Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro yn falch iawn bod Tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles wedi dewis Capel i Bawb yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd i arddangos prosiect ‘HOSPES’. Mae ‘HOSPES’ yn brosiect ymdrwythol, benodol i safle a phorth ar-lein a grëwyd gan y cyfansoddwr a’r artist amlgyfrwng arobryn, John Meirion Rea, mewn cydweithrediad â’r ffilmiwr a’r ffotograffydd, Huw Talfryn Walters.
Gellir dod o hyd i’r prosiect ar lawr cyntaf Capel i Bawb yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd, uwchben caffi Aroma, yn y capel gwreiddiol sydd wedi’i ail-ddylunio’n fendigedig, gyda’r gwaith adnewyddu wedi’i ariannu gan yr RPB.
Hoffem ddiolch i Dîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles am rannu’r prosiect hwn â staff, cleifion, ymwelwyr a’r gymuned leol yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd.
Mae’r gwaith hwn yn gysylltiedig â phrosiect ehangach o’r enw ‘Ysbyty Brenhinol Caerdydd: Pobl, Lle, Dyfodol’, sydd wedi’i gefnogi drwy gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru