Dylid darllen y bennod hon ar y cyd â’r penodau canlynol: Ffyrdd Iach o Fyw a Chyflyrau Hirdymor; Anabledd Corfforol Iechyd Meddwl Oedolion; Nam Gwybyddol gan gynnwys Dementia; Oedolion sy’n Ofalwyr Di-dâl; Colli Synhwyrau a Nam ar y Synhwyrau; VAWDASV;
Gadawyr Gwasanaeth y Lluoedd Arfog (Cyn-filwyr)

Argymhellion
Awdurdodau Lleol Caerdydd a Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a darparwyr preifat i:

  • Gydnabod amrywiaeth y grŵp “pobl hŷn” a darparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion grŵp mor amrywiol, gan gynnwys opsiynau trafnidiaeth
  • Parhau i ymgorffori Model Adsefydlu Caerdydd a’r Fro
  • Datblygu ymhellach gydweithrediadau presennol i ddarparu gofal diwedd oes o ansawdd uchel
  • Integreiddio gwasanaethau gofal a chymorth i alluogi pobl hŷn i fyw’n annibynnol ac yn iach gartref cyhyd â phosibl, er enghraifft, drwy’r rhaglen @home
  • Hyrwyddo’r defnydd o Dewis Cymru i godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael
  • Awdurdodau Lleol Caerdydd a Bro Morgannwg i:
  • Gefnogi datblygiadau adeiladau newydd i ddiwallu anghenion poblogaeth sy’n heneiddio, a chynyddu’r ddarpariaeth o amrywiaeth o opsiynau llety i alluogi pobl hŷn i wneud dewisiadau gwybodus ynglŷn â ble a sut maent yn byw.
  • Gweithredu’r Fframwaith Strategol Addasiadau Tai; a sicrhau bod eiddo presennol yn briodol, yn ddiogel, ac yn cefnogi annibyniaeth pobl hŷn
  • Cymhwyso safonau dylunio trefol a meini prawf hygyrchedd wrth ailddylunio seilwaith presennol, er enghraifft, cynyddu’r amser i bobl groesi’r ffordd wrth groesfan i gerddwyr a reolir gan olau (113)
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Gofal Sylfaenol i:
  • Hyrwyddo ‘Mynd i’r Afael ag Unigrwydd. Cynllun gweithredu cymunedol i Gymru’ Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol ymhlith darparwyr gofal iechyd a phartneriaid er mwyn codi ymwybyddiaeth o unigrwydd, a chynghori sut y gellir nodi a chefnogi cleifion unig (113)

8.1 Trosolwg

Yn yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth hwn, diffinnir pobl hŷn fel pobl 65 oed a throsodd (er y derbynnir y gall y trothwy oedran amrywio mewn cyd-destunau eraill). At ddibenion yr asesiad o anghenion hwn, lle bo’n bosibl byddwn hefyd yn rhannu’r grŵp poblogaeth hwn i’r

rheini 65-84 oed a rhai 85+ oed. Nid yw pobl hŷn yn grŵp poblogaeth homogenaidd, a bydd ganddynt wahanol anghenion a dymuniadau. Mae oedran yn ffactor risg ar gyfer llawer o gyflyrau megis dementia, cataractau a chwympiadau, a fydd yn dylanwadu ar anghenion gofal a chymorth pobl unigol. Trafodir anghenion pobl â dementia ym mhennod 14.

Mae Ffigur 8.1 a Thabl 8.1 yn dangos yr amrywiaeth eang yn niferoedd a chanrannau’r bobl rhwng 65 ac 84 oed a phobl 85 oed a hŷn ar draws clystyrau gofal sylfaenol yng Nghaerdydd a’r Fro. Gorllewin y Fro sydd â’r ganran uchaf o bobl 65-84 oed (23%). Fodd bynnag, Gogledd Caerdydd sydd â’r nifer uchaf o bobl 65-84 oed (16,003). Mewn cyferbyniad, De-ddwyrain Caerdydd sydd â’r ganran isaf o bobl 65-84 oed a throsodd (5.5%), ond mae gan Ddinas a De Caerdydd y niferoedd isaf o bobl 65-84 oed (2,475). O edrych ar y boblogaeth 85+ oed, Dwyrain y Fro sydd â’r gyfran uchaf o bobl 85+ oed (3.4%), ond Gogledd Caerdydd sydd â’r boblogaeth uchaf (2,859 o bobl). Ledled Caerdydd a Bro Morgannwg amcangyfrifir bod yna 81,645 o bobl 65+ oed ar ganol 2020 (114)

Ffigur 8.1. Demograffeg Clystyrau Gofal Sylfaenol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (114) Ledled Cymru, mae nifer y bobl sy’n adrodd am 2 neu fwy o salwch hirdymor wedi aros ar 21% yn 2016/17 a 2019/20; yn yr un modd mae’r rheini y’n adrodd eu bod wedi’u cyfyngu gan y salwch hirdymor yn debyg, sef 33% yn 2016/17 a 35% yn 2019/20 (115) (gweler hefyd pennod 9: Ffyrdd Iach o Fyw a Chyflyrau Hirdymor). Wrth i fwy o bobl fyw’n hirach, mae mwy o bobl yn debygol o gael dau neu fwy o salwch hirdymor.


Ymgysylltu
Cynhaliwyd dau grŵp ffocws: un ar gyfer pobl 65-84 oed (4 cyfranogwr) ac un ar gyfer pobl 85 oed a hŷn (3 chyfranogwr). Dywedodd pedwar deg pump y cant (n=293) o’r 647 o ymatebwyr i’r arolwg cyhoeddus a wnaeth ddatgan eu hoedran eu bod yn 65 neu’n hŷn: roedd 172 yn 65-74 oed, 91 yn 75-84, a 30 yn 85 oed neu hŷn. Roedd chwe deg wyth o ymatebwyr i’r arolwg darparwyr yn darparu gwasanaethau i bobl 65 oed a hŷn. Nid yw hyn yn gynrychioliadol o boblogaeth Caerdydd a Bro Morgannwg, ond mae’n rhoi dyfnder ychwanegol o fewnwelediad a phrofiad bywyd.

8. 2 Beth sydd wedi newid ers 2017?

8.2.1 Cyn COVID-19

Yn genedlaethol, mae’r canlynol wedi newid ers Asesiad o Anghenion y Boblogaeth 2017:

  • Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ‘Cymru o Blaid Pobl Hŷn: Ein Strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n Heneiddio’ ym mis Hydref 2021, gan nodi’r weledigaeth i Gymru fod 66 yn lle sy’n cefnogi pobl o bob oed i fyw’n dda a heneiddio’n dda a lle mae pobl hŷn yn cael eu dathlu (116).
  • Yn 2020 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ‘Cysylltu Cymunedau: Strategaeth ar gyfer mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol a chreu cysylltiadau cymdeithasol cryfach’ (117). Er nad ar bobl hŷn yn unig y mae’r mater hwn yn effeithio, cydnabyddir ei fod yn effeithio ar eu bywydau, a dilynodd y strategaeth hon ymchwiliad 2017 gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol a oedd yn canolbwyntio’n benodol ar bobl hŷn (118).
  • Mae hawliau pobl hŷn wedi’u hymgorffori yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n datgan y dylid blaenoriaethu gwasanaethau mewn perthynas â phobl hŷn ag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor, gan gynnwys dementia (119). Mae strategaeth 2019-2022 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (120) yn nodi ei gweledigaeth i ddathlu cymdeithas sy’n heneiddio, cefnogi pobl hŷn sy’n agored i niwed a grymuso pobl i ddeall eu hawliau a chael mynediad at y cymorth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.

