Mae gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol rôl allweddol i’w chwarae o ran dod â phartneriaid at ei gilydd i benderfynu ble y bydd darparu gwasanaethau, gofal a chymorth integredig i roi’r budd mwyaf i bobl ledled ein rhanbarth.

Mae aelodaeth y Bwrdd yn cynnwys y partneriaid canlynol: 

Cath Doman 

Arweinydd Rhanbarthol RPB / Cyfarwyddwr Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol

  • Arwain y gwaith o ddatblygu a darparu gofal integredig ar gyfer partneriaeth Caerdydd a’r Fro.  
  • Cynllunio strategol ar gyfer y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol   
  • Gweithio gyda byrddau eraill ledled Cymru a chyda Llywodraeth Cymru i gefnogi’r gwaith o gyflawni Cymru Iachach  
  • Arweinyddiaeth y trefniadau llywodraethu sy’n cefnogi’r bartneriaeth  

Alison Law 

 Rheolwr Gwella a Datblygu, Comisiynu ar y Cyd 

  •   Rheoli prosiectau ar draws y bartneriaeth i alluogi alinio a chomisiynu gwasanaethau ar y cyd, sy’n cynnwys llunio’r farchnad, strategaethau comisiynu rhanbarthol, contractio a sicrhau ansawdd.  
  • Rheolwr rhaglen ar gyfer cronfa Gyfalaf ICF 
Skip to content