Positive Futures: Helpwch i Lywio Cymorth i Bobl sy’n Heneiddio gyda HIV yng Nghymru

Mae Prifysgol Caerdydd yn gwahodd pobl sy’n byw gyda HIV a gweithwyr proffesiynol sy’n eu cefnogi i gymryd rhan mewn ymchwil i brofiadau a heriau heneiddio gyda HIV yng Nghymru.

Nod prosiect ymchwil Positive Futures yw deall yn well y prif faterion sy’n wynebu pobl wrth iddynt heneiddio gyda HIV, a sut y gall eu profiadau helpu i lywio gwasanaethau a chymorth yn y dyfodol.

Pwy all gymryd rhan?

Mae’r ymchwilwyr yn awyddus i glywed gan:

  • Bobl 50 oed a throsodd sy’n byw gyda HIV yng Nghymru, i rannu eu profiadau o heneiddio a chael cymorth.
  • Weithwyr proffesiynol sy’n cefnogi pobl sy’n byw gyda HIV, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio ym maes gofal iechyd, gofal cymdeithasol, tai a’r trydydd sector.

Beth fydd cymryd rhan yn ei olygu?

Gwahoddir cyfranogwyr i gael sgwrs breifat â’r tîm ymchwil i rannu eu profiadau a’u safbwyntiau.

Gellir cynnal y sgyrsiau ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, yn ôl dewis yr unigolyn.

Bydd pobl sy’n byw gyda HIV sy’n cymryd rhan yn cael taleb gwerth £25.

Pam mae’r ymchwil hon yn bwysig?

Mae deall profiadau pobl sy’n heneiddio gyda HIV yn bwysig er mwyn nodi heriau, deall anghenion cymorth a llywio datblygiad gwasanaethau’r dyfodol.

Drwy wrando ar bobl sydd â phrofiad uniongyrchol a gweithwyr proffesiynol o wahanol sectorau, nod yr ymchwil yw meithrin gwell dealltwriaeth o’r materion sydd bwysicaf.

Rhagor o wybodaeth a sut i gymryd rhan

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan neu gael rhagor o wybodaeth gysylltu â thîm Positive Futures ym Mhrifysgol Caerdydd.

E-bost: [email protected]

Ffôn: 02922 517783

Gwefan: https://careresearchwales.org/research/positive-futures

Gallwch hefyd sganio’r cod QR ar y poster recriwtio i gael rhagor o wybodaeth.

Mae eich llais yn bwysig. Gall rhannu eich profiadau helpu i lywio gwasanaethau’r dyfodol i bobl sy’n heneiddio gyda HIV ledled Cymru.

Skip to content