Yn rhanbarthol, mae’r newidiadau canlynol wedi digwydd:

  • Mae effaith integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wedi’i dangos drwy’r Gwasanaeth Byw’n Annibynnol (ILS) a ddarperir gan Gyngor Caerdydd a Gwasanaeth Lles Cyswllt 1 Fro (C1V) Cyngor Bro Morgannwg. Mae hwn wedi canolbwyntio ar fodel atal ers 2017. Nod ILS yw lleihau’r angen am ofal cymdeithasol, cefnogi pobl i barhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain a gwella eu llesiant. Mae darpariaeth gwasanaeth cymorth rhyddhau yn yr ysbyty wedi galluogi cydweithio i helpu cleifion i gyrraedd adref gyda’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt ar waith, a gwell gwaith partneriaeth gydag ystod o sectorau.
  • Mae ILS yn bartner allweddol ym model tîm amlddisgyblaethol clwstwr gofal sylfaenol De Orllewin Caerdydd, a sefydlwyd yn 2019. Mae practisau meddygon teulu sydd yn y clwstwr yn cyfarfod bob yn ail wythnos i drafod anghenion cleifion unigol, gan fod llawer o’u hanghenion yn gallu cael eu diwallu y tu allan i ofal iechyd. Mae’r partneriaid o amgylch bwrdd y tîm amlddisgyblaethol yn cynnwys ILS, a darparwyr gwasanaethau trydydd sector, sy’n gallu cefnogi pobl â phroblemau fel ynysigrwydd cymdeithasol, addasiadau sydd eu hangen yn eu cartref a chymorth ariannol. Gall partneriaid y tîm amlddisgyblaethol eu cyfeirio at wasanaethau neu weithgareddau a fydd yn diwallu eu hanghenion. Mae llawer o bobl hŷn wedi cael cymorth drwy’r model tîm amlddisgyblaethol, a bwriedir cyflwyno’r model hwn mewn clystyrau eraill.
  • Mae’r Gwasanaeth Llesiant ym Mro Morgannwg yn cynnig amrywiaeth o gymorth i bobl hŷn er mwyn diwallu eu hanghenion. Sefydlwyd Gwasanaeth Cymorth Llesiant Caerdydd mewn ymateb i’r pandemig a’r anghenion yn ymwneud ag ynysigrwydd, pryder ynglŷn â mynd allan a’r angen am gymorth cyffredinol. Mae Mentoriaid Iechyd a Lles yn darparu cefnogaeth 1 i 1 ar gyfer ystod eang o anghenion, ac mae Swyddogion Cynhwysiant Cymunedol yn trefnu ystod o weithgareddau cymunedol.
  • Mae BIP Caerdydd a’r Fro, ynghyd ag Awdurdodau Lleol Caerdydd a’r Fro a phartneriaid eraill, wedi gweithredu’r model gofal integredig lleol “@home” o fewn Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Caerdydd a’r Fro, sy’n cyd-fynd â strategaeth hirdymor y Bwrdd Iechyd ‘Llunio ein Lles i’r Dyfodol’, sy’n canolbwyntio ar ofal yn y gymuned. Mae hwn yn fodel cydweithredol, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sydd â’i ffocws ar atal, ymyrraeth gynnar a chadw pobl yn iach.
  • Mae awdurdodau lleol Caerdydd a Bro Morgannwg yn y broses o wneud cais am statws Oed-gyfeillgar gyda Sefydliad Iechyd y Byd, a gefnogir gan y ddau Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae hyn yn unol ag Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Hawliau Pobl Hŷn.
  • Roedd adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a’r Fro 2019 yn canolbwyntio ar heneiddio’n iach, ac yn cynnwys tair thema, sef: bod â’r teimlad o ystyr a diben mewn bywyd; bod â chysylltiadau cymdeithasol da; a byw mewn lleoedd sy’n galluogi iddynt aros yn ddiogel, yn egnïol ac yn annibynnol (113).

8.2.1 COVID-19

Iechyd corfforol a mynediad at ofal iechyd

Mae COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar bobl hŷn, gan gynnwys iechyd gwael, lles meddyliol a chorfforol, a marwolaethau. Mae symudedd a chyflyrau cylchrediad y gwaed pobl hŷn wedi gwaethygu yn ystod y cyfnodau clo ac mae dad-gyflyru wedi digwydd, gan
arwain o bosibl at risg uwch o gwympo (121). Mae ymchwil wedi dangos bod oedran yn cynyddu’r risg o farw o COVID-19 oherwydd dirywiad systemau imiwnedd a bod yn fwy tebygol o fod â chyflyrau hirdymor (122).

Amlygodd grwpiau ffocws gyda phobl 65+ ac 85+ oed sylw at y materion canlynol yn deillio o COVID-19:

  • Teimlo bod COVID wedi cymryd blaenoriaeth ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd
  • Anawsterau cyrchu gwasanaethau iechyd: “Amhosib gweld unrhyw wasanaeth iechyd, meddyg neu ddeintydd”

Nododd ymatebwyr i’r arolwg o weithwyr proffesiynol a darparwyr sy’n darparu gwasanaethau i bobl hŷn fod cynnydd yn yr angen am gymorth yn y cartref a phecynnau gofal, a mwy o ddibyniaeth ymhlith defnyddwyr gwasanaethau oherwydd diffyg gwasanaethau ataliol amserol.

Iechyd meddwl a lles

Mae risgiau cynyddol o bryder iechyd, panig, ac iselder i bobl hŷn, yn enwedig y rheini sydd mewn sefydliadau (123). Mae COVID-19 wedi cael effeithiau andwyol ar lesiant pobl hŷn mewn cartrefi gofal, er enghraifft, cyfyngiadau ar gyswllt cymdeithasol oherwydd atal
ymweliadau dan do (124). Canfu arolwg ledled Prydain a gynhaliwyd yn ystod Ebrill-Mai 2020 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod mwy na 50% o bobl dros 60 oed yn poeni am eu llesiant; o’r rhain roedd 70% yn poeni am y dyfodol, 54.1% dan straen/yn bryderus a 43.3%
yn teimlo’n ddiflas (125)

Mae unigrwydd ac ynysigrwydd wedi cynyddu i lawer o bobl hŷn, ac mae teimladau o bryder ac ofn wedi dod i’r amlwg oherwydd y pandemig a’r cyfnodau clo. Roedd pobl a arferai fod yn hunangynhaliol yn gweld eu bod angen cymorth ac roedd eu gwytnwch a’u gallu i ddelio â materion o ddydd i ddydd yn lleihau (126). Mae llawer o bobl hŷn wedi cael trafferth cael cymorth wrth adael yr ysbyty, gan arwain weithiau at orfod aros yn hwy yn yr ysbyty. Amlygodd grwpiau ffocws gyda phobl 65+ a 85+ oed deimladau o ddinerthedd: “ofn ac wedi
colli llawer o ffrindiau” ac unigrwydd oherwydd ynysigrwydd: “peidio â gweld teulu yw’r gwaethaf”; “ofn mynd allan” oherwydd COVID-19.

Cadarnhaodd arweinwyr proffesiynol ac ymatebwyr i’r arolwg gweithwyr proffesiynol a darparwyr y canfyddiadau hyn:

  • Dirywiad mewn lles meddyliol a chymdeithasol
  • Cynnydd mewn ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd
  • Colli hyder i fynd allan a chyrchu gweithgareddau a gwasanaethau
  • Newid ymddygiad, aros i mewn mwy, bod yn llai corfforol egnïol
  • Colli rôl gymdeithasol, er enghraifft, oherwydd profedigaeth, ymddeoliad, neu anallu i ymgymryd â hobi neu weithgaredd mwyach wedi’i nodi fel pryder cyn COVID-19. Gydag ynysu cynyddol oherwydd cyfyngiadau’r pandemig, mae hyn yn debygol o waethygu
  • Cyfyngiadau mewn cyrchu gwasanaethau wyneb yn wyneb, er enghraifft torri awinedd traed, dosbarthiadau ymarfer corff a gweithgareddau cymdeithasol megis canolfannau dydd a chlybiau cinio
  • Ansicrwydd ariannol
  • Help gyda gweithgareddau ymarferol fel siopa, gan nad oedd pobl yn gallu gadael eu cartrefi
  • Mwy o angen am fewnbwn gan dimau iechyd ac iechyd meddwl i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn aros yn ddiogel ac yn iach; cymorth profedigaeth

Allgáu digidol

Mae adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol 2021 Llywodraeth Cymru yn nodi gostyngiad yn nifer y rhai nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd rhwng 2012 a 2020, o 18.2% i 9.8% ledled Cymru. Ymhlith y rhai 50-64 oed, roedd 6% wedi’u hallgáu’n ddigidol yn 2021, o gymharu â 33% o’r
rhai 75+ oed. Fodd bynnag, mae hyn yn welliant sylweddol o gymharu â 2017/18, pan oedd 13% o’r rhai 50-64 oed a 60% o’r rhai 75+ oed wedi’u hallgáu’n ddigidol (127).


