Ceisiadau nawr ar agor ar gyfer yr Academi Lledaeniad a Graddfa – Chwefror 2025
Mae’r Academi Lledaeniad a Graddfa yn dychwelyd i Gaerdydd rhwng 18 a 20 Chwefror 2025, gan gynnig cyfle cyffrous i arloeswyr ledled Cymru ddatblygu eu prosiectau i gael effaith eang. Os ydych chi’n barod i fynd â’ch syniadau i’r lefel nesaf, gwnewch gais erbyn 19 Rhagfyr i sicrhau eich lle!
Mae’r academi yn cefnogi sectorau amrywiol, o ofal iechyd ac addysg i gynaliadwyedd a thechnoleg, gan feithrin amgylchedd cydweithredol lle gall syniadau ffynnu.
P’un a ydych chi’n mynd i’r afael â her gofal iechyd fawr neu’n arwain menter newid cymdeithasol, bydd yr Academi Lledaeniad a Graddfa yn darparu’r adnoddau a’r gefnogaeth i gynyddu eich effaith ledled Cymru a thu hwnt. Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i gynyddu eich effaith
Gallwch lawrlwytho’r wybodaeth lawn a’r manylion gwneud cais isod:
Academi Lledaeniad a Graddfa – Dragon Heart Institute (dragonsheart.org)