Celebrating Success Roundup – Early Spring

Dathlu Llwyddiant – Crynodeb Cynnar y Gwanwyn

Mae Tîm y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi bod yn mynychu ac yn cefnogi rhai digwyddiadau anhygoel dros y misoedd diwethaf::

UK Dementia Congress – UKDC2024

Mae’r RPB yn falch iawn o Versha Sood, Swyddog Gwella a Datblygu ar gyfer Dementia, a gyflwynodd yn #UKDC2024 ar sut i ymgysylltu’n weithredol ac ystyrlon â phobl yn eu cymunedau eu hunain, trwy gydgynhyrchu a gwrando ar y rhai sydd â phrofiad bywyd.

Yn parhau i dorri’r stigma a’r tabŵs, a helpu pobl i gael mynediad at wasanaethau sy’n gysylltiedig â Dementia a meithrin cydberthnasau hirhoedlog sy’n arwain at gydgynhyrchu o fewn Rhaglen Dementia Caerdydd a’r Fro. 

Diogel yn y Cartref – Blwyddyn yn Ddiweddarach

Mae Diogel yn y Cartref yn Wasanaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a lansiwyd ym mis Ionawr 2024. Nod y gwasanaeth yw asesu, trin a gofalu am gleifion yn ddiogel yn eu man preswylio, gan atal cludiadau WAST a derbyniadau i’r ysbyty.

Rydym hefyd yn ceisio cefnogi gofal eilaidd trwy hwyluso’r broses o ryddhau cleifion yn gynnar ar y cyd â’r Awdurdod Lleol a gwasanaethau cymunedol presennol fel Nyrsio Cymunedol a CRT. Rydym yn wasanaeth canolraddol, amlddisgyblaethol sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol sy’n darparu gofal i’r henoed, meddygon, nyrsys a gweithwyr cymorth. Derbynnir atgyfeiriadau gan y gymuned (meddygon teulu, nyrsys cymunedol, CRT) a chan yr Uned Achosion Brys a gofal eilaidd. Mae S@H yn cydweithio â Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, gan frysbennu’n weithredol a thynnu cleifion o restrau aros WAST gyda’r nod o ddileu’r angen am ambiwlans.

Mae Diogel yn y Cartref wedi cefnogi mwy na 900 o gleifion ers ei lansio, gyda chyfradd o 80% o gleifion yn cael eu cadw gartref. Mae’r gwasanaeth yn parhau i ddatblygu ac yn mynd i mewn i gam dau, a fydd yn cynnwys y tîm sy’n darparu therapi mewnwythiennol yn y gymuned. Ar hyn o bryd mae S@H yn gweithio gyda meddygaeth frys ac acíwt i sefydlu rowndiau bwrdd rhithwir dyddiol i gynyddu cyfradd y cleifion sy’n cael eu rhyddhau’n gynharach.

Gall gweithwyr proffesiynol atgyfeirio at S@H drwy Consultant Connect neu ar 02922 712619.   

Gweithdy Gofal Cymunedol Gwell

Ar 22 Ionawr, daeth partneriaid o bob rhan o iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd ar gyfer gweithdy yn Neuadd y Sir a oedd yn canolbwyntio ar sut y gallem ddatblygu rhywfaint o’r gwaith gwych yn y gymuned sy’n helpu i gadw pobl yn iach ac osgoi’r angen i fynd i’r ysbyty.

Bu gwasanaethau fel Safe@home yn trafod ffyrdd o gysylltu’n agosach â meysydd eraill i helpu mwy o bobl i gadw’n iach.

Gallwch ddarganfod mwy am ein rhaglen @Home ar ein gwefan yma.

Adref – Seremoni Agoriadol

Ddydd Gwener 24 Ionawr, agorodd YMCA Cymru a Lloegr eu hadeilad ‘Adref’ gyda seremoni agoriadol wych, a fynychwyd gan aelodau o Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro, Jenny Rathbone Aelod o’r Senedd, a Jo Stevens Aelod Seneddol, yr Ysgrifennydd Gwladol yn ogystal â Phrif Swyddog Gweithredol yr YMCA, Andrew Templeton. 

Mae ‘Adref’ yn brosiect rhagorol â chynllun ‘gwyrdd’ sy’n arwain y diwydiant, sy’n helpu i ddiwallu’r angen dybryd am fwy o dai cymdeithasol fforddiadwy. Mae Adref yn cefnogi pobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref gan nodi pennod newydd ar gyfer YMCA Caerdydd ac ar gyfer y bobl ifanc a fydd bellach â lle diogel a chefnogol i’w alw’n gartref. Mae gan bob uned ei phwmp gwres ffynhonnell aer ei hun, a chyn bo hir bydd y safle newydd yn gartref i 18 o bobl ifanc, gydag 11 yn symud i mewn cyn gynted ag wythnos ar ôl y lansiad.

Cynllun Tai Gofal Ychwanegol a Ariennir ar y Cyd

Mae Cyngor Bro Morgannwg a Tai Wales & West (WWH) wedi dechrau gweithio ar gynllun tai gofal ychwanegol ym Mhenarth ar gyfer mwy na 70 o bobl dros 55 oed. Mae’n wych gweld datblygiad y prosiect hwn gyda buddsoddiad sylweddol o ffynonellau cyllid cyfalaf y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Mae’r datblygiad yn cynnwys fflatiau hunangynhwysol, gyda gofal a chymorth wedi’u teilwra ar y safle, ar gyfer pobl sydd eisiau byw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain o fewn cymuned gefnogol. 

Wedi’i ariannu’n rhannol gan y Gronfa Tai â Gofal a Grant Tai Cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru, bydd y prosiect £20 miliwn yn gweld 70 o fflatiau fforddiadwy yn cael eu hadeiladu gan WWH ar ôl i’r Cyngor drosglwyddo tir iddo ar brydles hirdymor. Dyna’r cam diweddaraf mewn prosiect mwy i integreiddio cartrefi pobl hŷn newydd a phresennol â chyfleusterau gofal cymdeithasol ac iechyd yn y lleoliad.

Skip to content