Fodd bynnag, mae’r gagendor digidol wedi datblygu’n sylweddol yn ystod y pandemig, gyda mwy o wasanaethau’n symud i ddulliau ar-lein yn unig (128). Mae allgau digidol wedi bod yn broblem i lawer o bobl hŷn o ran cael mynediad at wasanaethau cymorth hanfodol, nid yn
unig oherwydd diffyg offer ond diffyg hyder neu ofn defnyddio gwasanaethau ar-lein (126).

Nodwyd y canfyddiadau hyn hefyd gan arweinwyr proffesiynol, gan arwain at allgau ar gyfer y rheini na allant weithio mewn rolau sy’n gofyn am gysylltiadau digidol, ynysigrwydd cymdeithasol, a phroblemau cyrchu gwasanaethau a newidiodd i fod yn wasanaeth rhithwir
69 yn unig. Fodd bynnag, bu cynnydd yn nifer y bobl hŷn sy’n defnyddio technoleg ddigidol, yn enwedig yn ystod y pandemig COVID-19. Mae prosiectau cynhwysiant digidol wedi cynorthwyo pobl i fynd ar-lein a chael eu haddysgu sut i ddefnyddio’r dechnoleg i gadw
mewn cysylltiad â phobl, a chael mynediad i’r rhyngrwyd. Gall hyn helpu i fynd i’r afael â materion ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd.

Effaith ar ddarpariaeth gwasanaeth

Nododd ymatebwyr i’r arolwg gweithwyr proffesiynol a darparwyr a oedd yn darparu gwasanaethau i bobl hŷn y newidiadau canlynol yn eu darpariaeth gwasanaeth, oherwydd COVID-19 neu gyfyngiadau:

  • Lleihad mewn gwasanaethau wyneb yn wyneb ac ymweliadau cartref, a defnydd o’r ffôn neu blatfformau ar-lein
  • Rhai gwasanaethau’n cael ei lleihau neu eu hatal dros dro
  • Dywedodd ymatebydd sy’n gweithio mewn cartref nyrsio a gofal preswyl: “Rydym wedi gorfod amddiffyn yr holl breswylwyr bob amser rhag y cyhoedd gan gynnwys eu teuluoedd eu hunain” Nododd yr ymatebwyr yr effeithiau canlynol ar staff sy’n gweithio mewn gwasanaethau i bobl hŷn:
  • Pryder, straen, ynysigrwydd, gydag achosion straen wedi’u nodi fel achosion o weithio oriau ychwanegol, llwyth gwaith cynyddol a llai o adnoddau, ochr yn ochr â theimlo’n ofnus oherwydd marwolaeth defnyddwyr gwasanaeth, diffyg cymorth wyneb yn wyneb gan gymheiriaid, a diffyg mynediad at wasanaethau eraill y byddai darparwyr gwasanaethau yn dibynnu arnynt fel arfer. Roedd heriau eraill yn cynnwys cael gwared ar wybodaeth anghywir, ofn COVID-19, teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi, anghyfforddus yn gwisgo offer amddiffynnol personol (PPE) a gwyliau blynyddol wedi’u canslo
  • Mae prinder staff wedi’i nodi, ac wedi’i ddwysau gan faterion megis salwch staff, a gofynion hunanynysu Profi, Olrhain, Diogelu

Effeithiau cadarnhaol COVID-19

Fodd bynnag, gwelwyd rhai effeithiau cadarnhaol oherwydd y pandemig. Mae gwasanaethau wedi gorfod addasu ac mewn rhai achosion mae hyn wedi arwain at fwy o bobl yn gallu cael mynediad atynt, ac mae gwasanaethau wedi gweithredu ffyrdd hyblyg ac
ystwyth o weithio. Mae cysylltiadau newydd wedi’u creu, ac mae llawer o bobl wedi gwirfoddoli yn eu cymunedau i gefnogi pobl hŷn yn arbennig gyda siopa, casglu presgripsiynau, neu gyfeillio dros y ffôn. Roedd gwasanaethau’n integreiddio’n dda ac yn
gweithio ochr yn ochr â’i gilydd, ac roedd patrymau gwaith newydd yn golygu rhywfaint o hyblygrwydd i’r gweithlu. Mae COVID-19 wedi annog datblygiad datrysiadau digidol i gysylltu. Mae staff iechyd a gofal cymdeithasol wedi defnyddio technoleg i gysylltu pobl â’u
teuluoedd, er enghraifft, dyfeisiau llechen mewn cartrefi gofal a wardiau ysbyty, fel bod teuluoedd ac anwyliaid yn gallu siarad.

Mae adroddiad gan Gymdeithas Geriatreg Prydain (2020) yn amlygu rhai arloesiadau a chydweithrediadau i helpu i amddiffyn a gwella gofal pobl hŷn yn ystod y pandemig (129), mae enghreifftiau yn cynnwys

  • Ymyrraeth gofal rhagweledol ar gyfer y rheini hynny sydd â risg uchel
  • Ymateb tîm amlddisgyblaethol i anghenion gofal brys
  • Cydweithrediad ysbyty yn y cartref i gadw pobl gartref
  • Dull amlasiantaeth ar gyfer canllawiau a chymorth cyflym i gartrefi gofal
  • Cynllunio gofal uwch i nodi anghenion unigol
  • Llesiant pobl hŷn a oedd yn derbyn gofal ar ward plant wedi gwella, yn rhannol oherwydd presenoldeb nyrsys plant ac arbenigwyr chwarae a chynllun creadigol, llachar a llawen y ward.
  • Cynllunio rhyddhau integredig
  • Adsefydlu rhagweithiol gyda ffisiotherapi wedi’i dargedu cyn rhyddhau
  • Darparu apwyntiadau ffôn a digidol

8.3 Beth yw’r anghenion gofal a chymorth?

8.3.1 Unigol

Dywedodd sefydliadau’r trydydd sector fod negeseuon fwyfwy ymrannol yn dod i’r amlwg gan y cyfryngau yn ystod y pandemig COVID-19 sy’n gwaethygu tensiynau rhwng cenedlaethau, er enghraifft, sôn am aberthu yn ystod y pandemig i “amddiffyn” pobl hŷn. Nododd sefydliadau’r trydydd sector y risg y bydd pobl hŷn, y mae eu cyfraniad i’r gymdeithas wedi’i trafod yn helaeth, yn cael eu gweld fwyfwy fel pwysau ar adnoddau ac y bydd eu storïau personol yn cael eu colli yn y negeseuon negyddol sy’n cael eu lledaenu. Gall yr agweddau a’r meddylfryd negyddol hyn gael effaith ar iechyd meddwl a llesiant pobl hŷn a dylid mynd i’r afael â nhw.

