Aelodaeth o Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a Bro Morgannwg
Charles Janczewski
Cadeirydd RPB / Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol)
Prif feysydd ffocws fy rôl gyda’r Bwrdd Iechyd yw arwain y Bwrdd tuag at ddarparu’r gwasanaethau gofal iechyd gorau posibl i’r boblogaeth rydym yn ei gwasanaethu. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
· datblygu a gweithredu ein strategaeth hirdymor yn llwyddiannus
· sicrhau bod y Bwrdd yn cyflawni perfformiad cryf yn erbyn ein gofynion cyflawni gweithredol gyda ffocws penodol ar ansawdd gwasanaeth a diogelwch cleifion
· datblygu’r diwylliant cywir yn barhaus ar draws y sefydliad gan gynnwys pwyslais cryf iawn ar les, cydraddoldeb a chynhwysiant staff
· gwneud yn siŵr bod ein trefniadau llywodraethu sylfaenol yn addas at y diben.

“Un o fanteision mawr y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol o’m safbwynt i yw’r gallu i weithio’n agos iawn gyda’r holl sefydliadau partner i wella’r ystod o wasanaethau a ddarparwn i’n poblogaeth yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Mae ein gwaith partneriaeth effeithiol iawn wedi ein galluogi i ddarparu gwasanaethau creadigol ac arloesol a fyddai wedi bod yn llawer anoddach i sefydliadau unigol eu cyflawni ar eu pen eu hunain. Mae cyd-gynhyrchu wedi bod yn fantais fawr ac wedi bod yn arbennig o fuddiol yn ystod y cyfnod diweddar hwn o her ddigynsail y mae’r pandemig Covid-19 wedi’i gyflwyno. Mae gwaith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi amlygu cyfraniadau ein holl staff a gweithwyr allweddol sy’n parhau i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus anhygoel a gofal tosturiol i aelodau ein cymunedau.”
Sheila Hendrickson-Brown
Prif Weithredwr Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC)
Fi yw Prif Weithredwr Cyngor Trydydd Sector Caerdydd – sefydliad seilwaith ac aelodaeth trydydd sector Caerdydd. Ni yw canolbwynt y sector gwirfoddol lleol sy’n cynnig amrywiaeth o gyngor, gwybodaeth a gwasanaethau i gefnogi gweithredu cymunedol cynhwysol, ymgysylltu â dinasyddion a gwirfoddoli.
Mae Cyngor Trydydd Sector Caerdydd wedi helpu i hyrwyddo rôl y trydydd sector ar Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro gyda’r nod o sicrhau bod pobl yn y rhanbarth yn gweld gwasanaethau mwy integredig sy’n haws cael gafael arnynt ac sy’n canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf iddynt.
Paula Ham
Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau Cyngor Bro Morgannwg
Mae fy nghylch gwaith gyda’r Cyngor yn cwmpasu addysg a diwylliant. Fy rôl ar y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yw cyfrannu at nodi materion iechyd a lles mewn perthynas â phlant blynyddoedd cynnar a phlant oed ysgol a gweithio gyda phartneriaid i fynd i’r afael â blaenoriaethau y cytunwyd arnynt.
Gwerth/budd mwyaf yr RPB:
“Mantais fwyaf y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i mi yw ei fod yn rhoi’r gallu i ni ddylunio a darparu atebion cydgysylltiedig. Mae hyn yn ei gwneud hi’n haws i bobl gael mynediad at y gwasanaethau cywir pan fydd eu hangen arnyn nhw.”