Ar 22 Ionawr, daeth partneriaid o bob rhan o iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd ar gyfer gweithdy yn Neuadd y Sir a oedd yn canolbwyntio ar sut y gallem ddatblygu rhywfaint o’r gwaith gwych yn y gymuned sy’n helpu i gadw pobl yn iach ac osgoi’r angen i fynd i’r ysbyty.
Bu gwasanaethau fel Safe@home yn trafod ffyrdd o gysylltu’n agosach â meysydd eraill i helpu mwy o bobl i gadw’n iach. Gallwch ddarganfod mwy am ein rhaglen @Home ar ein gwefan yma.