Mae pwysigrwydd creu cymdeithas lle mae pobl o bob oed yn cael eu gwerthfawrogi’n gyfartal yn cael ei amlygu yn adroddiad Cymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd, “That Age Old Question” (130). Mae’r adroddiad yn amlygu bod pobl sydd ag agweddau negyddol tuag at heneiddio yn byw ar gyfartaledd 7.5 mlynedd yn llai na’r rheini sydd ag agweddau mwy cadarnhaol tuag at heneiddio. Mae astudiaethau diweddar yn dangos eu bod hefyd yn fwy tebygol o ddatblygu dementia. Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn arwain y ffordd yn y DU drwy gydnabod bod y mater hwn yn niweidiol i iechyd ac i gymdeithas yn ehangach, ac mae ei thîm wedi lansio ymgyrch, “Gweithredu yn Erbyn Oedraniaeth” i annog mwy o bobl i gydnabod a herio rhagfarn ar sail oed. Mae Age UK yn dogfennu’r hiliaeth yn ogystal â rhagfarn ar sail oedran a brofwyd gan genhedlaeth Windrush, ac eraill (131).

Anghenion amrywiol

Mae gan Gaerdydd a’r Fro boblogaeth amrywiol, gyda phobl o lawer o wahanol ddiwylliannau a chefndiroedd, sy’n ased gwych yn ein cymunedau, ond sydd hefyd yn golygu “Mae pobl yn byw’n hirach, sy’n beth da, ond rydym yn teimlo ein bod
yn fwrn ar gymdeithas” – person hŷn, grŵp ffocws 71 y gall anghenion amrywio ar draws y boblogaeth. Mae angen i wasanaethau allu addasu ac ymateb i’r amrywiaeth hwn, yn ogystal â’r ffaith y bydd gan y cenedlaethau sydd i ddod o bobl hŷn anghenion gwahanol a byddant yn cynnig asedau gwahanol i’r gymuned, er enghraifft bydd mwy yn gyfarwydd â thechnoleg ddigidol wrth i ni symud i’r dyfodol. Disgwylir y bydd angen i lawer mwy o bobl hŷn o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig gael mynediad at wasanaethau gofal cymdeithasol yn y dyfodol (124), oherwydd na fydd teuluoedd yn gallu cynnig y cymorth yr oeddent yn gallu ei gynnig efallai ar un adeg. Mae mynediad at ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol sy’n ddiwylliannol-sensitif a phriodol yn flaenoriaeth yn y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol sy’n cael ei ddatblygu gan Llywodraeth Cymru.

Anghenion iechyd hirdymor

Mae llawer o bobl hŷn yn byw mewn iechyd da, roedd 56.7% o bobl hŷn Caerdydd a’r Fro yn byw mewn iechyd da yn 2017/18 – 2018/19 (56.1% yng Nghaerdydd, 58% yn y Fro) (132). Dywedodd y rhan fwyaf (71.6%) o’r bobl hŷn a ymatebodd i’r arolwg PNA fod eu llesiant yn
‘dda’ neu’n ‘dda iawn’ cyn y pandemig COVID-19. Gostyngodd hyn i 52.8% yn y flwyddyn ddiwethaf oherwydd effaith COVID-19, ond dyma’r lefel uchaf o hyd ymhlith y grwpiau a holwyd. Dim ond 47.7% o bobl hŷn yng Nghaerdydd a 50.2% ym Mro Morgannwg sy’n byw heb
salwch cyfyngus hirdymor (132).

Iaith a chyfathrebu

Nid oes data lleol ar gael ar broffil iaith Gymraeg pobl hŷn sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Cymru o Blaid Pobl Hŷn: Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio (116) yn nodi pwysigrwydd sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio gwasanaethau yn Gymraeg mewn
ffordd sy’n addas iddynt hwy, ac mae hyn yn ganolog i greu Cymru sy’n gyfeillgar i oed.

Yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, Arabeg, Pwyleg, Bengaleg a Tsieinëeg yw’r pedair iaith fwyaf cyffredin a siaredir ar ôl y Gymraeg a’r Saesneg. Mae gan ddarparwyr gwasanaethau gofal iechyd gyfrifoldeb i ddarparu cyfieithwyr ar y pryd yn ystod ymgynghoriadau i sicrhau “Mae rhwystrau iaith yn fy atal rhag cyrch llawer o wasanaethau/ gweithgareddau” – person hŷn, grŵp ffocws “Mae gwasanaethau ond yn darparu ar gyfer Saesneg” – person hŷn, grŵp ffocws “Rydw i angen help fy nheulu i gyrchu llawer o wasanaethau” – person hŷn, grŵp
ffocws bod y gofal a ddarperir yn briodol ac yn sensitif yn ddiwylliannol. Mae angen gwasanaethau cyfieithu ar gyfer pob rhyngweithiad, megis fferylliaeth a thai. Roedd iaith yn fater a godwyd gan gyfranogwyr y grwpiau ffocws, ac yn yr arolwg teimlai tua un o bob chwech (15.9%) o bobl hŷn nad oedd y gofal a’r cymorth a dderbyniwyd wedi bod yn yr iaith neu’r fformat cyfathrebu o’u dewis.

8.3.2 Cymunedol

Eiddilwch a chwympo

Nod y Rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru (116) yw cynyddu gweithgarwch ymhlith pobl hŷn, lleihau eiddilwch a dirywiad corfforol, a chefnogi pobl i fyw’n annibynnol wrth iddynt fynd yn hŷn. Rhagwelir y bydd y galw am wasanaethau yn seiliedig ar lefelau eiddilwch yn cynyddu oherwydd y niferoedd cynyddol o bobl hŷn yn y dyfodol, ac roedd modelu blaenorol yn rhagweld cynnydd yn y galw o hyd at 31% yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg rhwng 2015 a 2025. Gallu corfforol oedd y broblem fwyaf o bell ffordd a oedd yn atal pobl hŷn a ymatebodd i’r arolwg PNA rhag bod â rheolaeth dros eu bywydau bob dydd (62.9%). Gall eiddilwch achosi cwympiadau, ac mae cwympo yn bryder iechyd cyhoeddus allweddol i
bobl hŷn. Cynhaliodd Teleofal Caerdydd ddadansoddiad o gleientiaid a gwympodd yn ystod 2020-21 a chanfod bod 84% ohonynt yn cwympo dro ar ôl tro, h.y. roeddent wedi cwympo fwy nag unwaith. Nodwyd colli cryfder a chydbwysedd fel y rheswm am y rhan fwyaf o’r
cwympiadau hyn, ac yna cyflyrau iechyd hirdymor. Mae Teleofal yn cymryd agwedd ataliol ragweithiol at leihau cwympiadau ymhlith cleientiaid (133), ac mae BIP Caerdydd a’r Fro wedi datblygu gwasanaeth atal cwympiadau a lansiwyd yn 2018 gyda’r nod o leihau’r risg y
bydd pobl yn cwympo am y tro cyntaf. Rhagwelir hefyd y bydd cyfraddau dementia yn cynyddu a fydd yn effeithio ar y gwasanaethau a ddarperir. I gael rhagor o wybodaeth am anghenion pobl â dementia gweler pennod 14, ac ar gyfer anghenion gofalwyr di-dâl gweler pennod 15.

Gofal diwedd oes

Gall gofal lliniarol o safon uchel wella ansawdd bywyd person sydd â salwch sy’n cyfyngu ar fywyd, a chefnogi ei anwyliaid. Mae Cynllun Cyflawni ar gyfer Gofal Lliniarol a Diwedd Oes 2017 Llywodraeth Cymru wedi’i ymestyn tan fis Mawrth 2022 (134). Mae Gofal Lliniarol a Diwedd Oes wedi cael statws rhaglen Cymru gyfan newydd ac mae’r gwaith hwn wedi dechrau. Cyhoeddwyd y fframwaith cenedlaethol ar gyfer darparu gofal profedigaeth ym mis Hydref 2021 i gefnogi pobl yn y cyfnod cyn, neu ar ôl, marwolaeth person arwyddocaol yn eu bywydau (135).


