Y Cyngor yn helpu i ddarparu cynllun gofal ychwanegol pobl hŷn

Mae Cyngor Bro Morgannwg a Tai Wales & West (WWH) wedi dechrau gweithio ar gynllun tai gofal ychwanegol ym Mhenarth ar gyfer mwy na 70 o bobl dros 55 oed. Mae’n wych gweld datblygiad y prosiect hwn gyda buddsoddiad sylweddol o ffynonellau cyllid cyfalaf y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

Mae’r datblygiad yn cynnwys fflatiau hunangynhwysol, gyda gofal a chymorth wedi’u teilwra ar y safle, ar gyfer pobl sydd eisiau byw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain o fewn cymuned gefnogol. Wedi’i ariannu’n rhannol gan y Gronfa Tai â Gofal a Grant Tai Cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru, bydd y prosiect £20 miliwn yn gweld 70 o fflatiau fforddiadwy yn cael eu hadeiladu gan WWH ar ôl i’r Cyngor drosglwyddo tir iddo ar brydles hirdymor.

Dyna’r cam diweddaraf mewn prosiect mwy i integreiddio cartrefi pobl hŷn newydd a phresennol â chyfleusterau gofal cymdeithasol ac iechyd yn y lleoliad.

Skip to content