Asesiad o Anghenion y Boblogaeth

Crynodeb o Asesiad o Anghenion Poblogaeth Caerdydd a Bro Morgannwg 2022-27 

Darllenwch yr adroddiad llawn

Cyflwynodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ddyletswydd ar awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol i baratoi a chyhoeddi asesiad o anghenion gofal a chymorth y boblogaeth, gan gynnwys gofalwyr y mae angen cymorth arnynt. Mae’r adroddiad hwn yn manylu ar yr asesiad ar gyfer Caerdydd a Bro Morgannwg. 

Defnyddiwyd data, asesiadau ac adroddiadau presennol i ddeall pa wybodaeth a gasglwyd ers yr Asesiad diwethaf o Anghenion y Boblogaeth yn 2017.  

Cynhaliwyd cyfres o grwpiau ffocws gennym i ddiweddaru’r wybodaeth a chael dealltwriaeth well o brofiadau pobl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Yn ogystal, roedd arolwg cyhoeddus ar gael i bobl ei gwblhau a’i hyrwyddo gan ein partneriaid ac ar gyfryngau cymdeithasol. Roedd cyfyngiadau Covid-19 yn cyfyngu ar ein hymgysylltiad wyneb yn wyneb. Defnyddiwyd y canfyddiadau hyn gennym i daflu goleuni ar yr heriau allweddol y mae ein poblogaeth yn eu hwynebu a pha wasanaethau a chymorth sy’n ddefnyddiol iddynt. Dywedodd pobl wrthym beth yr hoffent ei weld yn parhau a’r hyn yr hoffent ei newid yn y dyfodol. 

Goruchwyliwyd y gwaith gan gynrychiolwyr o Gyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a chyflwynwyd adroddiad i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a Bro Morgannwg

Cyflwynir canfyddiadau manwl yn yr adroddiad, ynghyd â chanfyddiadau trawsbynciol. Mae’r adroddiad hefyd yn disgrifio’r camau nesaf wrth fynd i’r afael â’r materion a godwyd.

Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd ar gyfer Asesiad o Anghenion y Boblogaeth Caerdydd a Bro Morgannwg 2022


Asesiad o anghenion poblogaeth Caerdydd a Bro Morgannwg

Skip to content