Mae byrddau iechyd ledled De-ddwyrain Cymru yn gofyn i bobl leol helpu i lunio sut y gallai gwasanaethau gofal iechyd gael eu darparu ledled y rhanbarth yn y dyfodol.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi lansio cyfle ymgysylltu newydd i glywed gan gleifion, gofalwyr, teuluoedd, staff a chymunedau am eu profiadau, eu blaenoriaethau a’r hyn sydd bwysicaf iddynt wrth gael mynediad at ofal iechyd.
Fel Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hi bod lleisiau pobl a chymunedau’n cael eu clywed wrth gynllunio gwasanaethau. Felly, rydym yn annog pobl ledled Caerdydd a Bro Morgannwg, yn ogystal â’n partneriaid a’n rhwydweithiau ehangach, i gymryd rhan yn yr arolwg a chefnogi’r sgwrs ranbarthol bwysig hon.
Pam mae’r byrddau iechyd yn cydweithio?
Mae’r GIG yn wynebu heriau sylweddol, ond mae cyfleoedd hefyd i weithio’n wahanol a gwneud gwell defnydd o’r staff, y sgiliau, y cyfleusterau a’r dechnoleg sydd ar gael ledled De-ddwyrain Cymru.
Drwy gynllunio a darparu rhai gwasanaethau gyda’i gilydd, gall byrddau iechyd archwilio sut y gall pobl gael mynediad at y gofal cywir, yn y lle cywir, ar yr adeg gywir.
Nid yw gweithio’n rhanbarthol yn golygu disodli gwasanaethau lleol. Yn hytrach, mae’n cynnig cyfleoedd i rannu arbenigedd, offer a chapasiti arbenigol ledled De-ddwyrain Cymru lle gallai hyn sicrhau mwy o fudd i gleifion.
Dweud eich dweud
P’un a ydych yn defnyddio gwasanaethau’r GIG, yn gofalu am rywun sy’n eu defnyddio, yn gweithio ym maes iechyd neu ofal, neu’n syml am gael dweud eich dweud am ddyfodol gofal iechyd yn eich cymuned, mae eich barn yn bwysig.
Mae’r arolwg yn gyfle i rannu eich profiadau, eich barn a’ch blaenoriaethau a helpu’r byrddau iechyd i ddeall yr hyn sydd bwysicaf i bobl ledled y rhanbarth.
Dysgwch fwy a chwblhewch arolwg Cydweithio yn Ne-ddwyrain Cymru:
https://cavuhb.nhs.wales/about-us/public-engagement-consultation/working-together-in-south-east-wales/
Rydym hefyd yn annog ein partneriaid a’n rhanddeiliaid i rannu’r cyfle ymgysylltu drwy eu rhwydweithiau eu hunain a’n helpu i gyrraedd cynifer o bobl a chymunedau â phosibl.
Bydd pob ymateb yn helpu i greu darlun cliriach o’r hyn sydd bwysicaf i bobl De-ddwyrain Cymru ac yn helpu i lywio’r gwaith o gynllunio gwasanaethau gofal iechyd ledled ein rhanbarth yn y dyfodol.