Yn byw gyda diabetes math 2? Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae MyDesmond yn wefan addysg a chymorth am ddim sydd wedi’i chynllunio i’ch helpu i gymryd rheolaeth dros eich iechyd – yn eich ffordd eich hun. Dysgwch fwy am diabetes math 2 drwy ein dysgu rhyngweithiol a sesiynau atgyfnerthu wythnosol dros 10 wythnos.

- Sgwrsio gyda aelodau o gymuned Desmond
- Gosod nodau dyddiol sy’n cyd-fynd â’ch ffordd o fyw
- Gofyn i’r Arbenigwr – bydd gennych dîm amlddisgyblaethol wrth law
- Olrhain eich lefelau gweithgarwch a chysylltu gyda Fitbit neu Google Fit
- Cofnodi eich pwysau, pwysedd gwaed, HbA1c, deiet a cholesterol
Ewch i www.mydesmond.wales i wneud cais am fynediad.
#WythnosDiabetes