Fi yw Prif Weithredwr Cyngor Trydydd Sector Caerdydd – sefydliad seilwaith ac aelodaeth trydydd sector Caerdydd. Ni yw canolbwynt y sector gwirfoddol lleol sy’n cynnig amrywiaeth o gyngor, gwybodaeth a gwasanaethau i gefnogi gweithredu cymunedol cynhwysol, ymgysylltu â dinasyddion a gwirfoddoli.
Mae Cyngor Trydydd Sector Caerdydd wedi helpu i hyrwyddo rôl y trydydd sector ar Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro gyda’r nod o sicrhau bod pobl yn y rhanbarth yn gweld gwasanaethau mwy integredig sy’n haws cael gafael arnynt ac sy’n canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf iddynt.