Oherwydd poblogaeth sy’n heneiddio, rhagwelir y bydd 135,000 o farwolaethau blynyddol ychwanegol erbyn 2040 yng Nghymru a Lloegr, o gymharu â 2014. Mae hyn yn gysylltiedig â mwy o gymhlethdod o ran gofal gyda mwy nag un salwch difrifol yn cyfrannu at anghenion
gofal lliniarol. Mae astudiaethau wedi amcangyfrif y byddai tua 75% o bobl sy’n marw wedi elwa o ofal lliniarol (136). Mae patrymau man marwolaethau wedi newid, gyda chyfran gynyddol o farwolaethau yn y cartref ac mewn cartrefi gofal, a gostyngiad mewn
marwolaethau mewn ysbytai, rhwng 2004-2014 yng Nghymru a Lloegr (137). Mae Marie Curie yn adrodd bod nifer cynyddol o farwolaethau yn y cartref yn 2020, o gymharu â’r 5 mlynedd ynghynt, yn rhannol oherwydd cyfyngiadau COVID-19 a newidiadau mewn
darpariaeth gofal a chyllid. Cyn y pandemig, er bod hanner y marwolaethau yn digwydd yn yr ysbyty, dim ond 7% o bobl yn y DU a nododd fod yn well ganddynt farw yn yr ysbyty (138).

Bydd y patrymau newidiol hyn yn effeithio ar y galw am, a disgwyliadau, darpariaeth a chyflenwad gofal lliniarol a diwedd oes ym mhob lleoliad. Mae Cynlluniau Gofal Ymlaen Llaw yn hwyluso sgyrsiau rhwng person sy’n agosáu at ddiwedd oes, ei deulu, a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, ynglŷn â dymuniadau’r person a’r hyn sy’n bwysig iddo ef neu hi, gan gynnwys dewisiadau o ran gofal, triniaethau, a’r lle sydd orau ganddo/ganddi farw. Mae trafodaethau o’r fath yn galluogi gwell dewis, rheolaeth, ac ansawdd gofal diwedd oes i’r unigolyn, ac yn lleihau’r baich profedigaeth ar yr anwyliaid. Mae Cynlluniau Gofal Ymlaen Llaw wedi’u gwreiddio yn ‘Strategaeth Llunio ein Lles i’r Dyfodol 2015-2025’ BIP Caerdydd a’r Fro (139).

Nododd adolygiad o Wasanaethau Gofal Lliniarol Arbenigol yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn 2021, fod COVID-19 wedi dod â gofal diwedd oes i’r sylw. Yn erbyn cefndir y weledigaeth a ddisgrifiwyd gan gynllun tymor hir Llywodraeth Cymru “Cymru Iachach”, sy’n anelu at
wasanaethau a ddarperir yn y cartref, neu’n agos i’r cartref, mewn modd di-dor, nodwyd y blaenoriaethau canlynol:

  • Darpariaeth deg a mynediad teg at ofal lliniarol a diwedd oes
  • Adeiladu ar egwyddorion gofal iechyd sy’n seiliedig ar werth, gan gynnwys mesurau canlyniadau a adroddir gan gleifion, a mesurau profiad a adroddir gan gleifion
  • Dysgu o COVID-19, gan gynnwys cyd-gynhyrchu darpariaeth gofal; cyflymder ymyrraeth glinigol, arloesedd a pholisi; a gosod gofal lliniarol a diwedd oes yn ganolog wrth gynllunio ar gyfer pandemig yn y dyfodol

Ar hyn o bryd, mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ddarpariaeth arbenigol gymysg rhwng gwasanaethau statudol a thrydydd sector. Mae gwasanaeth gofal lliniarol arbenigol statudol i gleifion mewnol gyda chyngor meddyg ymgynghorol 24/7, a gwasanaeth
cymorth arbenigol nyrsys cymunedol ar gyfer ysbytai cleifion mewnol ar benwythnosau yn ystod oriau craidd. Darperir y rhan fwyaf o ofal lliniarol i gleifion mewnol mewn ysbytai (140), er bod gofal hosbis cleifion mewnol yn cael ei ddarparu gan Hosbis Marie Curie
Caerdydd a’r Fro. Mae Marie Curie ym Mro Morgannwg, a Hosbis y Ddinas yng Nghaerdydd yn rhoi mewnbwn gofal lliniarol arbenigol yn y gymuned gan gynnwys cartrefi gofal. Mae Marie Curie yn darparu gwasanaeth Hosbis yn y Cartref ar draws Caerdydd a’r Fro, sy’n gweithio ochr yn ochr â nyrsys ardal, meddygon teulu a theuluoedd/gofalwyr sy’n darparu gofal diwedd oes craidd yn y gymuned gan gefnogi pobl i aros gartref lle bo hynny’n briodol (141).

8.3.3 Penderfynyddion ehangach iechyd

Amddifadedd

Gwyddom fod disgwyliad oes yn gysylltiedig â statws economaidd-gymdeithasol: yn 2017, roedd bwlch disgwyliad oes o 8.6 mlynedd ar gyfer dynion a 6.6 mlynedd i fenywod, rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg (113) (gweler
hefyd Pennod 4: demograffeg). Canfu dadansoddiad o ddisgwyliad oes yng Nghymru cyn COVID-19 fylchau disgwyliad oes eang a chynyddol rhwng y pumedau cyfoethocaf a thlotaf yng Nghymru. Ar gyfer menywod, clefyd anadlol, canserau a chlefydau cylchrediad y gwaed
oedd fwyaf dylanwadol, ac ar gyfer dynion, clefyd cylchrediad y gwaed, canserau a chyflyrau anadlol a gyfrannodd fwyaf at y bylchau mewn disgwyliad oes (142).


Nododd adroddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn 2019 fod y bwlch disgwyliad oes iach yn 18 mlynedd yng Nghymru, rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig (143). Mae’r adroddiad yn nodi bod pobl hŷn yn dueddol o fod ag incwm is na phobl dan 60 oed. Mae tua
thraean o bobl 60-74 oed yng Nghymru yn derbyn incwm o lai na £200 yr wythnos (£10,400 y flwyddyn). Mae merched yn fwy tebygol o fod yn dlotach na dynion (143). Mae pensiynwyr yn y pumed tlotaf o boblogaeth y DU yn fwy tebygol o fod ag un neu ddim ffrind
agos, o gymharu â phensiynwyr yn y pumed cyfoethocaf, mewn ymchwil a gynhaliwyd yn 2014/15 a 2017/18 (144).


Roedd rhwystrau ariannol yn amlwg mewn trafodaethau grŵp ffocws, yn ymwneud â mynediad at wasanaethau gofal a chymorth, yn ogystal â gweithgareddau hamdden a chymunedol. Dywedodd gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi pobl hŷn y gall cost gweithgareddau fod yn rhwystr i bobl hŷn. Dylid mynd i’r afael â rhwystrau ariannol pan fydd gwasanaethau’n cael eu darparu

Tai

Mae gan boblogaeth sy’n heneiddio Caerdydd a’r Fro oblygiadau penodol ar gyfer maint, math a lleoliad llety sy’n benodol i’w hanghenion. Mae’r mwyafrif o’r bobl hŷn ar y Rhestr Aros am Dai yng Nghaerdydd a’r Fro angen eiddo un ystafell wely ar y mwyaf (29) (145). Gall tai gwael neu anaddas effeithio’n anghymesur ar iechyd corfforol a meddyliol, annibyniaeth a llesiant pobl hŷn (145). Amcangyfrifodd asesiad o lety tai pobl hŷn a gynhaliwyd ar gyfer y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn 2018 (146) yr angen am 3,051 o unedau llety pobl hŷn ychwanegol erbyn 2035 yng Nghaerdydd, a ddylai fod yn gymysgedd o dai, tai â gofal, a gofal nyrsio. Yn y Fro, roedd yr adroddiad yn rhagweld yr angen am 1,297 o unedau ychwanegol erbyn 2035.


