Dr Ayla Cosh yn Derbyn y Wobr Gwneud Gwahaniaeth

Yng Nghynhadledd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro eleni, derbyniodd Dr Ayla Cosh y Wobr Gwneud Gwahaniaeth, i gydnabod ei gwaith yn gwella mynediad at ofal iechyd i rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.

Mae Ayla wedi bod yn feddyg teulu ers 16 mlynedd ac wedi treulio rhan helaeth o’i gyrfa yn gweithio mewn ardaloedd o amddifadedd uchel. Drwy’r profiad hwnnw, gwelodd drosti ei hun nad yw systemau gofal iechyd traddodiadol bob amser yn diwallu anghenion pobl sy’n wynebu rhwystrau niferus wrth geisio cael gofal.

“Rydw i wastad wedi ceisio meddwl am ffyrdd gwahanol o wella mynediad,” eglura Ayla. “Mae gweld pobl yn wynebu’r rhwystrau hynny drosof fy hun wastad wedi bod yn gymhelliant mawr i mi. Mae pawb yn haeddu tegwch, parch a charedigrwydd.”

Ymunodd Ayla â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn 2018, gan weithio i ddechrau fel meddyg teulu cyflogedig ym maes gofal iechyd mewn carchardai ac ym Mhractis Mynediad at Iechyd Caerdydd, fel yr oedd yn cael ei alw bryd hynny. Yn 2020, daeth yn Gyfarwyddwr Clinigol ac ers hynny mae wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad Gwasanaeth Cynhwysiant Iechyd Caerdydd a’r Fro (CAVHIS).

Ond wrth sôn am dderbyn y Wobr Gwneud Gwahaniaeth, mae Ayla yn pwysleisio’n glir mai cyflawniad ar y cyd yw’r cynnydd sydd wedi’i wneud drwy CAVHIS.

“Rydw i’n hynod ddiolchgar am ymdrech y tîm cyfan i sicrhau bod CAVHIS wedi cyrraedd lle mae heddiw,” meddai. “Mae’r cynnydd wedi bod yn bosibl diolch i gefnogaeth cydweithwyr, gwaith partneriaeth effeithiol iawn a pharodrwydd pawb i gydweithio.”

I Ayla, nid rhywbeth buddiol yn unig yw gweithio mewn partneriaeth – mae’n hanfodol. Mae cysylltiad agos rhwng iechyd a thai, cyllid a llawer o agweddau eraill ar fywydau pobl. Mae hyn yn golygu na all unrhyw sefydliad unigol fynd i’r afael â’r heriau y mae pobl yn eu hwynebu ar ei ben ei hun.

“Mae gweld pobl yn wynebu’r rhwystrau hynny drosof fy hun, a cheisio symud tuag at system decach sy’n cydnabod gwerth ac urddas pawb, wastad wedi bod yn gymhelliant mawr i mi.”

“Y peth pwysicaf rydw i wedi’i ddysgu yw pa mor hanfodol yw gweithio mewn partneriaeth. Yn y maes hwn, mae’n amhosibl gwneud cynnydd heb gydweithio fel partneriaid. Mae’r heriau iechyd a chymdeithasol cymhleth sy’n wynebu grwpiau cynhwysiant iechyd wedi’u cysylltu mor agos â’i gilydd – mae gwir angen ein gilydd arnom er mwyn gwella pethau i bobl.”

Mae gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr ym maes iechyd, awdurdodau lleol, tai a’r trydydd sector hefyd wedi cynnig cyfleoedd i ddysgu o brofiadau ac arbenigedd gwahanol pob partner.

Gwers arall y mae Ayla wedi’i dysgu drwy ei gwaith yw gwytnwch rhyfeddol y bobl y mae CAVHIS yn eu cefnogi.

“Rydych chi’n cwrdd â phobl sydd wedi wynebu heriau enfawr a chymhleth, ac eto maen nhw’n dal i sefyll. Efallai y byddwch chi’n cwrdd â rhywun ar adeg arbennig o anodd yn eu taith, ond nid yw taith neb wedi dod i ben. Rydyn ni i gyd yn cydweithio i helpu pobl i gymryd y cam cadarnhaol nesaf.”

Mae mwy i’w wneud o hyd, ond mae Ayla yn credu bod y bartneriaeth yn symud i’r cyfeiriad cywir – gyda’r uchelgais o weld mwy fyth o gydweithio a dulliau gweithredu ar y cyd rhwng sefydliadau yn y dyfodol.

Ac er mai enw Ayla sydd ar y Wobr Gwneud Gwahaniaeth, mae hi’n awyddus i sicrhau bod y gydnabyddiaeth yn cael ei rhannu’n llawer ehangach – gyda’r cydweithwyr a’r partneriaid sy’n parhau i gydweithio i wneud gwahaniaeth i bobl ledled Caerdydd a’r Fro.

Skip to content