Dod yn Gynrychiolydd BPRh ar gyfer Gofalwyr Di-dâl

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro yn chwilio am ofalwr di-dâl i ymuno â’n Bwrdd i ddylanwadu a chynllunio cymorth a gwasanaethau hirdymor ar draws y rhanbarth.

Byddem wrth ein boddau’n clywed gennych os ydych yn teimlo y gallwch ddefnyddio eich gwybodaeth a’ch cysylltiadau â gofalwyr eraill i sicrhau bod ein gwaith yn adlewyrchu barn a phrofiadau gofalwyr di-dâl.

Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fo pobl ei angen fwyaf a bod yr heriau y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu wedi dod yn anoddach fyth dros y flwyddyn ddiwethaf. Dyma gyfle cyffrous i edrych tua’r dyfodol drwy ddod yn aelod o’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a Chyd-gadeirydd y Bwrdd Gofalwyr Di-dâl, sy’n goruchwylio’r gwaith o ddatblygu gwasanaethau rydyn ni’n eu hariannu i gefnogi gofalwyr di-dâl.

I roi blas i chi ar ein gwaith, byddwn yn:

  • Cyhoeddi Siarter Gofalwyr Di-dâl i helpu pobl ddeall os ydynt yn ofalwyr a’r cymorth y gallant ei ddisgwyl;
  • Rhoi cyhoeddusrwydd i’r Porth Gofalwyr, sy’n cefnogi gofalwyr di-dâl a’u helpu i gael cyngor ariannol, grantiau a gwasanaethau eraill;
  • Datblygu ein cynlluniau ar gyfer y pum mlynedd nesaf – gan siapio gwasanaethau o amgylch yr hyn sydd bwysicaf i bobl a dod â nhw mor agos at adref â phosi

Bydd y BPRh yn talu costau trafnidiaeth a, lle bo hynny’n berthnasol, costau seibiant

Ffilm fer am Borth Gofalwyr Caerdydd a’r Fro

Sut i wneud cais

Cynhelir y cyfweliadau ar 19 a 20 Hydref 2022

Os hoffech gael gwybodaeth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Lani Tucker trwy e-bostio [email protected] neu ffonio 01446 741706.

Skip to content