Dathlu Llwyddiant

Mae Tîm yr RPB wedi bod yn mynychu ac yn cefnogi rhai digwyddiadau anhygoel dros yr ychydig fisoedd diwethaf: 

Wonderfest

Ddydd Sadwrn 7 Medi, bu aelodau o dîm Dechrau’n Dda Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro yn cymryd rhan yn Wonderfest. Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd gan y sefydliad trydydd sector Platfform, yn ŵyl rad ac am ddim i bobl ifanc yn ymwneud â lles ym Mhafiliwn Grange, Caerdydd. Roedd yn ddiwrnod gwych, gyda llawer o weithgareddau am ddim i bobl ifanc. Cafodd tîm yr RPB y cyfle i siarad â phobl ifanc am eu syniadau ynghylch sut i weithio mewn partneriaeth, a gwnaethant gysylltiadau gwych â’r sefydliadau eraill a oedd yno. 

Cynhadledd RPB Llywodraeth Cymru

Mynychodd Tîm y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gynhadledd Llywodraeth Cymru ar gyfer RPB’s ar 16 Medi yng Ngerddi Sophia. Roedd yn ddiwrnod ardderchog, gan roi cyfle i gydweithwyr yr RPB ddod at ei gilydd, rhwydweithio a rhannu arfer gorau. Roedd y cyfle i rannu a gwrando ar y gwaith partneriaeth arloesol sy’n cael ei wneud o fewn Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ledled Cymru yn amhrisiadwy, ac roeddem yn falch iawn o rannu ein hadnoddau a’n cyflawniadau. 

Digwyddiad Ffordd o Fyw Iach 26 Hydref 

Gwnaeth Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro, mewn cydweithrediad â Chlwstwr Gofal Sylfaenol Dwyrain y Fro, gynnig mynediad digynsail i gleifion yn Nwyrain y Fro at asesiadau a chyngor iechyd am ddim mewn digwyddiad ffordd iach o fyw a oedd yn canolbwyntio ar y gymuned ym Mhenarth. Nod y prosiect oedd gweithredu  
strategaethau atal iechyd a rhoi cyngor ar ffordd iach o fyw gyda’r nod o dargedu achos sylfaenol afiechyd cyn iddo ddatblygu. Cynigiwyd mynediad uniongyrchol i gleifion hefyd at wasanaethau a fyddai fel arfer angen atgyfeiriad meddyg teulu, gan gynnwys profion pwysedd gwaed, colesterol a sgrinio cyn/diabetes. 

Gwnaeth y digwyddiad annog cydweithrediadau newydd yn y gymuned gan ddod â gofal sylfaenol, gofal eilaidd, gwasanaethau perthynol i iechyd, sefydliadau’r trydydd sector a busnesau lleol at ei gilydd gyda’r nod o fynd i’r afael â phenderfynyddion iechyd fel y’u mapiwyd gan fodel Labonte mabwysiedig y llywodraeth, gan sicrhau gofal iechyd teg i bawb sy’n byw yn ardal Clwstwr Dwyrain y Fro sy’n 18 oed a throsodd. 

Diwrnod Hawliau Gofalwyr 21 Tachwedd 

Roedd yr RPB yn falch o gefnogi Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2024 a gynhaliwyd yng Nghanolfan Hamdden Penarth ar 21 Tachwedd 2024. Thema’r diwrnod oedd ‘Cydnabod eich hawliau’ ac roedd un o’r gweithgareddau allweddol ar gyfer gofalwyr ifanc, i’w helpu i gydnabod eu hawliau. Gwnaeth llawer o’r oedolion a oedd yn bresennol ei gwblhau hefyd, gan eu helpu i wella eu hymwybyddiaeth o’u hawliau hefyd.  

Gwnaeth Therapydd Galwedigaethol o BIPCAF fynychu er mwyn casglu gwybodaeth ar gyfer ei chleientiaid, ac o ganlyniad i gymryd rhan yn y gweithgareddau ynghylch hawliau gofalwyr, fe wnaeth hi sylweddoli ei bod hi hefyd yn ofalwr di-dâl, rhywbeth nad oedd erioed wedi meddwl amdano o’r blaen.  

Roedd yn ddiwrnod hynod lwyddiannus, gyda llawer iawn o wybodaeth yn cael ei rhannu â gofalwyr di-dâl o bob rhan o Gaerdydd a Bro Morgannwg. 

Lansio Cynllun y BIP ar gyfer Plant a Phobl Ifanc 

Ar Ddiwrnod Plant y Byd, roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn falch o lansio’r Cynllun Babanod, Plant a Phobl Ifanc ar gyfer 2025-2035 yn Stadiwm Dinas Caerdydd fel rhan o’n gwaith Llunio ein Gwasanaethau Clinigol i’r Dyfodol. Mae’r strategaeth hon yn ymgorffori gweledigaeth feiddgar ar gyfer gwella iechyd a lles babanod, plant a phobl ifanc yn ein cymuned, ac fe’i datblygwyd gyda’u lleisiau nhw wrth ei chalon. Rydym yn falch o fod wedi cyd-greu’r cynllun hwn mewn cydweithrediad agos â’r rhai a fydd yn elwa fwyaf arni. Drwy weithio gyda’n gilydd, rydym wedi llunio cynllun sy’n adlewyrchu eu hanghenion, eu dyheadau a’u safbwyntiau, a chredwn y bydd y dull cydweithredol hwn yn creu gwasanaethau sy’n arwain at newid ystyrlon, parhaol yn eu bywydau. 

Digwyddiad Anabledd Dysgu Cymru 

Roedd yr RPB yn hapus i fod yn rhan o Gynhadledd Flynyddol Anabledd Dysgu Cymru ym mis Tachwedd 2024, gan glywed straeon ysbrydoledig am waith parhaus i wneud Cymru’n lle gwell i fyw ar gyfer pobl ag anabledd dysgu.  

Skip to content