Hoffem ddiolch yn fawr iawn i’r holl fusnesau a phartneriaid lleol a gefnogodd Digwyddiad Ffordd Iach o Fyw Dwyrain y Fro ar 26 Hydref.
Gwnaeth Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro, mewn cydweithrediad â Chlwstwr Gofal Sylfaenol Dwyrain y Fro, gynnig mynediad digynsail i gleifion yn Nwyrain y Fro at asesiadau a chyngor iechyd am ddim mewn digwyddiad ffordd iach o fyw a oedd yn canolbwyntio ar y gymuned ym Mhenarth. Nod y prosiect oedd gweithredu strategaethau atal iechyd a rhoi cyngor ar ffordd iach o fyw gyda’r nod o dargedu achos sylfaenol afiechyd cyn iddo ddatblygu. Cynigiwyd mynediad uniongyrchol i gleifion hefyd at wasanaethau a fyddai fel arfer angen atgyfeiriad meddyg teulu, gan gynnwys profion pwysedd gwaed, colesterol a sgrinio cyn/diabetes.
Gwnaeth y digwyddiad annog cydweithrediadau newydd yn y gymuned gan ddod â gofal sylfaenol, gofal eilaidd, gwasanaethau perthynol i iechyd, sefydliadau’r trydydd sector a busnesau lleol at ei gilydd gyda’r nod o fynd i’r afael â phenderfynyddion iechyd fel y’u mapiwyd gan fodel Labonte mabwysiedig y llywodraeth, gan sicrhau gofal iechyd teg i bawb sy’n byw yn ardal Clwstwr Dwyrain y Fro sy’n 18 oed a throsodd.
Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol gyda’r mynychwyr yn derbyn canlyniadau ar y diwrnod:
Cafodd 76% o’r rhai a fynychodd y digwyddiad y profion clinigol
Canfuwyd bod gan 63% o’r rheiny ganlyniadau annormal
Canfuwyd bod gan 6% gyflyrau difrifol cudd
Mae apwyntiadau dilynol mewn clinigau bellach yn cael eu trefnu ar gyfer y cleifion hynny
Edrychwch ar y gwaith ysgrifenedig ar y diwrnod i gael mwy o wybodaeth.