Mae Strategaeth Tai Bro Morgannwg yn nodi’r newidiadau demograffig a ragwelir a phatrymau cynyddol cyfran y bobl â salwch cyfyngus hirdymor. Pwysleisir yr angen am dai i alluogi pobl i aros yn annibynnol, er enghraifft drwy ddarparu tai fforddiadwy ac addas o ansawdd uchel. Ochr yn ochr â hyn, ystyrir gwasanaethau galluogi, Teleofal a thai Gofal Ychwanegol (147). Yn yr un modd, mae Strategaeth Tai Caerdydd yn nodi mecanweithiau ar gyfer hybu annibyniaeth pobl, er enghraifft drwy argaeledd tai arbenigol i bobl hŷn (megis tai gwarchod a darpariaeth gofal ychwanegol). Er enghraifft, bydd cynlluniau tai gwarchod y cyngor yn cynnwys mannau cymunedol, nodweddion dementia gyfeillgar, yn cynnig cyfleusterau gwefru a storio ar gyfer sgwteri, a byddant yn hygyrch ac yn gynhwysol yn
ddiwylliannol. Mae’r Strategaeth yn amlygu’r Gwasanaethau Byw’n Annibynnol fel gwasanaeth cymorth ataliol i helpu i gynnal annibyniaeth (148). Cyhoeddwyd Strategaeth Tai Pobl Hŷn ar wahân yng Nghaerdydd yn 2019, sydd â’r nod o wella tai presennol, cynnal annibyniaeth, diwallu anghenion y rhai mwyaf agored i niwed, a mynd i’r afael ag ynysigrwydd cymdeithasol (145).


Roedd pobl hŷn a ymatebodd i’r arolwg PNA ddwywaith yn fwy tebygol o ddweud bod eu cartref yn rhy fawr, o gymharu ag unrhyw un o’r grwpiau eraill a holwyd. Mae llawer o bobl hŷn angen addasiadau i’w cartrefi i’w galluogi i barhau i fyw’n annibynnol (adroddodd 52% fod angen addasiadau yn yr arolwg PNA). Mae’r Fframwaith Strategol Addasiadau Tai drafft a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru yn rhoi fframwaith i randdeiliaid sy’n ymwneud â darparu cymhorthion ac addasiadau, defnyddwyr gwasanaethau ac eraill sy’n hwyluso dull
mwy strategol ac integredig o ddarparu gwasanaethau addasiadau ar lefel leol. Dylai’r fframwaith ddod yn weithredol o fis Ebrill 2022. Mae’r fframwaith yn cynnwys y gofyniad i sefydlu dealltwriaeth gyffredin o angen y boblogaeth a’r galw am addasiadau a nodi anghydraddoldebau ac mae’n cysylltu i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol a’r asesiadau o anghenion y boblogaeth (149).


Bydd Caerdydd a Bro Morgannwg yn datblygu unedau preswyl newydd ar gyfer pobl hŷn yn y blynyddoedd i ddod. Er mwyn i’r rhain fod o’r budd gorau i iechyd a lles trigolion y dyfodol, dylid ystyried pobl hŷn wrth gynllunio’r datblygiadau hyn. Er enghraifft, mae galluogi pobl i
deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy a rheolaidd, yn ogystal â cherdded neu feicio, yn hanfodol er mwyn i bobl hŷn barhau’n gorfforol egnïol a gwella eu hiechyd. (150).


Mae llwybrau sy’n cael eu cynnal a’u cadw’n dda, goleuadau digonol, lleoli unedau preswyl yn agos at wasanaethau presennol, a sicrhau mannau diogel ar gyfer storio beiciau i gyd yn annog cerdded a beicio. Mae’n rhaid i bwyntiau gwefru ar gyfer cymhorthion symudedd
trydan fod ar gael ac yn hygyrch mewn lleoliadau y penderfynir arnynt ar y cyd â’r rhai sy’n eu defnyddio.

Gofal Cartref


Nod Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) Caerdydd a’r Fro yw darparu gwasanaethau mor agos i’r cartref â phosibl, drwy fodel gofal integredig “@home”. Mae hyn yn cynnwys datblygu timau amlasiantaeth mewn clystyrau. Bydd y rhain yn darparu ymateb cyflym i
argyfwng, yn atal derbyniadau y gellir eu hosgoi i’r ysbyty, ac yn hwyluso rhyddhau o’r ysbyty pan fo angen mynd i’r ysbyty. Mae “Gartref yn Gyntaf” yn thema allweddol ar draws y tair rhaglen BPRh, sef Dechrau’n Dda, Byw’n Dda, a Heneiddio’n Dda (151). Gweledigaeth y
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yw bod pobl yn byw’r bywydau gorau y gallant yn eu cartrefi a’u cymunedau, ac fe’i cefnogir gan y Fframwaith Canlyniadau Rhanbarthol. Gall gofal cartref gael ei ddarparu gan awdurdodau lleol, darparwyr annibynnol neu breifat,
a’r trydydd sector (152). Nododd Papur Gwyn gan Lywodraeth Cymru yn 2021 fod mwy o oedolion yn derbyn gwasanaethau gofal a chymorth yn y cartref, ac roedd hyn wedi cynyddu’r galw y tu hwnt i’r ddarpariaeth gofal cartref a oedd ar gael cyn COVID-19. Roedd oedi wrth drosglwyddo gofal o’r ysbyty yn aml oherwydd bod angen aros am becynnau gofal cartref (153).


Nododd dadansoddiad o dueddiadau yng Nghymru rhwng 2006/07 a 2018/19 er bod nifer y boblogaeth dros 65 oed wedi cynyddu, ni fu cynnydd yn nifer y gwasanaethau gofal preswyl. Mae esboniadau posibl yn cynnwys ffafriaeth am ofal cartref, yn ogystal â thai gofal
ychwanegol, gofal anffurfiol gan deulu a ffrindiau, a phobl hŷn yn byw bywydau iachach (152). Mae adroddiad Cymru gyfan yn nodi nad yw effaith COVID-19 ar agweddau tuag at gartrefi gofal yn hysbys hyd yma (er enghraifft, oherwydd marwolaethau gormodol a
gofnodwyd mewn cartrefi gofal (154)) ond gall ddylanwadu ar y galw am wasanaethau gofal cartref yn y dyfodol. Gall galw yn y dyfodol hefyd gael ei lywio gan nifer yr achosion cymharol o gyflyrau sy’n effeithio ar oedolion hŷn, er enghraifft, gallai darparu gofal cartref
fod yn fwy cymhleth i bobl â dementia difrifol. Gwelwyd bod gofal cartref yn arbennig o fregus yn ystod COVID-19 (153) (152).


Canfu ymchwil a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2021 gan Brifysgol Caerdydd a oedd yn ymchwilio i effaith COVID-19 ar weithwyr gofal cartref yng Nghymru fod 28% o’r gweithwyr wedi ceisio gofal iechyd meddwl, ac wedi nodi risgiau emosiynol a llesiant i weithwyr gofal
cartref megis llwyth gwaith cynyddol, ynysu, a diffyg cydnabyddiaeth o werth. Nodwyd hefyd risgiau o ddod i gysylltiad â COVID-19, megis oherwydd prinder staff, natur bersonol y gofal a ddarperir i gleientiaid, ansicrwydd o ran statws COVID-19 cleient, ac anymarferoldeb
defnyddio PPE (megis ofn y cleient; anawsterau cyfathrebu; sbectol yn stemio wrth ymolchi cleientiaid) (155).


Mae’r Fframwaith Adfer Gofal Cymdeithasol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn blaenoriaethu galluogi pobl hŷn a phobl anabl i fod yn aelodau gweithredol o’u cymunedau lleol, ac i barhau i fod yn weithgar ac annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r Fframwaith
yn cydnabod bod COVID hir yn debygol o effeithio ar wasanaethau gofal cartref oherwydd materion recriwtio, cadw, a rheoli salwch ymhlith staff. Nod y Fframwaith yw cynyddu gallu a chyrhaeddiad gofal cartref drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys drwy ymrwymiad i’r
Economi Sylfaenol (156).

