Skip to content

Cyllid gwerth £5.25 miliwn gan Lywodraeth Cymru i helpu gofalwyr di-dâl

Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden wedi dweud y bydd gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn parhau i gael cymorth ychwanegol i’w galluogi i gymryd seibiannau haeddiannol o’u rôl ofalu.

Mae’r Gweinidog hefyd wedi cadarnhau y bydd cyllid ar gael i barhau i helpu gofalwyr ar incwm isel i brynu eitemau hanfodol.

Bydd y Cynllun Seibiannau Byr a’r Gronfa Cymorth i Ofalwyr yn cael cyllid ar gyfer 2025 i 2026 gwerth £3.5 miliwn a £1.75 miliwn yn y drefn honno gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r cynlluniau hyn yn ychwanegol at y dyletswyddau sydd gan awdurdodau lleol i ddarparu cymorth priodol i ofalwyr.

Mae’r stori lawn ar gael yma. Cyllid gwerth £5.25 miliwn gan Lywodraeth Cymru i helpu gofalwyr di-dâl | LLYW.CYMRU