Mae’n bleser gan Wasanaethau Gwirfoddol Morgannwg gyhoeddi bod ceisiadau bellach ar agor ar gyfer Cynllun Grant Mannau Cynnes 2024/25. Nod y cynllun refeniw yn unig hwn yw darparu rhwydwaith o fannau cymunedol i drigolion y Fro sy’n cynnig lle cynnes a chroesawgar i ddod at ei gilydd dros y gaeaf hwn heb unrhyw gost, a chynnig ‘Croeso Cynnes’ i wahanol rannau o’n cymunedau ym Mro Morgannwg. Gall sefydliadau wneud cais am uchafswm o £1500.
Nid oes isafswm o gwbl. Mae’r Gronfa ar agor ar gyfer ceisiadau o 12 Rhagfyr 2024, a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw 12 canol dydd, ddydd Iau 2 Ionawr 2025. RHAID gwario’r holl arian a ddyfernir erbyn 31 Mawrth 2025.
Ceir rhagor o wybodaeth am wneud cais yma: https://lnkd.in/eRX-w2TZ