Cyflwyno’r Gwasanaeth Anabledd Dysgu Plant a’r Glasoed (CALDS)
- Rydym yn dîm iechyd amlddisgyblaethol sy’n gweithio gydag Iechyd, Addysg, Gofal Cymdeithasol a’r trydydd sector i gefnogi plant a phobl ifanc ag Anabledd Dysgu.
- Rydym yn cefnogi teuluoedd plant ag Anabledd Dysgu sydd ag anghenion emosiynol, ymddygiadol neu ddatblygiadol.
- Rydym yn gweithio gyda phlant sydd angen cymorth ychwanegol mewn meysydd fel ymddygiad heriol, mynd i’r toiled, pryder, cwsg, bwydo, mynediad at ofal iechyd ac ati.
Pwy allwn ni ei helpu?
Plant a phobl ifanc sydd ag Anabledd Dysgu ac y byddai eu hanghenion yn cael eu diwallu orau o fewn y dull CALDS
Rhaid bod y canlynol yn berthnasol iddynt:
- O oedran ysgol (5-18)
- Angen cymorth arbenigol ar gyfer ymddygiad nad yw wedi ymateb i ymyriadau generig, dull tîm amlddisgyblaethol neu gymorth o dan y fframwaith Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol
- Yn wynebu heriau sy’n bresennol ar draws lleoliadau (dim ond ar gyfer problemau sy’n bresennol yn yr ysgol y gellir cael mynediad at gymorth addysg)
Beth ydym ni am ei gyflawni?
- Gweithio ar y cyd ar draws grwpiau a systemau proffesiynol
- Gwrando ar yr hyn sydd ei angen ar deuluoedd
- Lleihau Arferion Cyfyngol
- Lleihau anghydraddoldebau iechyd a gwella mynediad at ofal iechyd
- Cefnogi’r broses o bontio i wasanaethau oedolion
- Hyrwyddo dealltwriaeth o ‘Anabledd Dysgu’
- Gweithio tuag at ddarparu ymateb mwy prydlon ar gyfer yr adegau pan fo angen cymorth fwyaf
- Hyrwyddo Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol
Sut i wneud atgyfeiriad
Gallwch wneud atgyfeiriad i CALDS os ydych yn:
- Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd
- Gweithiwr cymdeithasol
- Aelod o’r Uwch Dîm Arwain mewn Ysgol Arbennig
I drafod atgyfeiriad posibl neu i gael mynediad at ymgynghoriad ag aelod o’r tîm, cysylltwch â ni ar
Rhif ffôn: 029 2183 6789
Text: 07970 245876
E-bostiwch atgyfeiriadau i: [email protected]
E-bostiwch y tîm ar: [email protected]