8.3.4 Anghenion heb eu diwallu

Nododd arweinwyr proffesiynol yr angen i ddeall yn well yr hyn y mae pobl hŷn am ei gael gan wasanaethau, a rhoi mwy o ystyriaeth i’r ffordd orau o gefnogi pobl sydd â nam gwybyddol. Hefyd mae angen cynyddu’r gefnogaeth o ran mynd i’r afael ag eiddilwch. Nododd cyfranogwyr y grŵp ffocws y bylchau canlynol:

  • Gwell mynediad at ofal iechyd i ddiwallu anghenion: “anhawster i gael apwyntiad, hyd yn oed mewn argyfwng”
  • Gwell systemau trafnidiaeth gyhoeddus
  • Gwell llety: “Gwell tai gwarchod”
  • Gwell cefnogaeth: “Gwell cefnogaeth i bobl fyw’n annibynnol”; “Mwy o grwpiau cymorth er mwyn cwrdd â phobl eraill”
  • Nododd ymatebwyr i’r arolwg gweithwyr proffesiynol a darparwyr yr anghenion canlynol heb eu diwallu:
  • Mynediad at wasanaethau gofal dydd, gofal cartref, a gwasanaeth codi
  • Rhestrau aros hir ar gyfer gwasanaethau cymorth gan gynnwys iechyd meddwl, ffisiotherapi, gwasanaethau ysbyty, a gofal yn y cartref; nodwyd bod oedi mewn gofal yn cynyddu anghenion pobl
  • Cyfleoedd i gymdeithasu
  • Mae bylchau mewn gwybodaeth a dealltwriaeth yn cynnwys:
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o’r hyn y mae pobl hŷn am ei gael gan wasanaethau
  • Ystyried y ffordd orau o weithio gyda phobl sydd â nam gwybyddol sylweddol
  • Dealltwriaeth gyffredin o angen a galw’r boblogaeth am addasiadau a nodi anghydraddoldebau o fewn a rhwng rhanbarthau
  • Dealltwriaeth glir o anghenion iaith pobl hŷn Caerdydd a’r Fro
  • Meincnodi a’r “model cymdeithasol o ofal”
  • Ble mae’r bylchau mewn darpariaeth gwasanaeth
  • Ble i ganolbwyntio gwaith atal i gael yr effaith orau ar leihau derbyniadau i’r ysbyty

8. 4 Beth yw ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen?

8.4.1 Atal ac asedau

Er mwyn mynd i’r afael â’r materion sy’n wynebu pobl wrth iddynt heneiddio, mae atal yn hollbwysig oherwydd gall gadw pobl yn iachach am gyfnod hwy, yn byw’n annibynnol, lleihau’r angen am ofal cymdeithasol a’r galw am wasanaethau eraill. Mae’r elfennau allweddol hyn sy’n ymwneud ag atal wedi’u nodi gan weithwyr proffesiynol a phobl hŷn:

  • Fframwaith cyfreithiol yn ymwneud â galluedd meddyliol, Atwrneiaeth a gwneud Penderfyniadau Uwch
  • Rheolaeth a chefnogaeth ariannol
  • Gwasanaethau atal cwympiadau
  • Iechyd meddwl a gwytnwch
  • Cynhwysiant digidol Gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig ar draws sectorau
  • Mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol
  • Cynnal rolau cymdeithasol mewn teuluoedd a chymunedau, er mwyn rhoi ystyr i fywyd

Asedau i gefnogi llesiant

Amlygodd grwpiau ffocws, trafodaethau gyda gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi pobl hŷn a chanlyniadau arolygon ffynonellau cymorth a llesiant ar gyfer pobl hŷn yng Nghaerdydd a’r Fro. Roedd teulu a ffrindiau yn cael eu gwerthfawrogi: “Rwy’n dibynnu ar deulu am
lawer o bethau”. Mae lleoliadau cymunedol yn cefnogi annibyniaeth a lles. Dywedodd 42.2% o ymatebwyr i’r arolwg sy’n bobl hŷn eu bod yn mynychu lleoliad yn eu cymuned. Mae enghreifftiau o asedau lleol yn cynnwys canolfannau galw heibio (“gweithwyr cymorth mewn sesiynau galw heibio”); clybiau ar gyfer rhai dros 60 oed mewn lleoliadau cymunedol fel mosgiau, llyfrgelloedd/hybiau, clybiau megis rhai drama, llyfrau, coginio neu arddio. Darparodd sefydliadau trydydd sector megis Age Connects, Age Cymru, y Groes Goch gefnogaeth, ac roedd rhaglen Cyfeillion Dementia y Gymdeithas Alzheimer hefyd yn ddefnyddiol. Roedd gwasanaethau gofal iechyd yn gefnogol “Rwy’n byw bywyd da a bodlon gyda llawer o deulu a ffrindiau i’m cefnogi a threulio amser â nhw” – person hŷn, grŵp ffocws ac mae staff cartrefi gofal “yn wych, maen nhw’n cymryd yr amser i ofalu”. Mae tai gofal ychwanegol yn hwyluso annibyniaeth ymhlith pobl sydd ag anghenion gofal.

Mae Dewis Cymru yn darparu rhestr o sefydliadau lleol a chenedlaethol a all ddarparu cymorth a chefnogaeth i drigolion ledled Cymru, gan gynnwys Caerdydd a’r Fro, ar gyfer amrywiaeth o bynciau gan gynnwys llesiant, diogelwch, rheoli arian, bod gartref, a gofalu am rywun (157).

8.4.2 Gwasanaethau cymunedol

Adsefydlu ac ail-alluogi

Mae adsefydlu yn disgrifio’r cysyniad o ddarparu cymorth personol i unigolyn i’w alluogi i fyw bywyd mor gorfforol egnïol a llawn â phosibl. Mae hyn yn cynnwys ail-alluogi, sy’n disgrifio’r broses o adennill sgiliau a hyder. Gall adsefydlu atal angen rhag codi neu
waethygu, hybu hunanreolaeth, helpu i wella ar ôl digwyddiad megis derbyniad i’r ysbyty, a rhychwantu iechyd corfforol a meddyliol (158).


Dangosir model Adsefydlu pum haen seiliedig ar dystiolaeth Caerdydd a’r Fro, a gyflwynwyd yn 2020, yn Ffigur 16.4. Mae pedair “rheol adsefydlu” sy’n rhychwantu pob un o’r pum haen, wedi’u nodi mewn saethau deuben glas yn y ffigur. Daw’r egwyddorion dylunio
(mewn coch) o strategaeth BIP Caerdydd a’r Fro, ‘Llunio ein Lles i’r Dyfodol’. Nod adsefydlu yw lleihau anghydraddoldebau iechyd, hybu annibyniaeth, achub y blaen ac osgoi argyfyngau, a galluogi pobl i fwynhau bywyd ystyrlon gartref lle bo modd (158).

Trafnidiaeth

Yn Asesiad o Anghenion y Boblogaeth 2017 nodwyd trafnidiaeth fel ffordd o wella annibyniaeth a llesiant pobl (159). Cyhoeddodd y Ganolfan Heneiddio’n Well adroddiad ar rwystrau a galluogwyr i deithio llesol ymhlith pobl 50 i 70 oed, gyda themâu allweddol yn
ymwneud â gallu corfforol, hyder, agosrwydd at amwynderau, llwybrau troed a llwybrau beicio a gynhelir, normau cymdeithasol, a chymhelliant (150). Mae Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio Llywodraeth Cymru yn ymgorffori trafnidiaeth gyhoeddus a
chymunedol sy’n hygyrch i bob person hŷn, fel blaenoriaeth. Ystyrir bod trafnidiaeth yn hollbwysig i alluogi pobl hŷn i gynnal eu hannibyniaeth, eu cyfranogiad, lleihau ynysigrwydd ac unigrwydd, a chael mynediad at wasanaethau. Roedd rhwystrau i fynediad yn cynnwys
cydgysylltu gwael rhwng systemau trafnidiaeth, argaeledd toiledau cyhoeddus, a seddi. Mae teithio am ddim ar fysiau i bobl dros 60 oed yn parhau i fod yn y strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru. Mae tri maes allweddol yn cynnwys datblygu trafnidiaeth sy’n ymateb i’r
galw, gwella gwasanaethau bysiau, a chefnogi pobl i gynllunio eu teithiau o ddrws i ddrws (116).

