Digwyddiad Drws Agored Llais Caerdydd a’r Fro: Ymgysylltu â phobl niwroamrywiol, teuluoedd a gofalwyr.

Mae Llais Caerdydd a’r Fro yn hapus i gyhoeddi y byddant yn cynnal Digwyddiad Drws Agored i gefnogi pobl, teuluoedd a gofalwyr niwroamrywiol, i gael eu lleisiau wedi eu clywed am eu profiadau o gael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn eu hardaloedd lleol.

Bydd y Digwyddiad Drws Agored yn cael ei gynnal ar Ddydd Iau 5 Rhagfyr 2024, 12.00 tan 2.00yp yng Nghanolfan Gymunedol Sant Paul, Stryd Arcot, Penarth, CF64 1EU.

Bydd yn gyfle gwych i bobl leisio’u barn, a darganfod pwy ydym ni fel Corff Llais y Dinesydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, ein rôl a’r gefnogaeth eiriolaeth cwynion y gall Llais ei darparu i bobl.

Skip to content