Lansio llawlyfr newydd ‘Gofalu trwy newid’ i gefnogi gofalwyr di-dâl ledled Caerdydd a’r Fro

Mae adnodd newydd sydd wedi’i gynllunio i gefnogi gofalwyr di-dâl trwy rai o’r newidiadau mwyaf heriol ar eu taith ofalu wedi’i lansio ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.

Mae Gofalu trwy newid – Llawlyfr i gefnogi gofalwyr di-dâl wedi’i ddatblygu drwy waith partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Cyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, Compassionate Cymru ac Age Cymru, ac yn bwysig, drwy gyd-gynhyrchu â gofalwyr di-dâl eu hunain. Mae’r llawlyfr yn cydnabod y rôl hanfodol y mae gofalwyr di-dâl yn ei chwarae wrth gefnogi anwyliaid a’i nod yw rhoi gwybodaeth a sicrwydd pan fydd amgylchiadau’n newid.

Lansiwyd y llawlyfr yn swyddogol ar 1 Hydref yng Nghynulliad Gofalwyr Di-dâl Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro. Datblygwyd y rhaglen ar gyfer y Cynulliad eleni gyda gofalwyr di-dâl ac mae’n canolbwyntio’n benodol ar drawsnewidiadau a newidiadau ar y daith ofalu. Mae’r ffocws hwn ar y cyd yn amlygu pa mor amserol yw’r adnodd newydd ac yn adlewyrchu’r materion sy’n flaenoriaeth ar hyn o bryd i lawer o ofalwyr di-dâl ledled Caerdydd a’r Fro.

Mae newid yn rhan anochel o ofalu. Gall ddigwydd yn raddol wrth i iechyd neu anghenion rhywun newid, neu’n fwy sydyn ar ôl diagnosis newydd, symud i ofal preswyl neu brofedigaeth. Ar gyfer gofalwyr di-dâl, y gall eu rôl ofalu ddod yn ganolog i fywyd bob dydd, gall y trawsnewidiadau hyn gael effaith emosiynol ac ymarferol sylweddol.

Mae’r llawlyfr yn dwyn gwybodaeth ddefnyddiol at ei gilydd mewn un lle, sy’n cwmpasu diagnosis newydd neu wedi’i newid, galar rhagflaenol, rhannu gofal gartref, rheoli straen a phryder, gofal preswyl, colled sydyn neu annisgwyl, profedigaeth a bywyd ar ôl gofalu. Mae hefyd yn cyfeirio gofalwyr i sefydliadau lleol a chenedlaethol a all ddarparu cymorth a chefnogaeth bellach.

Mae pob un o’r asiantaethau partner cysylltiedig yn hynod falch o’r adnodd hwn ac yn gwybod pa mor hanfodol y gall y wybodaeth hon fod i ofalwyr, dywed y Cynghorydd Norma Mackie o Gyngor Caerdydd,

“Mae gofalwyr di-dâl yn gwneud cyfraniad enfawr i fywydau’r bobl maen nhw’n gofalu amdanynt ac i’n cymunedau, ond rydyn ni’n gwybod y gall amgylchiadau gofalu newid, weithiau’n sydyn iawn. Mae Gofalu trwy newid wedi’i greu i ddarparu gwybodaeth ymarferol, sicrwydd a llwybrau clir i gefnogaeth ar yr adegau pan fydd ei hangen fwyaf ar ofalwyr. Rwy’n gobeithio y bydd y llawlyfr hwn yn helpu gofalwyr i deimlo’n fwy gwybodus ac, yn bwysicach, yn eu hatgoffa bod cymorth ar gael ac nad oes rhaid iddyn nhw lywio’r newidiadau hyn ar eu pen eu hunain.”

Atseinir hyn gan Dr Claire Beynon, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

“Mae cefnogi iechyd a lles gofalwyr di-dâl yn hynod o bwysig. Gall gofalu fod yn werth chweil iawn, ond gall newidiadau i iechyd, anghenion gofal neu amgylchiadau anwylyd gael effaith sylweddol ar y gofalwr ei hun hefyd. Mae’r adnodd hwn yn enghraifft wych o’r hyn y gallwn ei gyflawni drwy weithio gyda’n gilydd ar draws iechyd a llywodraeth leol, gan ddod â gwybodaeth a chefnogaeth ddibynadwy mewn un lle hygyrch i ofalwyr ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.”

Dywedodd y Cynghorydd Eddie Williams, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd:

“Mae gofalwyr di-dâl yn gwneud cyfraniad hanfodol i gymunedau ledled Bro Morgannwg, gan gydbwyso cyfrifoldebau gofalu yn aml â gwaith, bywyd teuluol a’u lles eu hunain. Mae’r llawlyfr hwn yn rhoi cyngor a chymorth ymarferol yn ystod rhai o’r trawsnewidiadau mwyaf heriol y gall gofalwyr eu hwynebu ac mae’n dangos ein hymrwymiad i sicrhau y gall gofalwyr gael gafael ar y wybodaeth a’r help sydd eu hangen arnynt.”

Mae’r llawlyfr Gofalu trwy newid ar gael mewn fformatau print ac electronig, gan helpu gofalwyr di-dâl, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol i gael mynediad at yr adnodd a’i rannu. Bydd yn cael ei ddosbarthu’n eang ar draws lleoliadau cymunedol gan gynnwys hybiau a llyfrgelloedd a meddygfeydd ar ôl y lansiad.

Lawrlwythwch y llawlyfr Gofalu trwy newid / Darganfyddwch sut i ofyn am gopi papur – https://cavrpb.org/caring-through-change/

Skip to content