
Roedd BPR Caerdydd a’r Fro yn falch iawn o gefnogi digwyddiad diweddar i drafod rhyw a pherthnasoedd i oedolion ag Anableddau Dysgu, yn ogystal â’u teuluoedd, gofalwyr a chefnogwyr.
Bu’r digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, gan ddarparu gwybodaeth, cyngor ac ychydig o chwerthin hefyd! Mwynhaodd pawb a fynychodd y digwyddiad yn fawr ac roedd yn gyfle defnyddiol iawn i drafod pynciau sydd weithiau’n anodd eu trafod.