Mae Arolwg Iechyd Meddwl Mawr Mind yn ei ôl am yr ail flwyddyn, a byddem wrth ein boddau pe baech chi a’ch sefydliad yn cymryd rhan ynddo.
Mae data am iechyd meddwl yng Nghymru a Lloegr yn anghyson. Er mwyn helpu i greu system iechyd meddwl sy’n gweithio i bawb, mae angen i ni ddyfnhau ein dealltwriaeth o brofiadau pobl o iechyd meddwl a’r system o’i gwmpas. Mae’r wybodaeth hon yn hanfodol i’n helpu i ddeall yn well ble mae’r problemau mwyaf a beth sydd angen ei newid.
Mae canfyddiadau Cymru yn eithriadol o bwysig ac yn cael eu defnyddio mewn mannau allweddol lle mae penderfyniadau’n cael eu gwneud – rydym wedi bod yn rhannu gwybodaeth o arolwg llynedd yn gyson, er enghraifft yng nghynhadledd Conffederasiwn GIG Cymru a gydag Aelodau o’r Senedd drwy’r Grŵp Trawsbleidiol.
Er mwyn cymryd rhan yn yr arolwg, mae angen i chi:
- Fod yn 16 oed neu’n hŷn ac yn byw yng Nghymru neu Loegr
- Bod wedi defnyddio neu geisio defnyddio gwasanaethau gofal sylfaenol neu eilaidd, neu wasanaethau cymorth iechyd meddwl gan elusen yn ystod y 12 mis diwethaf.
Hoffem glywed gan gymaint o bobl â phosibl. Dyna pam y gofynnwn i chi rannu’r arolwg gyda’ch staff, gwirfoddolwyr, cefnogwyr neu gwsmeriaid. Gyda’ch help chi, gallwn sicrhau bod mwy o leisiau’n cael eu clywed.
Lawrlwythwch ein pecyn cyfathrebu i ddechrau arni.
- Saesneg > https://mind.turtl.co/story/bhms-26-comms-toolkit/page/1
- Saesneg / Cymraeg > https://mind.turtl.co/story/bhms-26-comms-toolkit_bilingual/page/1
Diolch am eich cefnogaeth. Gyda’n gilydd, gallwn greu system iechyd meddwl sy’n gweithio i bawb.