Mae angen i wasanaethau iechyd fod yn hygyrch i bobl hŷn, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus. Trafodir mannau cyfeillgar i oed yn Adroddiad Blynyddol 2019 Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a’r Fro (113).


Yng Nghaerdydd a’r Fro, mae nifer o ddarparwyr trafnidiaeth gymunedol trydydd sector, gan gynnwys Age Connects, Cludiant Gwasanaethau Brys Gwirfoddol, Gwasanaeth Trafnidiaeth Ysbyty, ynghyd ag eraill (160).

8.4.3 Dull partneriaeth

Meddwl i’r dyfodol

Bydd y newid demograffig yn her sylweddol yn y dyfodol, ac mae’r galw am ofal cymdeithasol yn benodol yn mynd i fod yn cynyddu. Mae yna faterion gyda recriwtio ym maes gofal cymdeithasol ar hyn o bryd y mae angen mynd i’r afael â nhw, ac mae angen sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu hariannu’n gynaliadwy. Gall newidiadau cymdeithasol megis cyflogwyr yn galluogi cyfleoedd ymddeoliad hyblyg effeithio ar y gwasanaethau y mae galw amdanynt ac a ddefnyddir. Mae angen ariannu gofal cymdeithasol yn gynaliadwy ar gyfer yr hirdymor.

Gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

Mae angen i wasanaethau fod yn gydgysylltiedig. Dylid rhoi blaenoriaeth i atal, er mwyn cefnogi pobl hŷn i fyw a heneiddio’n dda (116). Gall presgripsiynu cymdeithasol (161) a darpariaeth ystod eang o wasanaethau cymorth alluogi pobl hŷn i gael eu hanghenion wedi’u diwallu, megis mynd i’r afael ag ynysigrwydd ac o bosibl lleihau eu hangen am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi datblygu cynlluniau gweithredu cymunedol i fynd i’r afael ag unigrwydd ar gyfer pob un o bedair gwlad y DU. Yng Nghymru, mae’r cynllun yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn annog gwaith partneriaeth rhwng Gofal Sylfaenol a gwasanaethau eraill, ac yn galw ar bawb i gymryd camau i fynd i’r afael ag unigrwydd (162)


Mae angen i wasanaethau fod yn ddigon hyblyg i ddiwallu anghenion yr unigolyn a’i ddewisiadau. Bu symudiad cadarnhaol tuag at gefnogi pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain, ac i gael hawliau i ddweud beth maent ei eisiau a’i angen. Mae mwy o bobl yn dewis peidio
â byw mewn llety gofal preswyl, ond yn aros gartref ac yn cael cymorth yno, sy’n dod o amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys y trydydd sector. Yn aml, fodd bynnag, mae dal angen gofal nyrsio ar ryw adeg ym mywydau pobl. Mae angen i amrywiaeth o ddarparwyr
gwasanaethau gydweithio – y sector iechyd, yr awdurdod lleol a’r trydydd sector i ddarparu’r gofal cywir ar yr adeg gywir.

8.5 Beth sy’n debygol o ddigwydd yn y dyfodol?

Yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg disgwylir i nifer y bobl 65 i 84 oed gynyddu o tua 70,000 i tua 93,000 o bobl rhwng 2019 a 2039. Bydd hyn yn golygu cynnydd o 14% yn y boblogaeth gyfan yn 2019 i 16.2% yn 2039. Mae Ffigur 8.2 yn dangos y gyfradd twf a ddisgwylir yn y
grŵp oedran hwn rhwng 2019 a 2039. Dylid nodi bod amcanestyniadau’n dod yn llai cywir po bellaf ymlaen i’r dyfodol y maent yn rhagfynegi.

Mae disgwyl i nifer y bobl 85 oed a hŷn godi hyd yn oed yn fwy sydyn, gyda disgwyl i’r niferoedd ddyblu yn yr 20 mlynedd nesaf. Bydd hyn yn golygu cynnydd o 2.4% o gyfanswm y boblogaeth yn 2019 i 4.2% yn 2039. Mae Ffigur 8.3 yn dangos y newid hwn.

Bydd angen i iechyd a gofal cymdeithasol addasu a chanolbwyntio nid yn unig ar effaith barhaus y pandemig, ond hefyd yr angen i barhau i greu system integredig sy’n darparu gwasanaethau o’r ansawdd gorau i’r boblogaeth. Bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ymdrechion ar y “system gyfan” gan roi dinasyddion yn y canol a’u hamgylchynu â chymunedau lleol cydnerth ochr yn ochr â gofal sylfaenol a chymunedol (25). Mae angen i wasanaethau iechyd fod yn ystwyth ac ymatebol a gwasanaethau gofal cymdeithasol i fod
yn ofalgar, effeithiol ac wedi’u cysylltu’n ddi-dor â chymunedau lleol a gwasanaethau iechyd, i ddarparu cymorth i’r rheini sydd yn eu cartrefi eu hunain. Nid yw’r galw yn y dyfodol am ofal ffurfiol nid yn unig yn gysylltiedig â’r ffaith bod y boblogaeth yn heneiddio. Fodd bynnag, mae’r twf a ragwelir yn nifer y bobl hŷn ag anghenion gofal cymhleth (gan gynnwys dementia difrifol) yn debygol iawn o arwain at bwysau cynyddol ar wasanaethau iechyd a gofal (163). Er enghraifft, rhagwelir y bydd nifer yr oedolion hŷn sy’n byw gyda dementia difrifol yn dyblu yng Nghymru erbyn 2040.

8.6 Argymhellion

Awdurdodau Lleol Caerdydd a Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a darparwyr preifat i:

  • Gydnabod amrywiaeth y grŵp “pobl hŷn” a darparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion grŵp mor amrywiol, gan gynnwys opsiynau trafnidiaeth
  • Parhau i ymgorffori Model Adsefydlu Caerdydd a’r Fro
  • Datblygu ymhellach gydweithrediadau presennol i ddarparu gofal diwedd oes o ansawdd uchel
  • Integreiddio gwasanaethau gofal a chymorth i alluogi pobl hŷn i fyw’n annibynnol ac yn iach gartref cyhyd â phosibl, er enghraifft, drwy’r rhaglen @home
  • Hyrwyddo’r defnydd o Dewis Cymru i godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael

Awdurdodau Lleol Caerdydd a Bro Morgannwg i:

  • Gefnogi datblygiadau adeiladau newydd i ddiwallu anghenion poblogaeth sy’n heneiddio, a chynyddu’r ddarpariaeth o amrywiaeth o opsiynau llety i alluogi pobl hŷn i wneud dewisiadau gwybodus ynglŷn â ble a sut maent yn byw.
  • Gweithredu’r Fframwaith Strategol Addasiadau Tai; a sicrhau bod eiddo presennol yn briodol, yn ddiogel, ac yn cefnogi annibyniaeth pobl hŷn
  • Cymhwyso safonau dylunio trefol a meini prawf hygyrchedd wrth ail-ddylunio seilwaith presennol, er enghraifft, cynyddu’r amser i bobl groesi’r ffordd wrth groesfan i gerddwyr a reolir gan olau (113)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Gofal Sylfaenol i:

  • Hyrwyddo ‘Mynd i’r Afael ag Unigrwydd. Cynllun gweithredu cymunedol i Gymru’ Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol ymhlith darparwyr gofal iechyd a phartneriaid er mwyn codi ymwybyddiaeth o unigrwydd, a chynghori sut y gellir nodi a chefnogi cleifion unig (113)
Skip to content