Parti gardd haf yn dod â thrigolion a phartneriaid at ei gilydd yn Llys y Goetre

Fe wnaeth trigolion Llys y Goetre, un o ddatblygiadau tai pobl hŷn mwyaf newydd y Cyngor yn Llaneirwg, fwynhau parti gardd haf yr wythnos diwethaf, gan ddod â sefydliadau a gwasanaethau lleol ynghyd i arddangos amrywiaeth o gyfleoedd iechyd, lles a chymorth cymunedol.

Rhoddodd y digwyddiad gyfle i drigolion gwrdd â darparwyr gwasanaeth, cysylltu â chymdogion a dysgu mwy am y cymorth sydd ar gael yn eu hardal leol.

Cafodd y digwyddiad ei gyflwyno mewn partneriaeth â Thîm Caerdydd Sy’n Dda i Bobl Hŷn, Tîm Byw’n Dda Heneiddio’n Dda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a Thîm Cymorth Lles y Cyngor, ac fe wnaeth cynnig cyngor, gwybodaeth ac arweiniad ymarferol i helpu trigolion i gadw’n iach, yn egnïol ac yn gysylltiedig.

Roedd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Oedolion ac Iechyd y Cyhoedd, y Cynghorydd Norma Mackie, yn bresennol yn y digwyddiad a chafodd daith o amgylch y datblygiad newydd, sy’n darparu 60 o fflatiau cyngor modern un a dwy ystafell wely ochr yn ochr â mannau cymunedol o ansawdd uchel sydd wedi’u cynllunio i gefnogi lles, annibyniaeth a chysylltiad cymdeithasol.

Un o uchafbwyntiau’r diwrnod oedd sesiwn Tai Chi, a oedd yn arbennig o boblogaidd ymhlith trigolion. Yn dilyn ei lwyddiant, mae trafodaethau ar y gweill ynglŷn â chyflwyno sesiynau Tai Chi rheolaidd yn y cynllun.

Canmolodd trigolion y digwyddiad, gyda sylwadau’n cynnwys: “Digwyddiad hyfryd – fe wnes i ddysgu llawer am gymorth iechyd”; “Dwi ddim wedi bod yn y cynllun yn hir iawn ac mae symud yn straen, felly roedd yn hyfryd cwrdd â chymdogion newydd”; a “Fe wnes i fwynhau sgwrsio am gymorth lles.”

Diolch yn fawr iawn i’r holl dimau a phartneriaid a fu’n rhan o wneud y diwrnod yn gymaint o lwyddiant, gan gynnwys holl staff Llys y Goetre a roddodd groeso mor gynnes i bawb.

Beth yw eich stori chi? 

 Os oes gennych chi neu eich tîm stori Gweithio Dros Gaerdydd i’w hadrodd, anfonwch luniau a disgrifiad byr yma

 #GweithioDrosGaerdydd #GweithioGydanGilydd

Skip to content