau ar gyfer y broses asesu hefyd yn gyfrifoldeb ar y cyd i’r tri sefydliad.
Mae Rhan 2 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i bob rhanbarth yng Nghymru lunio Asesiad o Anghenion y Boblogaeth bob pum mlynedd. Cyhoeddwyd yr asesiad blaenorol yn 2022 ac mae ar gael yma.
Ein gwaith ar Asesiad o Anghenion y Boblogaeth
Mae ein Hasesiad o Anghenion y Boblogaeth 2026 yn llywio’r ffordd rydym yn cynllunio ac yn darparu gwasanaethau ledled Caerdydd a Bro Morgannwg. Rydym yn dwyn ynghyd ddata, gwybodaeth gan bartneriaid a phrofiadau bywyd pobl er mwyn meithrin dealltwriaeth glir a chyffredin o anghenion a chryfderau ein cymunedau.
Yn wahanol i asesiadau blaenorol, nid adroddiad untro yw hwn. Rydym yn datblygu’r asesiad fel adnodd byw, a gaiff ei ddiweddaru’n barhaus i adlewyrchu anghenion sy’n newid, heriau sy’n dod i’r amlwg a gwybodaeth newydd o bob rhan o’r system.
Rydym yn gweithio’n agos gyda phartneriaid, gan gynnwys y sector iechyd, awdurdodau lleol a’r trydydd sector, gan roi pwyslais cryf ar ymgysylltu, llais pobl a chydgynhyrchu, er mwyn sicrhau bod profiadau pobl yn llywio gwasanaethau’r dyfodol.
Bydd Asesiad o Anghenion y Boblogaeth 2026 yn llywio cynlluniau ac adroddiadau allweddol yn uniongyrchol, megis Cynlluniau Ardal ar y Cyd ac Adroddiadau ar Sefydlogrwydd y Farchnad. Bydd hyn yn cefnogi dulliau mwy integredig ac ataliol sy’n galluogi pobl i fyw’n dda ac yn annibynnol yn eu cymunedau.
Gallwch archwilio pob pennod o’r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth presennol isod.








