
Cymerwch ran
Os hoffech gymryd rhan yn y gwaith o lunio ein cynlluniau a gwneud penderfyniadau, rhowch wybod i ni.
MAE BPRH CAERDYDD A’R FRO YN CYNNAL DIGWYDDIADAU RHEOLAIDD I GLYWED BARN A PHROFIADAU POBL.

Rydym am ddylunio gwasanaethau a mannau sy’n gweithio i chi a gobeithiwn y byddwch yn barod i gymryd rhan.
Rhowch wybod i ni os hoffech glywed am gyfleoedd i ddweud eich dweud a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith.
Ydych chi’n cynnal ymgysylltiad yng Nghaerdydd neu Fro Morgannwg?
Mae aelodau’r RPB, a gefnogir gan Gyngor Trydydd Sector Caerdydd a ProMo-Cymru, wedi cydweithio i greu adnoddau y gallwch eu defnyddio:
- Offer ar gyfer darparu gwaith ymgysylltu: Rhestr Wirio Ymgysylltu a Thempled Cynllun Ymgysylltu a fydd yn eich tywys drwy bob cam sydd ei angen i sicrhau ymgysylltiad effeithiol.
- Cronfa Ddata o Waith Ymgysylltu: Yma gallwch weld gwaith ymgysylltu blaenorol sydd wedi digwydd a darganfod beth yw barn dinasyddion ar amrywiaeth o bynciau.
- Adnoddau Arfer Da: Yma gallwch gael mynediad at adnoddau arferion da i’ch cefnogi gan ddarparu gwaith ymgysylltu o ansawdd.
- Cymuned Ymarfer: Rydym yn grŵp o ymarferwyr sy’n cyfarfod yn rheolaidd i rannu arferion da, rhwydweithio a chydweithio ar weithgareddau ymgysylltu. Os hoffech ymuno â’n rhwydwaith, e-bostiwch [email protected] gyda’r pwnc ‘Cymuned Ymarfer Ymgysylltu’.
Please sign up below or email us at [email protected].
Swyddi Gwag
Nid oes swyddi gwag ar hyn o bryd.
Ein Prif Flaenoriaethau

DECHRAU’N DDA
STARTING WELL
Rydym am i bob plentyn yng Nghaerdydd a’r Fro gael y cyfle i ffynnu. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar blant mewn sefyllfaoedd bregus a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.

HENEIDDIO’N DDA
AGEING WELL
Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddod o hyd i help pan fydd pobl ei angen fwyaf. Rydym am sicrhau bod cymorth cymunedol ar gael i helpu pobl i aros mor iach â phosibl fel y gallant barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddynt.

BYW’N DDA
LIVING WELL
Fel partneriaeth rydym wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, gofalwyr a’r trydydd sector a’r sector annibynnol i sicrhau cyfeiriad clir ar gyfer cynllunio a chyflawni gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu ar draws y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf.