Mae sefydliadau cymunedol a gwirfoddol ledled Caerdydd a Bro Morgannwg yn cael eu gwahodd i wneud cais am gyllid drwy Gronfa Gyfalaf y Trydydd Sector 2026/27.
Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a Bro Morgannwg wedi dyrannu £100,000 o Gronfa Tai gyda Gofal Llywodraeth Cymru i gefnogi prosiectau sy’n helpu pobl i fyw’n annibynnol yn eu cymunedau. Caiff y gronfa ei rheoli a’i gweinyddu gan Wasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GVS).
Gall sefydliadau wneud cais am grantiau o hyd at £12,500 ar gyfer prosiectau cyfalaf sy’n gwella gwasanaethau cymunedol ac yn cefnogi pobl sydd ag anghenion gofal a chymorth. Gellir defnyddio’r cyllid i wella cyfleusterau, cynyddu hygyrchedd, prynu offer cyfalaf a datblygu mannau cymunedol sy’n galluogi pobl i fyw’n annibynnol am gyfnod hirach.
Mae’r gronfa’n canolbwyntio’n benodol ar brosiectau sy’n cefnogi:
- Pobl hŷn, gan gynnwys pobl sy’n byw gyda dementia
- Plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth
- Pobl ag anableddau dysgu, a chyflyrau niwrowahanol a niwroddatblygiadol
- Gofalwyr di-dâl
- Pobl ag anghenion iechyd emosiynol a lles meddyliol
Dylai prosiectau llwyddiannus ddangos sut y byddant yn:
- Cefnogi byw’n annibynnol mewn cymunedau lleol
- Darparu gwasanaethau yn nes at gartrefi pobl
- Helpu i atal neu leihau’r angen am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mwy ffurfiol
- Adeiladu ar gryfderau ac asedau cymunedol
- Creu buddion hirdymor i bobl leol
Mae’r gronfa bellach ar agor, a rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 12 canol dydd ddydd Gwener 31 Gorffennaf 2026. Rhaid gwario’r holl gyllid erbyn 26 Chwefror 2027.
I weld y canllawiau llawn, y meini prawf cymhwystra a’r pecyn ymgeisio, ewch i:
Os oes gan eich sefydliad brosiect a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ledled Caerdydd a Bro Morgannwg, rydym yn eich annog i wneud cais.