Dathliad a Ffair Wybodaeth Wythnos Gofalwyr yn Dod i Benarth ym mis Mehefin

Mae trigolion ledled Caerdydd a Bro Morgannwg yn cael eu gwahodd i fynychu Dathliad a Ffair Wybodaeth arbennig Wythnos Gofalwyr ar ddydd Iau 11 Mehefin yng Nghanolfan Hamdden Penarth.

Mae’r digwyddiad rhad ac am ddim, a gynhelir rhwng 11:00yb a 1:30yp, wedi’i drefnu fel rhan o’r rhaglen Adeiladu Cymunedau sy’n Gyfeillgar i Ofalwyr ac mae’n ceisio dod â gofalwyr, sefydliadau cymorth a gwasanaethau lleol ynghyd mewn un gofod croesawgar.

Bydd ymwelwyr yn cael cyfle i gael gwybodaeth, cyngor a chymorth llesiant, cwrdd â sefydliadau a grwpiau cymunedol lleol, a mwynhau te prynhawn am ddim wrth gysylltu ag eraill.

Caiff y digwyddiad ei ddarparu mewn partneriaeth gan Gyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg a TüVida, gan gydnabod y cyfraniad hanfodol y mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud yn ein cymunedau bob dydd.

Manylion y Digwyddiad

Dyddiad: Dydd Iau 11 Mehefin
Amser: 11:00yb – 1:30yp
Lleoliad: Canolfan Hamdden Penarth, Heol Andrew, CF64 2NS

Gall y rhai sy’n dymuno mynychu sganio’r cod QR ar y poster i gofrestru.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
📧 [email protected]
📧 [email protected]
📞 02920 873419

Skip to content