Eich Lle, Eich Digwyddiad Iechyd – digwyddiad teuluol am ddim yr hanner tymor hwn

Mae teuluoedd ym Mharri yn cael eu gwahodd i fynychu Eich Lle, Eich Digwyddiad Iechyd, digwyddiad iechyd a lles cymunedol am ddim sy’n cael ei gynnal yn ystod hanner tymor Chwefror.

Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i deuluoedd lleol gael mynediad at gyngor a chymorth iechyd am ddim mewn amgylchedd hamddenol a chroesawgar, yn ogystal â chasglu syniadau syml i helpu i gadw’r teulu cyfan yn iach.

Bydd ymwelwyr yn gallu:

  • Siarad â thimau iechyd a lles lleol
  • Gwylio demos cymorth cyntaf a chael cyngor ymarferol
  • Dysgu mwy am frechiadau a chymorth arall sydd ar gael yn lleol

Mae’r digwyddiad wedi’i gynllunio i fod yn gyfeillgar i deuluoedd ac yn anffurfiol, gyda gweithgareddau hwyliog, ymarferol i blant, gan gynnwys paentio wynebau a chwaraeon, gan ei wneud yn ddiwrnod allan pleserus i bob oedran.

Nid oes angen archebu, ac mae croeso i deuluoedd alw heibio unrhyw bryd yn ystod y dydd.

Manylion y digwyddiad
📅 Dydd Llun 16 Chwefror
10.30yb – 3yp
📍 Ysgol Uwchradd Pencoedtre, Barri (CF62 9YQ)

Mae Eich Lle, Eich Digwyddiad Iechyd yn rhan o waith parhaus partneriaid ledled Bro Morgannwg i gefnogi cymunedau i aros yn iach ac yn dda.

Skip to content