Gweithio mewn partneriaeth i ddod yn Rhanbarth Gofal Digidol

Ar hyn o bryd, mae rhannau o gofnodion iechyd neu ofal cymdeithasol dinasyddion wedi’u gwasgaru ar draws mwy na 150 o systemau cofnodion electronig gwahanol a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Cyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg a’r trydydd sector. Ein nod yw gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod cofnodion gofal ar gael yn rhwydd ac mewn ffordd addas i’r gweithwyr gofal proffesiynol iawn ar yr adeg iawn, drwy’r dulliau a ddiffinnir ganddynt. Bydd hyn yn golygu y gall staff iechyd a gofal cymdeithasol weld cofnod gofal mwy cyfannol ar gyfer pob person y maent yn ei weld, gan arwain at ddarparu gofal mwy gwybodus.

 

Ar hyn o bryd, mae’r tîm yn creu’r mecanweithiau newid ar gyfer y mentrau digidol rhanbarthol, i’w noddi gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (RPB), ac yn mynd i’r afael â’r gwaith tir (megis defnydd byd-eang o Rif y GIG ar draws y partneriaid dan sylw) er mwyn gallu rhannu cofnodion.

Dolenni defnyddiol

Skip to content