Yn dilyn y cyhoeddiad y bydd cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y Cynllun Seibiannau Byr yn parhau, mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn gwahodd Datganiadau o Ddiddordeb gan sefydliadau’r Trydydd Sector yng Nghymru er mwyn ymgeisio am gyllid i weithredu prosiectau’r Cynllun Seibiannau Byr rhwng Hydref 2026 a Mawrth 2029.
Nod y cynllun yw sicrhau bod mwy o seibiannau byr ar gael i ofalwyr di-dâl, gwella llesiant a chryfhau gwydnwch. Mae tua £4.8 miliwn ar gael dros y cyfnod hwn o ddwy flynedd a hanner, ac mae’r grantiau sydd ar gael i sefydliadau Trydydd Sector llwyddiannus yn werth o leiaf £20,000.
Dyddiad Cau: 10am dydd Llun 2 Chwefror 2026
Ymgeisiwch yma: short-breaks-eoi-form-26-29-final-cym.docx
Darllenwch y canllawiau: nodiadau-canllaw-seibiannau-byr—cym-(1).docx
Ymunwch â sesiynau Holi ac Ateb Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i ddysgu rhagor:
- 2pm dydd Mercher 14 Ionawr 2026
- 10am dydd Mawrth 20 Ionawr 2026
Anfonwch e-bost i [email protected] gyda’ch enw chi, ac enw a chyfeiriad e-bost eich sefydliad a byddwn yn anfon dolen i’r cyfarfod atoch.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Cynllun Seibiannau Byr neu anfonwch e-bost i [email protected]