Heddiw, 21 Medi, yw Diwrnod Alzheimer y Byd, sy’n gyfle i godi ymwybyddiaeth o ddementia ac amlygu’r gwaith sy’n digwydd i gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr.
Ledled Caerdydd a’r Fro, mae Rhaglen Dementia’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn dod â’r gwasanaeth iechyd, llywodraeth leol, sefydliadau’r trydydd sector, cymunedau a phobl â phrofiad bywyd ynghyd.
Mae ein rhaglen yn canolbwyntio ar atal a chymunedau tosturiol, gofal a chymorth yn y gymuned, asesu cof a diagnosis, gofal mewn ysbytai a grymuso’r gweithlu – gan ddarparu dull cydgysylltiedig o atal a diagnosis hyd at ofal a chymorth parhaus.
Creu cymunedau sy’n deall dementia
Wrth wraidd ein dull gweithredu mae’r uchelgais i greu cymunedau lle mae pobl sy’n byw gyda dementia yn cael eu deall, eu parchu, eu cefnogi a’u cynnwys.
Mae cymunedau sy’n deall dementia yn dod â phobl leol, busnesau, sefydliadau a gwasanaethau ynghyd i helpu pobl y mae dementia yn effeithio arnynt i barhau i fyw’n dda, cynnal eu hannibyniaeth a chymryd rhan yn hyderus ym mywyd bob dydd eu cymuned.
Ledled Caerdydd a’r Fro, mae 944 o sefydliadau wedi addo dod yn gyfeillgar i ddementia, gyda 2,774 o weithwyr yn cydnabod yr heriau sy’n wynebu pobl y mae dementia yn effeithio arnynt.
Mae ein gwaith atal ehangach yn cynnwys adnoddau a mentrau cymunedol sydd wedi’u cynllunio i helpu pobl i ddeall dementia a chael gafael ar gymorth. Mae’r llawlyfr atal dementia rhanbarthol yn parhau i gyrraedd cymunedau ledled Caerdydd a’r Fro, tra bod y Llawlyfr Gofalu Drwy Newid, a gydgynhyrchwyd, yn darparu cymorth ynghylch galar, rhannu gofal a symud i ofal preswyl.
Rhoi profiad bywyd wrth wraidd ein gwaith
Mae cydgynhyrchu yn ganolog i ddull gweithredu Caerdydd a’r Fro.
Mae’r Rhwydwaith Hyrwyddwyr Dementia yn dod â phobl â phrofiad bywyd a gweithwyr proffesiynol ynghyd fel y gallant ddysgu oddi wrth ei gilydd a helpu i wella profiadau pobl sy’n byw gyda dementia a’r rhai sy’n eu cefnogi.
Mae’r rhwydwaith yn rhoi cyfle i wirio a herio gwaith Rhaglen Dementia’r BPRh, yn cynnig arweiniad ar gydgynhyrchu ac yn darparu arbenigedd ar gyfer prosiectau sy’n ymwneud â dementia. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod lleisiau a phrofiadau pobl y mae dementia yn effeithio arnynt yn dylanwadu ar ein gwaith.
Cefnogi pobl drwy asesu a diagnosis
Mae ein Gwasanaeth Asesu Cof yn rhan bwysig o’r ddarpariaeth dementia ledled Caerdydd a’r Fro.
Mae meddygon teulu bellach yn ymdrin ag 20–25% o atgyfeiriadau – tua 2,250 o bobl bob blwyddyn – ac mae 93% o gleifion yn cael asesiad llawn a diagnosis yn eu hapwyntiad cyntaf. Mae 11.8 o weithwyr cyswllt cof y gwasanaeth yn rheoli mwy na 10,000 o gysylltiadau bob blwyddyn.
Mae’r galw yn parhau i fod yn fwy na’r capasiti, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i wella cyfathrebu a chyfeirio ar gyfer pobl sydd ar y rhestr aros, datblygu llwybr cymorth gyda Phorth y Gofalwyr a defnyddio cyllid ychwanegol i helpu i fynd i’r afael â’r pwysau ar y gwasanaeth.
Gwneud ein hysbytai’n fwy cyfeillgar i ddementia
Mae’r Siarter Ysbytai sy’n Gyfeillgar i Ddementia yn nodi egwyddorion ar gyfer gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n parchu urddas, dewisiadau ac anghenion pobl sy’n byw gyda dementia.
Mae Rhwydwaith Siarter Ysbytai Caerdydd a’r Fro yn dod â phobl sydd â diddordeb ac sy’n ymwneud â gofal dementia ynghyd i gysylltu, rhannu a dysgu, gan ein helpu i wella’r profiad mewn ysbytai i bobl y mae dementia yn effeithio arnynt a’r rhai sy’n eu cefnogi.
Datblygu gweithlu sy’n deall dementia
Rydym hefyd yn gweithio i gryfhau gwybodaeth a sgiliau dementia ymhlith partneriaid iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector.
Nod ein rhaglen gweithlu yw sicrhau bod staff sy’n darparu gofal yn gallu cael mynediad at addysg a datblygiad priodol ac yn cael eu cefnogi i roi’r hyn y maent wedi’i ddysgu ar waith.
Mae Caerdydd a’r Fro yn datblygu eLyfr newydd ar ffurf prosbectws sy’n dwyn cyfleoedd dysgu am ddementia ynghyd, gan gynnwys dolenni byw, mapiau wedi’u hymgorffori, nodweddion hygyrchedd a chyfieithu amlieithog. Mae cynnwys fideo Iaith Arwyddion Prydain hefyd yn cael ei ystyried.
Cysylltu, ysbrydoli a chydweithio
Mae Diwrnod Alzheimer y Byd yn rhoi cyfle nid yn unig i godi ymwybyddiaeth o ddementia, ond hefyd i gydnabod y bobl a’r partneriaethau sy’n gweithio bob dydd i wneud gwahaniaeth.
O gymunedau sy’n deall dementia ac atal, i ddiagnosis, gofal mewn ysbytai, datblygu’r gweithlu a chydgynhyrchu, mae ein gwaith ledled Caerdydd a’r Fro yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd y gwasanaeth iechyd, llywodraeth leol, sefydliadau’r trydydd sector, cymunedau a phobl â phrofiad bywyd yn cydweithio.
Cysylltu – Ysbrydoli – Cydweithio.
Dysgwch fwy am Raglen Dementia Caerdydd a’r Fro a sut y gallwch gymryd rhan:
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro

