
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi’r adroddiad diweddaraf “Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus”, gan grynhoi mewnwelediadau gan 2,091 o aelodau panel a arolygwyd ym mis Tachwedd 2024. Archwiliodd yr arolwg bynciau allweddol mewn iechyd cyhoeddus, gan gynnwys disgwyliad oes iach, ymwybyddiaeth o wasanaethau iechyd, brechlynnau, ac effaith stopio a chwilio fel dull o atal trais.
Prif ganfyddiadau:
- Disgwyliad oes iach: Graddiodd 58% o’r ymatebwyr eu hiechyd fel da neu’n dda iawn.
- Ymwybyddiaeth o wasanaethau iechyd: Byddai 42% yn cysylltu â’u Meddyg Teulu yn gyntaf os oeddent yn ansicr am gyflwr iechyd, tra byddai 28% yn defnyddio GIG 111 Cymru.
- Brechlynnau: Roedd 54% wedi clywed am RSV, ond dim ond 32% oedd yn ymwybodol o’r brechlyn RSV.
- Stopio a chwilio: Roedd 40% yn gwybod am weithdrefnau stopio a chwilio, gyda 44% yn mynegi y byddent yn teimlo’n ofnus neu’n embaras pe baent yn cael eu stopio.
Am ganfyddiadau cynhwysfawr a manylion pellach, cyfeiriwch at yr adroddiad llawn yma