Yfory, 15 Ebrill, rydym yn falch o gefnogi Diwrnod Gofalwyr yn Actif Gyda’n Gilydd – diwrnod ymwybyddiaeth cenedlaethol sy’n cydnabod rôl hanfodol gofalwyr di-dâl ac yn hyrwyddo cyfleoedd i gefnogi eu hiechyd a’u lles.
Ledled Caerdydd a Bro Morgannwg, mae partneriaid yn dod ynghyd i bwysleisio pwysigrwydd aros yn actif, yn gysylltiedig ac yn cael eu cefnogi. I nodi’r diwrnod, rydym yn falch o rannu dau e-fwletin pwrpasol:
- E-fwletin Gofalwyr Di-dâl Oedolion yn Actif
👉 https://content.govdelivery.com/accounts/UKGLAMORGAN/bulletins/4109db8 - E-fwletin Gofalwyr Ifanc yn Actif
👉 https://content.govdelivery.com/accounts/UKGLAMORGAN/bulletins/410fd3e
Mae’r bwletinau hyn yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol, cyfleoedd lleol a’r gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr di-dâl oedolion a gofalwyr ifanc.
Cymryd rhan – digwyddiadau lleol
Fel rhan o Ddiwrnod Gofalwyr yn Actif Gyda’n Gilydd, mae ein partneriaid yn cynnal gweithgareddau hygyrch a chyfeillgar i annog gofalwyr i gymryd amser iddyn nhw eu hunain a chysylltu ag eraill.
Valeways Strollers – Teithiau Cerdded Cyfeillgar i Ofalwyr
Mae croeso cynnes i ofalwyr di-dâl a’r bobl y maent yn gofalu amdanynt ymuno â thaith gerdded hamddenol a chymdeithasol. Mae’r sesiynau hyn wedi’u cynllunio i fod yn gynhwysol, ysgafn a chroesawgar i bob gallu.
Opsiwn 1: Llynnoedd Cosmeston
- Amser: 10:30yb
- Lleoliad: Tu allan i’r Ganolfan Ymwelwyr, Llynnoedd Cosmeston, Heol Lavernock, CF64 5UY
- Mae parcio am ddim ar gael i ofalwyr di-dâl (dywedwch wrth y trefnwyr ar gyrraedd)
- Cyswllt: Owen – 07789 663436
Opsiwn 2: Llanilltud Fawr
- Amser: 2:30yp
- Lleoliad: Tu allan i Neuadd y Dref, CF61 1SD
- Cyswllt: Alan – 07551 620326
Bydd pob taith gerdded yn para tua awr (tua 2 filltir) ac yn cynnig cyfle gwych i fwynhau’r awyr agored, cwrdd ag eraill a chefnogi eich lles.
Mae Valeways yn elusen wirfoddol annibynnol sy’n ymrwymedig i hyrwyddo iechyd a lles drwy gerdded, gwella mynediad diogel i gefn gwlad y Fro, a darparu cyfleoedd cerdded cynhwysol i bobl o bob oed a gallu.
Cefnogi ein gofalwyr
Mae gofalwyr di-dâl yn chwarae rôl hanfodol yn ein cymunedau, yn aml yn cydbwyso cyfrifoldebau gofalu gyda’u hiechyd a’u lles eu hunain. Mae Diwrnod Gofalwyr yn Actif Gyda’n Gilydd yn gyfle i gydnabod y cyfraniad hwn ac annog gofalwyr i gymryd amser iddyn nhw eu hunain, aros yn actif a theimlo’n gysylltiedig.
Rydym yn annog partneriaid, cymunedau ac unigolion i rannu’r wybodaeth hon a chefnogi gofalwyr i gymryd rhan.