Mae llawer o bobl ar draws ein rhanbarth yn rhyngweithio â llawer o wahanol wasanaethau iechyd a gofal, a ddarperir gan nifer o sefydliadau. Efallai y bydd gan bobl ddarnau gwahanol o wybodaeth am eu gofal a gedwir yn y Bwrdd Iechyd, y cyngor (er enghraifft gwasanaethau cymdeithasol ac addysg) a’r trydydd sector.
Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro wedi cydnabod, er mwyn darparu gwasanaethau integredig, fel y gelwir amdanynt yn Neddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), fod angen i sefydliadau allu rhannu gwybodaeth yn hawdd mewn ffordd sy’n syml i’w defnyddio ac sy’n cydymffurfio â deddfau diogelu data. Ledled Cymru, mae’r Adnoddau Data Cenedlaethol (NDR) wedi gweithio i ganiatáu i gofnodion gofal ddod yn rhai y gellir eu rhannu ar draws timau, fel y gall cofnod gofal symud ar draws ein llwyfannau e-gofnodion niferus.
Yma yn rhanbarth Iechyd a Gofal Caerdydd a’r Fro, rydym wedi cymryd ein camau cyntaf tuag at sicrhau y bydd timau’n gallu rhannu gwybodaeth. Gwnaethom brofi hyn o safbwynt Plant sy’n Derbyn Gofal (LAC/CLA). Ym mis Ionawr 2022, roedd darpariaeth LAC/CLA Awdurdod Lleol Caerdydd yn gysylltiedig â’r tîm gofal iechyd LAC/CLA yn BIP CAF er mwyn caniatáu i gofnodion gofal lifo rhwng cofnodion TG/gofal presennol. Roedd hwn yn brosiect peilot ar gyfer gwaith mwy arwyddocaol i ddod yn 2022 a thu hwnt, wrth i ni ddod yn rhanbarth a all wneud y gorau o ddatblygiadau digidol.
Rydym yn gweithio gyda’n gilydd i greu Rhanbarth Gofal Digidol i gefnogi gofal gwybodus a sicrhau bod gwybodaeth berthnasol y cytunwyd arni ar gael ar draws sefydliada.