Cynulliad Gofalwyr Di-dâl Caerdydd a’r Fro yn Dathlu Gweithio mewn Partneriaeth ac yn Lansio Adnodd Cymorth Newydd

Ar 1 Hydref 2026, daeth partneriaid ynghyd yng Ngerddi Sophia ar gyfer Cynulliad Gofalwyr Di-dâl Caerdydd a’r Fro, gan ddod â gofalwyr di-dâl, gofalwyr ifanc a sefydliadau sy’n cefnogi gofalwyr o bob rhan o’r rhanbarth at ei gilydd.

Cynhaliwyd y digwyddiad gan Voices Adfocad, sefydliad a sefydlwyd gan Bobbie-Jo Haarhoff a Mike O’Brien, a fu gynt yn gynrychiolwyr gofalwyr di-dâl ar Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) Caerdydd a’r Fro.

Roedd y Cynulliad yn gyfle gwerthfawr i ofalwyr di-dâl a sefydliadau partner ddod ynghyd, rhannu profiadau a chryfhau cydweithio, gan sicrhau bod lleisiau a phrofiadau gofalwyr yn parhau i fod yn ganolog i ddatblygiad gwasanaethau a chymorth ledled Caerdydd a’r Fro.

Lansio Gofalu Drwy Newid

Un o uchafbwyntiau’r digwyddiad oedd lansio Gofalu Drwy Newid (Caring Through Change), adnodd partneriaeth newydd a ddatblygwyd i gefnogi gofalwyr di-dâl wrth iddynt ymdopi â newidiadau a chyfnodau pontio yn eu rolau gofalu.

Mae’r llyfryn yn darparu gwybodaeth ymarferol, cyngor a chyfeiriadau at wasanaethau a chymorth sydd ar gael ledled Caerdydd a’r Fro, gan helpu gofalwyr i gael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen arnynt ar wahanol adegau yn eu taith fel gofalwyr.

Wedi’i ddatblygu drwy weithio mewn partneriaeth ac ar sail profiadau gofalwyr di-dâl, mae’r adnodd yn adlewyrchu ymrwymiad ar y cyd i wella mynediad at wybodaeth a sicrhau bod gofalwyr yn teimlo eu bod yn cael y wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnynt.

Mae llyfrynnau Gofalu Drwy Newid bellach ar gael mewn hybiau cymunedol, llyfrgelloedd a phractisau meddygon teulu ledled Caerdydd a’r Fro, gyda chynlluniau i’w dosbarthu’n ehangach.

Amlygodd y Cynulliad bwysigrwydd cydweithio parhaus rhwng gofalwyr di-dâl, sefydliadau cymunedol a phartneriaid statudol er mwyn llywio cymorth sy’n ymateb i’r hyn sydd bwysicaf i ofalwyr a’u teuluoedd.

Skip to content